Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

202 LLANDEILO

CYFEIRNOD GRID: SN 628221
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU : 131.30

Cefndir Hanesyddol
Lleolir Llandeilo yng nghanol dyffryn Tywi, a arferai fod yn rhan o arglwyddiaeth Cantref Mawr a arhosodd yn annibynnol ar reolaeth Eingl-Normanaidd nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284. Fodd bynnag, dechreuwyd anheddu o fewn yr ardal gymeriad hon cyn y cyfnod hwnnw. Saif y dref o bobtu i'r ffordd Rufeinig o Lanymddyfri (Alabum) i Gaerfyrddin (Moridunum), efallai wrth gyffordd â ffordd Rufeinig arall a redai i'r de tua Chasllwchwr (Leucarum) sy'n awgrymu bod pont dros afon Tywi yn y fan hon. Y tebyg yw bod caer Rufeinig hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llanymddyfri wedi'i lleoli gerllaw'r dref a chynigiwyd safle posibl yng nghyffiniau Rhosmaen (James 1992; Sambrook and Page 1995, 4). Ymddengys fod y broses anheddu wedi dechrau ynghynt yn yr ardal hon nag yn ardal gyfagos Dinefwr (Ardal 195) a hynny ar ffurf eglwys Teilo Sant (eglwys plwyf Llandeilo Fawr yn ddiweddarach), y credir iddi gael ei sefydlu yn y 6ed ganrif (Samuel 1868, 74), ac y cyfeiriwyd ati yn Efengylau Caerlwytgoed sy'n rhagflaenu'r Goresgyniad (Ludlow 1998). Erbyn y 9fed ganrif Llandeilo Fawr oedd un o'r cymunedau eglwysig mwyaf dylanwadol yn yr ardal (Sambrook and Page 1995, 4), ac roedd ganddi ddwy Heneb Gristnogol Gynnar (tair gynt), a ffynnon yn y fynwent fawr. Fe'i trosglwyddwyd i'r Abaty Premonstratensaidd yn Nhalyllychau gan Rhys Grûg tua 1215 (Price 1879, 166). Credir i'r dref ddechrau o fewn y gymuned eglwysig fach hon. Yn ddiau roedd wedi'i sefydlu erbyn 1213 pan ymosodwyd ar y 'dref' a'i 'llosgi'n ulw' (Jones 1952, 87), ond ymddengys i Esgobion Tyddewi, y trosglwyddwyd y dref a'r patria iddynt ar ddiwedd y 13eg ganrif, annog iddi dyfu, ac erbyn 1306 cynhwysai 30 o fwrdeisiaid ac 11 o denantiaid eraill (Soulsby 1983, 160). Rhoddwyd i'r dref yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a thair ffair flynyddol (Willis-Bund 1902, 263-9), a gynhelid yn y farchnadfa fawr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys. Roedd melin yno hefyd ac roedd o leiaf un capel