Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

276 GOCHEL SYTHI

CYFEIRNOD GRID: SN059361
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 166.8

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar ochr ddeheuol Mynydd Carn Ingli, i'r gogledd o'r Waun, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyf Trefdraeth, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'n bosibl i'r caeau afreolaidd, o faint canolig a leolir mewn rhan o'r ardal hon gael eu hamgu o dan reolaeth Dolrannog, a leolir o fewn ardal gymeriad Cilgwyn yn union i'r de. Cyfeiriwyd at Ddolrannog mewn dogfen yn dyddio o c.1280, ac aseswyd bod yn rhaid i Thomas Lloid dalu 6d amdano mewn Extent o 1577. Mae'n debyg bod y caeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu sip a leolir i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r dwyrain o'r ardal hon yn cynrychioli'r gwaith a wnaed yn ddiweddarach i amgu Carn Ingli (un o diroedd comin bwrdeistref Trefdraeth) yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif ar adeg pan oedd y boblogaeth yn tyfu. Fe'i cysylltir ffermydd sydd bellach yn anghyfannedd sy'n awgrymu anheddu gan sgwatwyr neu dai unnos, er enghraifft Gochel Sythi. Yn gysylltiedig 'r aneddiadau mae padogau lle y gwelir olion grynnau amaethu, ond arhosodd yr ardal yn un o dir pori yn benanf ac mae'n cynnwys tair corlan - dwysedd uchel ar gyfer nifer mor fach o ffermydd. Dengys map degwm 1843 y system o gaeau a nifer o ffermydd. I bob pwrpas roedd y ffermydd wedi'u gadael yn wag erbyn canol i ddiwedd y19eg ganrif, ac mae'r caeau ar lefelau uwch yn graddol droi'n rhostir agored unwaith eto.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Gochel Sythi yn gorwedd ar lethrau eithaf serth sy'n wynebu'r de-ddwyrain rhwng 180m a 300m o uchder ar ochr ddeheuol Mynydd Carn Ingli. Fe'i rhennir yn gaeau afreolaidd eu sip o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau o bridd a cherrig a chloddiau caregog. Ceir gwrychoedd ar chwl ar hyd y cloddiau ar lefelau is, ond ar y tir uwch nid oes unrhyw wrychoedd ac mae'r caeau'n troi'n rhostir agored unwaith eto. Mae ffensys gwifrau wedi'u codi rhwng y caeau i ddal gwartheg. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella (ar lefelau is gan amlaf) a thir pori heb ei wella a thir pori garw a thir brwynog yw'r defnydd a wneir o'r tir. Mae llai a llai o dir wedi'i wella ar uchder uwch. Nid oes unrhyw adeiladau cyfannedd, er bod ffermwydd anghyfannedd wedi'u hamgylchynnu gan glystyrau o goed yn un o nodweddion trawiadol y dirwedd. Ar wahn i'r coed hyn ac ychydig o enghreifftiau ar wrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt ar lefelau is, ni nodweddir yr ardal hon gan goetir. Lleolir tair corlan yn yr ardal hon. Cyfyngir elfennau trafnidiaeth i ychydig o ddarnau o drac sy'n arwain i mewn i'r ardal hon o'r tir is i'r de.

Mae archaeoleg a gofnodwyd yn cynnwys crug crwn posibl, safle clostir anhysbys a grynnau amaethu ac ati a gysylltir 'r ffermydd l-ganoloesol.

Mae'r ardal hon yn gorwedd rhwng rhostir agored i'r gogledd a thir ffermio amgaedig i'r de ac i'r dwyrain. Lleolir coedwig o goed coniffer a blannwyd i'r gorllewin.

Ffynonellau: Charles 1992; Dyfed Archaeological Trust 2000; Howells 1977; Map a rhaniad degwm Trefdraeth, 1843.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]