Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

208 YSTRAD TYWI: LLANGADOG - LLANYMDDYFRI

CYFEIRNOD GRID: SN 723316
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 925.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr gul sy'n ymestyn o Langadog yn y de-orllewin i Lanymddyfri yn y gogledd-ddwyrain, a leolir yng ngorlifdir llifwaddodol ffrwythlon Afon Tywi. Y dyffryn hwn oedd prif goridor y llwybr hanesyddol i Orllewin Cymru a dilynai'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, a leolir ychydig y tu mewn i gwr gogledd-orllewinol yr ardal gymeriad hon, y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a daeareg solet ochr ogleddol Afon Tywi. Dilynai ffordd dyrpeg ddiweddarach lwybr y ffordd Rufeinig hon fwy neu lai, yn ogystal ffordd bresennol yr A40(T) - gweler Ardaloedd 182 a 196. Mae Afon Tywi yn yr ardal hon yn weithredol ac mae ei chwrs yn newid ar draws llawr y dyffryn, a chyfeiriwyd at natur goediog y dyffryn gan ysgrifenwyr cynnar gan gynnwys Leland ym 1530au (Smith 1906), yr ymddengys eu bod yn disgrifio'r gorlifdir. Felly, mae'n debyg bod y patrwm presennol o gaeau rheolaidd yn perthyn i gyfnod diweddarach. Mae'n bosibl bod y tir wedi'i amgu yn ystod y 18fed ganrif, ond yn ddiau roedd wedi'i amgu erbyn i'r arolygon degwm gael eu cynnal yn ail chwarter y 19eg ganrif. Ar ben hynny, ychydig iawn o anheddu a fu ar y gorlifdir erioed. Fodd bynnag mae ychydig o ffermydd ac anheddau yn yr ardal hon, sydd hefyd wedi'u lleoli ar y rhyngwyneb neu ar 'ynysoedd' o fewn y gorlifdir a ffurfiwyd gan rewlif; mae un o'r ffermydd hyn, sef Pentremeurig, yn dyddio o'r 16eg ganrif a chofnodwyd bod ganddi 7 aelwyd mewn asesiad a gynhaliwyd ym 1670 (Jones 1987, 155). Felly mae'n bosibl bod lleoliad yr anheddau hyn yn adlewyrchu patrymau anheddu cynharach. Mae'n bosibl bod dyddodiadau mawn wedi'u nodi rhwng y llifwaddod a'r ddaeareg waelodol mewn mannau eraill o fewn Dyffryn Tywi (Tudalen 1994, 4,9), lle y credid eu bod yn cynrychioli naill ai 'ynysoedd' o'r fath yn y gorlifdir, neu ddarnau o'r gorlifdir oedd wedi sychu (gweler Ardal 196 hefyd) ac er na chofnodwyd unrhyw safleoedd cynhanesyddol o fewn yr ardal mae'n rhaid pwysleisio mai dyma un o'r cyfnodau y gwyddom y lleiaf amdano o fewn Dyffryn Tywi (Cadw/ICOMOS, 1998, 28). Yn ystod y cyfnod Canoloesol yr afon hon oedd un o brif ffiniau Sir Gaerfyrddin, a gwahanai Cantref Mawr ar y lan ogleddol oddi wrth Gantref Bychan ar y lan ddeheuol (Rees, 1932). O ganlyniad, bu hanes cymysg o ran deiliadaeth i'r ardal dirwedd hon a phrofodd gyfnod cythryblus o ryfela tan ddiwedd y 13eg ganrif; parhaodd Cantref Mawr, yn wahanol i Gantref Bychan a gafodd ei oresgyn a'i ailoresgyn yn y 12fed ganrif, i fod yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284 (Rees 1953, xv) ac mae'n bosibl bod y t l-Ganoloesol yn Ystrad yn sefyll ar lys Canoloesol Gwestfa Ystradmynys y lleolid yr ardal hon yn rhannol y tu mewn iddo. Nid ymddengys y bu pont dros Afon Tywi erioed rhwng Llangadog a Llanymddyfri ond roedd o leiaf ddwy ryd hanesyddol, efallai tair. Dilynai'r ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis 1971, 43) linell y ffordd Rufeinig fwy neu lai ac erbyn hyn dyma'r A40(T). Mae'r A4069 ar dir sych rhwng Llangadog a Llanymddyfri ar ochr ddeheuol y dyffryn hefyd yn dilyn llinell ffordd dyrpeg a ddechreuwyd ym 1779 (ibid.). Yn y cyfamser croesir y gorlifdir gan brif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn-LNWR a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858 (Gabb, 1977, 76). Ychydig o ddiwydiant a ddatblygodd yn yr ardal hon er i ffatri wln weithredu ym Mhentremeurig o bosibl.