217 CWM-Y-RHAEADR
CYFEIRNOD GRID: SN 765435
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 246.40
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach ar lethr ddwyreiniol serth Mynydd Malláen, a leolir o fewn
cyn-Gwmwd Malláen yng Nghantref Mawr a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig
annibynnol tan 1284, ac a gadwodd i raddau helaeth systemau deiliadaeth
brodorol trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Fe'i lleolir hefyd o fewn plwyf
eglwysig Cilycwm a all berthyn i gyfnod diweddarach yn yr Oesoedd Canol
yn y 14eg ganrif (Ludlow 1998). Nid oes gan yr ardal hon fawr ddim anheddiadau
cyfoes, sy'n adlewyrchu'r defnydd a wneid ohoni yn hanesyddol; fodd bynnag,
mae'n bosibl bod yr enw 'Dinas' yn cynrychioli bryngaer o'r Oes Haearn
yr ymddengys nad oes unrhyw dystiolaeth ffisegol ohoni. Dangosir yr ardal
hon fel porfeydd agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf ac mae'n dal heb
ei hamgáu i raddau helaeth, ac mae'r ffaith bod corlan yn bresennol yn
tystio bod yr ardal wedi'i defnyddio at ddibenion bugeiliol yn bennaf.
Mae'r ffermydd a'r clostiroedd sy'n bodoli yn ymwneud yn bennaf â phobl
yn tresmasu ar yr hyn a oedd ar un adeg yn dir agored yn y 18fed ganrif
ac ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ceir cyn-fwynglawdd plwm bach ar yr ymyl
ddwyreiniol, y mae'n bosibl iddo gael ei sefydlu yn gynnar. Roedd pobl
yn cloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, gyda'r goron yn
cymryd yr 'unfed droedfedd ar ddeg' fel treth (Rees 1968), ond roedd y
cloddio wedi dod i ben i raddau helaeth erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ar
ddiwedd yr 20fed ganrif plannwyd planhigfeydd coniffer dros rannau helaeth
o'r ardal o dan y Comisiwn Coedwigaeth (fel yr oedd yr adeg honno).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal gymeriad hon ar lethrau serth dyffryn Tywi a'i hisafonydd.
Mae'r ardal hon rhwng 140 m a thros 300 m o uchder. Ar wahân i ychydig
o goetir collddail ar y llethrau isaf, rhywfaint o rostir agored ar lethrau
serth a hen fferm fach - Cwm-y-Rhaeadr - a rhai caeau cyfagos, mae planhigfeydd
coniffer a blannwyd yn yr 20fed ganrif yn gorchuddio'r ardal gyfan. Sefydlwyd
y mwyafrif o'r planhigfeydd hyn ar rostir agored ar lethrau serth y dyffryn.
Ceir yr unig eithriad i hyn yng Nghwm-y-Rhaeadr ac o'i amgylch lle y plannwyd
conifferau dros gaeau.
Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd, ac mae wedi'i
chyfyngu i safle'r fryngaer bosibl o'r Oes Haearn, y mwynglawdd plwm a'r
adeiladau.
Nid yw'r un o'r adeiladau'n nodweddiadol, ac maent yn cynnwys
bythynnod a ffermydd o'r 19eg ganrif, corlan a thyrau dðr o'r 20fed ganrif.
Ardal hynod ydyw, ac mae'n gwrthgyferbynnu â'r rhostir
agored i'r gorllewin a'r tir ffermio amgaeëdig i'r de, i'r gogledd ac
i'r dwyrain.
|