Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

209 ABERMARLAIS

CYFEIRNOD GRID: SN 687298
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 128.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach i'r gogledd-orllewin o orlifdir Afon Tywi sy'n cyfateb i gyn-barcdir a demn t Abermarlais. Ar un adeg lleolid yr ardal hon o fewn Cwmwd Canoloesol Maenordeilo, a ddelid o arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284. Mae'n bosibl i annedd o statws uchel gael ei sefydlu yn Abermarlais mor gynnar 'r 14eg ganrif (Rees 1932), pan oedd yn gartref i Syr Rhys ap Gruffydd a fu'n bennaeth ar y Cymry yn Crcy (Jones 1987, 4). Yn ystod yr 16eg ganrif bu Syr Rhys ap Thomas (ibid.), a oedd yn un o benaethiaid mawr yr oes Duduraidd, yn byw yno a phan fu farw fe'i hetifeddwyd gan ei yr, oedd hefyd yn dwyn yr enw Syr Rhys ap Thomas. Fe'i dienyddiwyd gan Henry VIII fel bradwr a throsglwyddwyd yr ystad, ac 'arglwyddiaeth Llansadwrn' a oedd yn agos ati, i'r goron (Sambrook and Page 1995, 21). Bu Abermarlais yn destun cerdd fawl gan Lewis Glyn Cothi ac fe'i disgrifiwyd gan Leland yn y 1530au fel 'lle golygus o gerrig' (Smith 1906), a oedd o bosibl yn adeilad lled-gaerog ond a oedd 'newydd ei atgyweirio a'i ymestyn' gan Syr Rhys ap Thomas (Jones 1987, 4). Ystyrid bod Abermarlais yn faenor, a chofnodwyd ei fod yn safle ffair flynyddol gan George Owen ym 1601 (Sambrook and Page 1995, 22) ac ym 1670 aseswyd bod ganddo 21 o aelwydydd (Jones 1987, 4). Mae hyn oll yn awgrymu efallai bod rhyw fath o anheddiad maenorol ynghlwm wrth y t. Rhoddwyd y gorau i fyw y t yn ddiweddarach, a lleolir llwyfannau cytiau a thomenni clustog sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol yn l pob tebyg i'r gogledd-orllewin o safle'r t. Gwnaed newidiadau i'r t yn ystod y canrifoedd dilynol pan grwyd y parc yn yr ardal oddi amgylch. i'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri trwy'r ardal gymeriad hon ond ymddengys fod pobl wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio erbyn y cyfnod Canoloesol ac nis dilynir gan yr un o ffiniau'r ystad. Yn ystod y cyfnod hwn, a hyd nes i'r ffordd Rufeinig gael ei throi'n ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif (sef ffordd bresennol yr A40(T)), rhedai'r llwybr o Landeilo i Lanymddyfri ar hyd y tir uwch trwy ganol yr ardal gymeriad hon (Ludlow 1999, 24). Dymchwelwyd yr hen blasty ym 1803 a chodwyd t newydd yn ei le, a ddymchwelwyd ei hun yn y 1970au. Erbyn hyn mae rhan o'r ystad yn barc carafanau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad gymharol fach hon yn ymestyn dros gyn-ddemn a pharc Abermarlais. Mae'n ymestyn o orlifdir Afon Tywi tua 40 m i fyny llethr ogleddol y dyffryn i ychydig dros 180 m ar ei huchaf. Mae T Abermarlais wedi'i ddymchwel erbyn hyn ac mae'r parc a'r ardd wedi dirywio, ond mae rhan o wal derfyn yr ystad wedi goroesi a hefyd mae ganddo ddigon o gymeriad parcdir i gyfiawnhau gwahanu Abermarlais yn ardal gymeriad ar ei phen ei hun. Er bod yr ardal wedi'i rhannol rannu'n glostiroedd mawr gan gloddiau gwrychoedd ar eu pennau, mae i'r ardal gymeriad agored, am fod llawer o'r gwrychoedd wedi'u hesgeuluso a rhennir y clostiroedd gan ffensys gwifrau yn bennaf. O amgylch safle'r hen d ceir coetir collddail, ac ar lefelau uwch cafodd planhigfa gonifferau gyfan yn dyddio o'r 20fed ganrif ei thorri i lawr yn ddiweddar. Rhwng yr ardaloedd hyn o goetir, defnyddir y tir ar gyfer porfa wedi'i gwella a phorfa arw. Mae'r ardd wal o'i hamgylch sy'n agos at yr hen d wedi goroesi; erbyn hyn lleolir parc carafanau teithio yn y fan hon. Mae o leiaf un porthordy wedi goroesi mewn cyflwr sydd wedi'i addasu gryn dipyn.

Mae llawer o'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud 'r t a'r parc ac mae'n cynnwys gardd addurnol, ond cofnodwyd llwyfannau cytiau a thomenni clustog sydd efallai'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol. Ar ben hynny mae maen hir o'r Oes Efydd ac l cnwd anhysbys, tra cynigiwyd bod ail safle tebyg yn safle caeran Rufeinig, a leolir mewn cysylltiad llinell y ffordd Rufeinig.

Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn cynnwys porthordy a phont.

Erbyn hyn nid yw'n hawdd gwahaniaethu rhwng cyn-barc yr ardal hon a'r ardaloedd cyfagos lle y ceir ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd. Mae digon o wahaniaethau, fodd bynnag, i gyfiawnhau ymdrin 'r ardal hon ar wahn.

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]