eilradd wedi'i leoli o fewn yr ardal gymeriad, ond ymddengys fod y dref Ganoloesol wedi'i chyfyngu i ardal o amgylch y fynwent, y farchnadfa, Stryd y Bont, a rhan isaf Stryd Rhosmaen. Cyfeirir at bont ym 1289 (Soulsby 1983, 22) ond codwyd y strwythur presennol ym 1848 gan W Williams o Landeilo i gymryd lle pont gynharach a leolid i lawr yr afon. Datblygodd Ffairfach fel anheddiad yng nghysgod y dref, i'r de o'r bont, ac fe'i cofnodwyd fel safle ffair flynyddol gan George Owen ym 1601 (Sambrook and Page 1995, 22). I'r dwyrain o Ffairfach ond o fewn Ardal 202 lleolir safle Tre?gib, cyn-blasty a oedd wedi'i sefydlu erbyn y 16eg ganrif (Jones 1987, 186) ar safle pentrefan yn perthyn i'r 14eg ganrif y mae'n bosibl bod ganddo ei farchnad ei hun (Rees 1932). Mae'n bosibl bod yr enw lle 'maerdy' gerllaw, sy'n cynnwys yr elfen maer neu feili, yn gysylltiedig â'r daliad mynachaidd yn Ardal 190 neu ystad Tre?gib (Sambrook and Page 1995, 17). Ar ôl hynny araf fu datblygiad y dref ac mae'n debyg na ddechreuodd ddatblygu tan y 18fed ganrif. Fodd bynnag, erbyn 1841 roedd y dref wedi ymestyn i'r gogledd ac i'r gorllewin (map degwm Llandeilo Fawr) tra ystyrid bod y dref yn ddigon pwysig i gynnal Llysoedd Chwarter Canol Haf y Sir (Soulsby 1983, 162). Roedd hefyd yn safle stopio ar y Ffordd Bost a ddilynai lwybr y ffordd Rufeinig (a ffordd fodern yr A40). Fe'i gwnaed yn ffordd dyrpeg ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43) ac fe'i cyfeiriwyd trwy'r fynwent yn y 1840au (Ludlow 1998). Tyfodd Rhosmaen fel datblygiad hirgul o bobtu i'r ffordd ac erbyn diwedd y 19eg ganrif cynhwysai gapel a diwydiant gan gynnwys tanerdy. Sefydlodd prif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd fel 'Llinell Dyffryn Tywi' ym 1858 (Gabb, 1977, 76) orsaf reilffordd yn y dref, a symbylodd y dref i dyfu i'r gogledd tua Rhosmaen. Sefydlwyd gorsaf arall yn Ffairfach wrth y gyffordd â'r llinell o Landeilo i Lanelli, a oedd wedi'i gosod yn y 1840au (Morgan 1958). I bob pwrpas cyfyngir ar allu'r dref i ymestyn i'r gorllewin gan Barc Dinefwr (Ardal 195) ond yn ystod yr 20fed ganrif bu'r Cyngor yn datblygu i'r gogledd o'r parc ac adeiladwyd gorsaf dân a gorsaf heddlu yn agos at y fynedfa iddo

