Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

213 MAESLLYDAN

CYFEIRNOD GRID: SN 779353
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 279.70

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o amgylch Neuadd Maesllydan i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanymddyfri, wedi'i lleoli yn bennaf yng ngorlifdir Afon Brn. Croesai'r ffordd Rufeinig o'r gaer yn Llanymddyfri (Alabum) yr ardal o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain, ac arweiniai at y ceyrydd ym Meulah a Chastell Collen (James 1982, 7). Dilynir ei llwybr fwy neu lai gan ffordd bresennol yr A483(T). Mae l cnwd sydd o bosibl yn ymwneud vicus y tu hwnt i git ogledd-ddwyreiniol y gaer, a sefydlwyd yn l pob tebyg yn y 50au OC (James 1991, 54), wedi'i weld yn yr ardal hon. Yn ystod y cyfnod hanesyddol lleolid yr ardal o fewn Cwmwd Hirfryn yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar l hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. I raddau helaeth cadwodd arferion deiliadaeth brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, lleolid Ardal 213 o fewn libart bwrdeistref Ganoloesol Llanymddyfri (Rees 1932), ac ymddengys iddi weithredu cyfundrefn maes agored tebyg i fodelau Seisnigedig. Y prif ddatblygiad yn yr ardal ar l hynny oedd Neuadd Maesllydan a sefydlwyd rywbryd yn ystod y cyfnod l-Ganoloesol. Fe'i cofnodwyd ym 1803 fel cartref y teulu Lloyd-Harries ac yn y diwedd cynhwysai ei ystad 4000 o erwau yn Sir Gaerfyrddin, Sir Geredigion a Sir Frycheiniog (Jones 1987, 127); llosgwyd y t i lawr ym 1977 (ibid). Mae'r ffordd y mae'r caeau wedi'u trefnu o fewn yr ardal yn awgrymu i'r patrwm presennol o glostiroedd rheolaidd gweddol fawr gael ei greu o bosibl yn y 17eg ganrif neu ar ddechrau'r 18fed ganrif, pan sefydlwyd y Neuadd, gan ddisodli'r gyfundrefn maes agored. Croesir yr ardal gan y rheilffordd o Lanymddyfri i Lanwrtyd, a sefydlasid erbyn 1871 i ffurfio rhan o Linell Canolbarth Cymru a Chyffordd Caerfyrddin Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin (LNWR). Mae'n gweithredu o hyd ac mae'n rhan o linell 'Calon Cymru'.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Maesllydan ar draws gorlifdiroedd a llethrau isaf dyffrynnoedd Afon Brn ac Afon Gwydderig ar uchder o rhwng 80 m a 90 m. Mae'n cynnwys porfa wedi'i gwella sydd wedi'i rhannu'n gaeau eithaf rheolaidd canolig eu maint, a phatrwm anheddu o nifer o ffermydd wedi'u gwasgaru'n eang ac anheddau eraill. Gwrychoedd heb gloddiau a gwrthgloddiau gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. Mae'r gwrychoed heb gloddiau wedi'u plannu ar lawr y dyffryn i hwyluso draenio llifddwr yn l pob tebyg. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda, ond mae rhai'n dechrau tyfu'n wyllt ac mae eraill wedi lled-ddirywio. Yn ogystal 'r gwrychoedd ceir ffensys gwifrau. Mae rhai coed gwrych nodweddiadol yn bresennol. Nid oes fawr ddim coetir. Lleolir ardal cefnen a rhych bendant ar draws llawr y dyffryn i'r de o Lanfair-ar-y-bryn, ac mae'n ddigon posibl eu bod yn bresennol mewn mannau eraill. Mae'r ardal cefnen a rhych, tystiolaeth hanesyddol mapiau o lain-gaeau amgaedig, a'r enw lle Maesllydan, i gyd yn awgrymu bod system maes agored wedi'i lleoli yn y fan hon. Mae'r ffermydd yn fawr ac mae gan bob un res sylweddol o dai allan a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif, gyda rhai ohonynt wedi'u gosod mewn trefniant lled-ffurfiol. Mae'r ffaith ei bod yn agos at Lanymddyfri sy'n gyfrifol am yr anheddau gwasgaredig modern mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau sydd yn rhan ddeheuol yr ardal hon. Mae tystiolaeth dopograffeg bosibl a thystiolaeth bosibl o wrthgloddiau bod parc wedi'i greu yn yr ardal i'r gogledd-ddwyrain o safle hen Neuadd Maesllydan. Mae Afon Brn yn goridor llwybr pwysig, fel y dangosir gan y ffordd Rufeinig a ffordd bresennol yr A483(T) sy'n rhedeg trwy'r ardal gymeriad hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yr l cnwd (vicius?), gwrthgloddiau cefnen a rhych, olion Neuadd Maesllydan sydd o dan ddaear, a gwrthglawdd sy'n perthyn i barc posibl.

Erbyn hyn nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol. Ailadeiladwyd nifer o'r ffermdai gan roi byngalos modern a thai yn eu lle; mae enghreifftiau o ffermydd hn sydd wedi goroesi wedi'u hadeiladu o gerrig gyda rhywfaint o ystyriaeth bensaernol, yn hytrach nag yn y traddodiad brodorol. Lleolir melin l-Ganoloesol o fewn yr ardal hon.

Ardal nodweddiadol hunangynhaliol ydyw, ac mae'n gwrthgyferbynnu ag ardaloedd o gaeau afreolaidd, llai o faint i'r gogledd a'r de-orllewin, ac ag ardal drefol Llanymddyfri i'r gorllewin. Ni ddisgrifiwyd yr ardaloedd cymeriad i'r de eto.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]