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal hon yn cynnwys gorlifdir Afon Tywi ynghyd llethrau isaf y dyffryn sy'n graddol ddisgyn. O fewn yr ardal hon mae gorlifdir Afon Tywi yn codi rhyw 20 m, o 40 m OD yn y pen gorllewinol i 60 m OD yn y pen dwyreiniol, dros bellter o 7 km. Mae llethrau isaf y dyffryn yn codi i 60 m i 70 m ar eu huchaf. Uwchben y llethrau isaf hyn mae llethrau'r dyffryn yn codi'n serth, yn enwedig ar yr ochr ogleddol tua Llanymddyfri, i dros 150 m. Mae'r rhan hon o ddyffryn Tywi yn goridor llwybr naturiol. Defnyddiodd y Rhufeiniaid y llwybr ar gyfer y ffordd o Lanymddyfri i Gaerfyrddin, ac yn fwy diweddar adeiladwyd ffyrdd tyrpeg ar y naill ochr a'r llall i'r dyffryn. Erbyn hyn dilynir llwybr y ffordd dyrpeg ar yr ochr ogleddol gan yr A40(T), a llwybr y ffordd dyrpeg ar yr ochr ddeheuol gan yr A4069. Mae'r rheilffordd sy'n rhedeg ar hyd y gorlifdir ar arglawdd isel hefyd yn defnyddio'r coridor llwybr hwn. Lle y gellir gweld ardaloedd o ddyddodi ac erydu ar Afon Tywi ni cheir patrwm pendant o gaeau, a cheir tir prysglog, brwynog. Fodd bynnag, mae'r ardaloedd hyn yn eithaf cyfyngedig ac mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi'i rhannu'n gaeau eithaf rheolaidd o faint canolig. Nodir ffiniau'r caeau gan wrychoedd heb gloddiau a chloddiau gwrychoedd ar eu pennau. Mae'r gwrychoedd heb gloddiau wedi'u plannu ar lawr y dyffryn i hwyluso draenio llifddwr yn l pob tebyg. Gyda rhai gwrychoedd ceir ffosydd. Mae'r mwyafrif o'r gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod nifer sylweddol ohonynt yn dechrau dirywio. Ategir y mwyafrif o'r gwrychoedd gan ffensys gwifrau. Mae gan lawer o'r gwrychoedd goed gwrych nodweddiadol, ac mae'r coed hyn ynghyd choed unig a phrysglwyni bach yn rhoi golwg parcdir i'r ardal. Mae'n bosibl bod yr effaith hon yn fwriadol, ac mai'r nod oedd cyfuno'r ardal hon 'r parciau ar ochr ogleddol y dyffryn sy'n gysylltiedig phlastai. Mae aneddiadau wedi'u cyfyngu i derasau isel a leolir ychydig uwchben y gorlifdir ac ar lethrau'r dyffryn. Cynrychiolir ystod eang o ddosbarthiadau economaidd a chymdeithasol gan adeiladau'r ardal hon o'r plasty yn Ystrad, sydd ag ardal o barcdir, i'r bythynnod bach ar ochr y ffordd. Fodd bynnag, nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig ar hyd teras afon i'r de o Lanwrda, ar lethrau isaf y naill ochr a'r llall i'r afon. Mae'r ffermdai'n eithaf sylweddol ac yn dueddol o fod yn y traddodiad 'boneddigaidd'. Mae gan y ffermdai hyn dai allan lled-ffurfiol, mawr, helaeth ac mae adeiladau amaethyddol modern wedi'u hychwanegu at y mwyafrif o'r tai allan hyn.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i adeiladau a safleoedd y rhydiau. Mae llawer o adeiladau nodweddiadol ond nid yw'r un ohonynt yn rhestredig. Maent yn cynnwys y plasty yng Nglan-Dulais, t Ystrad a'r parc sy'n dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif, a Phentremeurig sy'n dyddio o'r 16eg ganrif. At ei gilydd mae'r ffermdai'n eithaf sylweddol - yn fwy sylweddol na'r strwythurau deulawr syml ac iddynt dri bae sy'n gyffredin mewn mannau eraill.

Mae'r ffermdai hyn yn dyddio o'r 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif yn bennaf, ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig yn y traddodiad boneddigaidd yn hytrach nag yn y traddodiad brodorol. Hefyd ceir ffermdai a adeiladwyd o friciau yn yr 20fed ganrif. Mae'r adeiladau fferm hefyd yn fawr ac yn aml maent wedi'u trefnu mewn lleoliad lled-ffurfiol gyda'r ffermdy. Ceir enghreifftiau o adeiladau fferm a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif a thai allan a adeiladwyd o friciau yn yr 20fed ganrif, ac mae gan y mwyafrif o'r ffermydd gasgliadau o adeiladau amaethyddol modern.

Ardal gymeriad weddol nodweddiadol ydyw, ac mae'n gwrthgyferbynnu 'r ardaloedd cymeriad sy'n ffinio hi i'r gogledd ac i'r de lle y ceir tir ffermio amgaedig a ffermydd llai o faint, ag ardaloedd trefol Llangadog a Llanymddyfri, ac 'r cyn-barcdir i'r gogledd-ddwyrain.

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]