Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

261 LLETHR

CYFEIRNOD GRID: SN157324
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 121.1

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach gryno yn y Sir Benfro fodern ar lethr de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref canoloesol Cemaes a ddygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100. Cadwodd teulu Fitzmartin ef fel Barwniaeth Cemaes tan 1326 pan y'i holynwyd gan deulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydffiniol 'r Cantref Cemais diweddarach a grwyd yn 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a dyletswyddau ffiwdal , rhai hyd mor ddiweddar 1922. Fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y farwniaeth o fewn mynydd Preseli, parhaodd ardal Llethr i gael ei dal o dan gyfundrefnau tenantiaeth Gymreig. Yn 1118 cyflwynodd William fitzmartin yr ardal fel rhan o faenor Nigra Grangia i Deironiaid Abaty Llandudoch. Roedd ei asesiad yn hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu fod y faenor mwy na thebyg yn dir pori gweundir heb ei hamgu yn ystod y cyfnod canoloesol. Ar Ddiddymiad y Mynachlogydd fe'i meddiannwyd gan John Bradshaw o Lanandras ynghyd ag abaty Llandudoch ac wedi hynny fe'i daliwyd ar wahn i Farwniaeth Cemaes. Mae'r ardal gymeriad hon yn dangos patrwm amgu clir, rheolaidd a chynrychiola fwy na thebyg, amgu diweddar ar gyn dir pori gweundir, a hynny o bosibl mor ddiweddar 'r 18fed a'r 19eg ganrif. Atgynhyrchir cofnod Charles Hassall yn 1794 o 'wastraff helaeth' a barhi ym Mynachlog-ddu yn Hanes y Sir. Yn y 16eg ganrif hawliodd plwyfolion Monington, ar arfordir gogleddol Sir Benfro gerllaw Llandudoch, unig berchnogaeth o'r hawliau comin i 'certain lands called Llethr' ym mhlwyf Mynachlog-ddu. Efallai fod hyn yn cyfeirio at ardal Llethr sy'n cynnwys 6 enw ffarm 'llethr' -Llethrmawr, Llethr -uchaf, Llethr-ganol ayb. Mae cyfeiriad uniongyrchol at hafota o bellter o'r fath yn anghyffredin yn ne-orllewin Cymru, ac ymddengys ei fod yn barhad o amgylchiadau a weithredwyd gan Abaty Llandudoch. Gall fod yr ardal wedi cael ei hamgu pan beidiodd yr hawliau pori hynny neu fod yr hawliau pori hynny wedi peidio pan abaewyd y tir. Roedd y broses o amgu wedi'i chwblhau erbyn arolwg y degwm 1846 pan oedd y ffermydd Llethr o dan berchnogaeth gyffredin Jane Harries. Ceir hefyd rai daliadau amaethyddol diweddarach a darddodd yn wreiddiol fel aneddiadau sgwatwyr. Plannwyd hanner gogleddol yr ardal choedwigaeth yng nghanol yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llethr ar lethr de?ddwyrain Mynydd Preseli rhwng 250m a 340m. Amgaewyd hi yn gaeau bach afreolaidd gan waliau o gerrig sych, gyda chloddiau cerrig yn achlysurol. Mae'r waliau cerrig sych bron i gyd mewn cyflwr da, ond mae rhai'n dechrau dirywio. Gellir galw llawer enghraifft o gerrig sylfaen a chlogfeini yn feini hirion (monolith). Mae'r cloddiai a arferai orchuddio'r gwrychoedd cerrig bellach bron i gyd wedi dirywio i fod yn llinellau o lwyni achlysurol; ceir ffensys gwifren ar hyd pennau'r cloddiau. Y defnydd tir amaethyddol yw tir pori wedi'i wella, gyda dim ond ychydig o dir pori garw a dim tir r. Ffermydd a bythynnod gwasgaredig yw patrwm yr anheddu. Mae'r tai bron i gyd yn 19eg ganrif, yn yr arddull frodorol ac wedi eu codi yn gyffredinol o gerrig gyda thoeau llechi, yn unllawr, un a hanner neu ddeulawr, a 3 bae, wedi'u rendro sment neu garreg foel. Mae'r rhan fwyaf wedi'u moderneiddio. Mae'r tai amaethyddol yn fach gan adlewyrchu maint y daliadau. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: ystod sengl fychan wedi eu codi o gerrig o'r 19eg ganrif; ysguboriau haearn rhwyllog ac adeiladau eraill o ganol y 20fed ganrif; a llawer o adeiladau bach dur, concrid ac asbestos o ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes adeiladau rhestredig o fewn yr ardal. Gorwedd planhigfa goniffer o ddiwedd yr 20fed ganrif dros lethrau uchaf yr ardal gymeriad hon . Sefydlwyd llawer o'r blanhigfa hon ar gaeau, ffermydd a bythynnod a adawyd, ond plannwyd rhan ohoni ar weundir agored Mynydd Preseli - cynhwyswyd hon yn yr ardal gymeriad hon. Ar wahn i'r blanhigfa goniffer yr unig goed yw'r rhai sy'n agos at anheddau er mwyn rhoi cysgod ac ar gloddiau ar hyd y ffyrdd. Mae lonydd a llwybrau'r ardal yn gul a throellog chloddiau uchel o boptu iddynt.

Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i ddau o gernydd clirio posibl a dwy o feini hirion posibl, i gyd yn nodweddiadol o'r Oes Efydd .

Mae Llethr yn ardal gymeriad glir iawn. Hon yw'r unig leoliad yn agos at Fynydd Preseli lle mae waliau cerrig sych yw'r prif fath o ffin. I'r gogledd a'r gorllewin mae gweundir agored Mynydd Preseli yn ffurfio ffin ymyl galed i'r ardal hon, fel ag y gwna corstir a thir pori garw agored i'r de a'r de-ddwyrain. Dim ond i'r dwyrain wrth ardal gymeriad Mynachlog-ddu y ceir ardal o newid yn hytrach na ffin glir bendant.

Ffynonellau: Howells 1987; Lewis 1969; Map Degwm a rhaniad Llangolman 1846; Map Degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Rees 1932

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]