Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

258 MYNACHLOG-DDU

CYFEIRNOD GRID: SN 110307
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 941.8

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr afreolaidd wasgaredig o dir wedi ei gau yn y Sir Benfro fodern, wedi ei dorri'n ddwfn i fewn iddo gan dir corsiog ardal gymeriad y Gors Fawr-Waun Cleddau sy'n gorwedd ar asgell ddeheuol Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Nodwyd Caermeini, yng ngogledd yr ardal fel un o safleoedd posibl Brwydr Mynydd Carn a sicrhaodd, yn 1081, orsedd Dyfed i Rys ap Tewdwr o d brenhinol y Deheubarth - ond er hynny dim ond am 20 mlynedd. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100, a'i daliodd fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan gawsant eu dilyn gan deulu Audley. Fel gyda'r rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn i Fynydd Preseli, parhaodd yr ardal i gael ei dal o dan gyfundrefnau tenantiaeth Gymreig. Yn 1118 cyflwynodd William Fitzmartin yr ardal gyfan fel rhan o faenor Nigra Grangia, i Deironiaid Abaty Llandudoch. Roedd y faenor yn un helaeth yn cynnwys 5 gwedd gyfair a oedd yn werth 8 15s 6ch yn 1535. Fodd bynnag, roedd ei asesiad yn hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu bod llawer ohono mwy na thebyg yn dir pori gweundir agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Nid yw safleoedd y pedair melin a gofnodwyd yn 1535 yn hysbys, ond efallai fod gan Felin Dyrch darddiad cynnar. Ar Ddiddymiad y mynachlogydd daeth y faenor i feddiant John Bradshaw o Lanandras, ynghyd Abaty Llandudoch ac ar l hynny fe'i daliwyd ar wahn i Farwniaeth Cemaes. Mae'r Llys Ychwanegiadau yn cofnodi bod tiroedd y cyn faenor wedi eu dal yn 1538 -9 wedi eu dal drwy gopiddaliad hy. dodwyd enwau'r tenantiaid mewn llyfr rhent, y gallai eiddo gael ei adnabod fel ffermydd presennol Pantyrhug a Plasdwbwl, a Chwm Cerwyn a Phentre Ithel a oedd yn dai bonedd o ryw gymaint o statws. Mae eu nodi a'u disgrifio fel 'tenamentau' yn awgrymu bod rhywfaint o amgu ffurfiol ar y faenor wedi digwydd yn barod, a bod y patrwm presennol o ffiniau o fewn yr ardal yn nodweddiadol o amgu l-Ganoloesol. Fodd bynnag mae clwstwr o enwau ffermydd 'lleini' i ogledd orllewin yr ardal yn dangos cyfundrefn stribed tir neu gae agored yn dyddio o bosibl o'r cyfnod canoloesol. Mae'r patrwm amgu yn hanner dwyreiniol yr ardal gymeriad hon yn debyg ac hefyd yn fwy na thebyg yn ganoloesol ddiweddar i'r 16eg ganrif o ran tarddiad.Nodwyd Blaen-banon ar ben gogleddol eithaf yr ardal fel terfyn comin ffurfiol Mynydd Preseli mewn arolwg yn 1594. Mae'r ffermydd o'r ail ganrif ar bymtheg yn cynnwys Dolaumaen i ogledd?ddwyrain yr ardal (a oedd yn ganolbwynt stad fechan a sefydlwyd erbyn 1786 ac yn cynnwys 655 erw erbyn 1840), Glynsaithmaen a Dyffryn Ffilbro. Mae patrwm presennol aneddiadau gwasgarog yn perthyn i'r amgu hwn ac amgu diweddarach ar gyn weundir, y mae peth ohono i ogledd yr ardal o bosib yn ddiweddar iawn. Mae cofnod Charles Hasall yn 179, am y 'gwastraff helaeth' a ddaliai i fod ym Mynachlog-ddu yn cael ei atgynhyrchu yn Hanes y Sir, ac mae dau ddarn o gae ar dir yn yr adran hon yn ymddangos fel pe baent yn gallu cael eu tadogi i sgwatio o'r 18fed a'r 19eg ganrif . Roedd y patrwm amgu presennol wedi'i gwblhau erbyn adeg arolygon y degwm yn 1840au. Roedd chwarel lechi Tyrch Isaf yng nghanol yr ardal-o ble y cafwyd llechi i doi Neuadd y Sir, Caerfyrddin - yn gweithio o'r 18fed ganrif hyd 1939, ac roedd codi tai i'r chwarelwyr fwy na thebyg wedi cyfrannu at ddatblygu'r cnewylliad yn Mynachlog-ddu yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Hwn oedd cartref un o arweinwyr Terfysgwyr Beca o'r 1840au ac mae iddo gapel yn dyddio o 1794. Mae hanes diweddarach yr ardal fodd bynnag yn parhau i fod yn amaethyddol drom.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal hon yn cynnwys sawl bloc ar ffurf clust o dir caedig yn gorwedd ar lethrau deheuol Mynydd Preseli a llethrau Foel Dyrch, wedi eu gwahanu gan gorsdir is a thir pori heb ei amgu. Gorwedd rhwng 190m a 300m. Mae'r defnydd tir yn bennaf yn dir pori wedi ei wella gyda ychydig o dir r er bod darnau o dir brwynog a chorsdir mewn hafnau isel, a thir pori garw heb ei wella ar lefelau uwch ar ymylon Mynydd Preseli a Foel Dyrch. Rhennir y tir ffermio i gaeau afreolaidd cymharol fychan, er bod clostiroedd hir cul yn agos at ffermydd Carnmeini yn awgrymu presenoldeb cyfundrefn caeau stribed blaenorol nas cyfeirir ato yn rhentiad yr 16eg ganrif. Gwrychoedd cerrig a phridd yn gymysg yw'r ffurf fwyaf cyffredin ar ffiniau i'r caeau, ond ceir hefyd wrychoedd wyneb carreg, a gwrychoedd pridd ac ar uchderau mwy ar gyrion Mynydd Preseli waliau cerrig lled ddadfeiliedig. Ar y lefelau is mae cloddiau'n gorchuddio'r gwrychoedd. Yn gyffredinol nid yw'r cloddiau hyn mewn cyflwr da ar wahn i'r rhai ar hyd ffyrdd a lonydd; mae llawer yn fylchog ac mae'r lleill yn tyfu'n wyllt. Ar draws y rhan fwyaf o'r ardal mae'r cloddiau yn llinellau o lwyni gwasgarog neu wedi diflannu'n llwyr yn enwedig ar y lefelau uchaf. Ffensys gwifren yw'r rhan fwyaf o'r ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro. Ar wahn i blanhigfa goniffer 20fed ganrif yn agos at ffarm Llwyn-drain, ychydig o goed sydd yn y dirwedd, er bod coed bach wedi tyfu o rai o'r cloddiau a esgeuluswyd, a phlannwyd coed o amgylch y rhan fwyaf o'r ffermydd fel cysgod. Mae clystyrau o goed o amgylch ffermydd gwag ar y lefelau uwch yn nodwedd o'r dirwedd hon. Mae'r ffyrdd cyhoeddus yn cynnwys ffyrdd troellog gyda gwrychoedd uchel a chloddiau o boptu. Patrwm yr anheddiad yw un o ddaliadau amaethyddol gwasgaredig gyda chlystyrau llac o adeiladau ym mhentref Mynachlog-ddu. Ceir dau gapel - Capel Bach a Chapel Bethel, sefydlwyd yr olaf yn 1794 - ac ysgol. Fel y nodwyd uchod mae ffermydd a bythynnod gwag yn nodwedd o'r dirwedd yn arbennig ar y llethrau uwch mwy agored. Mae'r tai hn sy'n bodoli bron i gyd o'r 19fed ganrif yn yr arddull frodorol, wedi eu codi'n bennaf o gerrig gyda llechi ar y toeau ac yn un llawr, un a hanner neu ddeulawr a thri bae, wedi'u rendro sment a charreg lan. Mae'r rhan fwyaf wedi'u moderneiddio. Mae'n debyg fod y rendr sment ar rai anheddau yn cuddio adeiladweithiau o bridd. Ceir hefyd lawer o dai ffrm pren o'r 20fed ganrif wedi eu gorchuddio haearn rhychog. Mae datblygiad yn ystod cyfnod diweddarach yr 20fed ganrif yn gyfyngedig ac wedi ei ganoli'n bennaf ym mhentref Mynachlog-ddu. Mae'n cynnwys tai deulawr a byngalos mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Mae'r adeiladau amaethyddol yn fach, yn adlewyrchu maint y daliad. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: cyfres o dai sengl bychan o'r 19eg ganrif wedi eu codi o gerrig;ysgubor haearn rhychog o'r 20fed ganrif ac adeiladau eraill; a llawer o adeiladau bychain o ddiwedd yr 20fed ganrif o ddur, concrid ac asbestos. Nid oes adeiladau rhestredig yn yr ardal.