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir y dref hanesyddol ar lan ogleddol Afon Tywi, ar deras afon sy'n graddol ddisgyn o'r gorllewin i'r dwyrain rhwng 40 m a 80 m. Nodwedd amlycaf y dref yw tðr yr eglwys yn dyddio o'r 16eg ganrif sy'n edrych dros y bont. Lleolir Ffairfach ar y lan ddeheuol ac mae'r ardal gymeriad yn cynnwys datblygiadau hirgul o bobtu i'r A40(T) i'r gogledd. Mae'r dref yn cynnwys prif stryd echelinol, Stryd y Bont/Stryd Rhosmaen, sy'n rhedeg i'r gogledd-ddwyrain o'r bont, a fforchai'n ddwy yn wreiddiol o amgylch y fynwent fawr. Roedd Stryd Rhosmaen yn rhan o'r ffordd dyrpeg o Gaerfyrddin i Lanymddyfri a'r A40(T) yn ddiweddarach. Mae'r fynwent led hirsgwar, a oedd y prif gnewyllyn, erbyn hyn wedi'i rhannu'n ddwy gan y stryd hon ond mae'n dal i fod yn lle gwyrdd agored mawr. Mae Stryd y Bont yn arwain i fyny'r bryn o'r bont un bwa osgeiddig ac fe'i nodweddir gan anheddau deulawr/trillawr deniadol sydd wedi'u lliwio yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Y tu ôl i'r anheddau hyn ac i'r gorllewin ohonynt mae bryn coediog Parc Penlan (Ardal 195) yn codi. Mae'r farchnadfa i'r gogledd-orllewin o'r eglwys wedi'i mewnlenwi bellach; yn Stryd Caerfyrddin, sy'n arwain i fyny'r bryn i'r gorllewin o'r farchnadfa, ceir nifer o adeiladau o ansawdd da gan gynnwys y farchnad fwydydd sgwâr a adeiladwyd o gerrig ym 1838. At ei gilydd mae Stryd Rhosmaen yn cynnwys datblygiadau o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Ym 1800 safai 'tai to gwellt o'r disgrifiad mwyaf truenus' yn y stryd hon (Soulsby 1983, 162) ond erbyn hyn saif yno brif Dafarn Cerbydau y dref, sef y Cawdor Arms, a adeiladwyd tua 1845 o amgylch iard, a nifer o adeiladau dinesig o ansawdd da a godwyd tua diwedd y 19eg ganrif - banciau, hen Swyddfa'r Post ac ati. Adeiladwyd New Road rhwng Stryd Rhosmaen a Stryd Caerfyrddin tua diwedd y 19eg ganrif i osgoi'r ffyrdd cyfyng o amgylch y fynwent. Nodweddir y treflun gan nifer o aleau ac iardiau anffurfiol, nad yw'n bosibl i draffig olwynog gael mynediad iddynt yn iawn ond sy'n cynnwys adeiladau o'r 19eg ganrif, a godwyd yn aml ar ddechrau'r ganrif ac sydd o ansawdd da. Mae nifer o derasau a godwyd tua diwedd y 19eg ganrif wedi'u canoli ar ymyl ogleddol y dref o amgylch yr orsaf reilffordd. Mae Ffairfach a Rhosmaen yn ddatblygiadau hirgul, llinellol a adeiladwyd tua diwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif ac mae ganddynt eu capeli eu hunain. At ei gilydd mae datblygu yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi digwydd i'r gorllewin o'r craidd hanesyddol ac i'r gogledd o Barc Dinefwr (Ardal 195) ac fe'i nodweddir gan dai a adeiladwyd gan y cyngor. Nid oes unrhyw ddatblygiad dibynnol yn Llandeilo ac nid oes unrhyw ddatblygiadau manwerthu na busnes y tu allan i'r dref, er i ffordd osgoi y gogledd gael ei chwblhau ym 1994, datblygiad a gymerodd draffig yn teithio o'r dwyrain i'r gorllewin i ffwrdd o ganol y dref; mae'r traffig sy'n teithio o'r gogledd i'r de yn dal i fynd trwy ganol y dref. Dymchwelwyd Tí Tre?gib ym 1974 ac mae Ysgol Uwchradd y dref a'i meysydd yn mynd â'r rhan fwyaf o'r parc. Fodd bynnag, mae llwyfan a therasau'r tþ i'w gweld o hyd - ar y llwyfan y gosodwyd cylch cerrig yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 1996 - tra bod y parc wedi cadw llawer o'i gymeriad gan gynnwys llawer o goed nodweddiadol.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys nodweddion o'r cyfnod Canoloesol hyd at y cyfnod Modern sydd wedi'u trafod i raddau helaeth ond mae'n cynnwys mannau darganfod Rhufeinig a'r ddwy Heneb Gristnogol Gynnar yn dyddio o'r 10eg ganrif i'r 11eg ganrif.

Mae nifer fawr o adeiladau rhestredig - tua 75 yn yr ardal dirwedd hon - y mae'r mwyafrif ohonynt yn dai tref ac yn adeiladau dinesig. Hefyd ymhlith yr adeiladau rhestredig hyn mae'r eglwys a ailadeiladwyd ar raddfa fawr ym 1848-51 yn ôl cynlluniau Syr George Gilbert Scott, a'r ffynnon (y ddwy'n rhestredig Gradd II), y bont ffordd ( sy'n rhestredig Gradd II*), y bont reilffordd bresennol yn dyddio o 1898, yr hen farchnad fwydydd yn dyddio o 1838 a'r Cawdor Arms (pob un yn rhestredig Gradd II), yn ogystal â nifer o gapeli.