Mae'r archaeoleg a gofnodwyd yn amrywiol gyda chanran uchel o safleoedd cynhanesyddol. Mae'r rhan ogleddol, uwch yn cynnwys beddfaen siambr neolithig a restrwyd a strwythur megalithig arall, ac o'r oes efydd, pedair maen hir bendant a dwy arall bosibl, un pr garreg bendant ac un arall bosibl, a thomen gron bosibl. Ynddi hefyd ceir un safle bosibl i frwydr Mynydd Carn yn yr 11eg ganrif. Ceir hefyd un safle capel pererindod ganoloesol ac un posibl, a dwy sadle ffynnon sanctaidd. Gae'n bosibl fod gan Felin Dyrch darddiadcanoloesol. Mae'r safleoedd l?Ganoloesol yn cynnwys nodweddion chwareli a chorlan.

Mae Mynachlog-ddu, er gwaethaf ei natur wasgarog, yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol gydlynol. Fe'i rhennir, ei gwahanu a'i chwmpasu i'r de a'r gorllewin gan barseli is o gorsdir a gweundir ardal gymeriad Cors Fawr-Waun Cleddau. I'r gogledd ceir ffin glir rhwng yr ardal hon a thir agored Mynydd Preseli. Rhydd gweundir agored a rhannol agored ardaloedd cymeriad Foel Dyrch a Chrugiau Dwy hefyd ffin glir i'r dwyrain. Dim ond i'r de-orllewin lle mae ardal gymeriad Mynachlog-ddu yn cwrdd Llangolman y ceir diffyg ffin glir. Yma ceir ardal o newid yn hytrach na ffin ymyl glir.

Ffynonellau: Charles 1992; YmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed 1997; Howells 1987; Jones 1996; Lewis 1969; Map y degwm a rhaniad Llangolman 1841; Map degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Pritchard 1907; Rees 1932; Richards 1998.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]