Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

285 PENMAEN DEWI

CYFEIRNOD GRID: SM746286
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 258.3

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, sy'n cynnwys Penmaendewi ei hun, ar flaen y penrhyn, a darn o glogwyni'r arfordir gogleddol cyfagos. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi, lle'r oedd nifer o isgapeli, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi eglwysig go arbennig. Fodd bynnag, mae ardal gymeriad Penmaendewi hefyd yn nodedig am fod elfennau tirwedd cynharach byth wedi goroesi yno, yn arbennig tirwedd amaethyddol o systemau caeau cynhanesyddol ond hefyd elfennau defodol cynhanesyddol. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol Chantref Pebidiog a grwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Mae systemau caeau cynhanesyddol wedi goroesi o fewn ardal gymeriad Penmaendewi ac mae hyn yn awgrymu na thriniwyd y tir fawr ddim ers hynny, a bod yr ardal wedi bod yn dir ymylol ers dros 2000 o flynyddoedd. Yn y gofrestr Safleoedd a Henebion cofnodir bod yr ardal yn dir comin agored yn perthyn i'r cyfnod canoloesol neu l-ganoloesol. Fodd bynnag, cofnodwyd bod Penberi i'r dwyrain o'r ardal o fewn maenor Cantref Cymreig (gyda Thydwaldy) yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326. Bryd hynny cynhwysai'r ardal 4 bufedd a dalai 5s 8c y flwyddyn, ac mae arolwg diweddar gan Murphy wedi nodi olion amaethu canoloesol sydd wedi'u dosbarthu trwy lawer o'r ardal; serch hynny, ni chafodd y rhain effaith fawr ar y dirwedd am eu bod yn rhy arwynebol - neu'n rhy fyrhoedlog. Yn unig elfen eglwysig yn yr ardal sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yw'r hyn a all fod yn eglwys neu'n gapel yn 'Eglwys y Cathau' ger Penberi. Ymddengys fod yr ardal yn agored ac at ei gilydd yn anghyfannedd hyd at y cyfnod l-ganoloesol, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw. Fodd bynnag, mae anheddiad anghyfannedd - Maes-y-mynydd - yng nghanol yr ardal, yr ymddengys ei fod yn perthyn i ddiwedd y cyfnod l-ganoloesol. Cofnodir yr enw lle am y tro cyntaf ym 1829, ond yn l traddodiad lleol sefydlwyd yr anheddiad gan y Crynwyr ac roedd ganddo fynwent. Fe'i dangosir gyda 6 neu 7 ty a'r system bresennol o glostiroedd ar fap degwm 1840, a honnir ei fod yn cynnwys 13 o dai ar un adeg. Enillai'r gymuned o deuluoedd eu bywoliaeth o'r mr, ac ni adawyd yr anheddiad tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Mae elfennau tirwedd mwy diweddar yn rhai milwrol at ei gilydd ac maent yn cynnwys amddiffynfeydd ar y clogwyni o'r ail ryfel byd, a 'Highwinds'; a fu gynt yn orsaf gwrando am longau tanfor.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad Penmaendewi ar benrhyn mwyaf gorllewinol Sir Benfro. Mae'n cynnwys penrhyn creigiog Penmaenddewi, clogwyni uchel sy'n wynebu'r gogledd a chopu garw Carn Llidi, Carn Llidi Bychan, Carn Perfedd, Carnedd Llethr a Charn Penberi. Yn gyffredinol mae'r tir rhwng 40m a 70m o uchder, ond mae copa Carn Llidi dros 180m o uchder. Ar wahn i gaeau a adawyd ym Maes-y-Mynydd, mae'r cyfan yn agored a thir pori garw iawn sydd yno. Ni reolwyd y tir pori ac erbyn hyn gorchuddir lleiniau mawr phrysgoed eithin, brwyn a grug. Nid oes unrhyw aneddiadau anghyfannedd: nodweddir y dirwedd hanesyddol gan olion archeolegol. Clawdd y Milwyr yw'r mwyaf amlwg ymhlith yr olion hyn. Lleolir y gaer bentir hon sy'n perthyn i'r oes haearn ar flaen y penrhyn ac fe'i cloddiwyd gan y Parchedig S Baring Gold ar ddiwedd y 19eg ganrif. Fe'i dilynir gan siambr gladdu Coetan Arthur, dwy siambr gladdu neolithig arall, wal amddiffynnol o ddyddiad anhysbys a system gaeau. Mae'r system gaeau yn cynnwys cloddiau hir, syth, cyfochrog isel o gerrig llanw sy'n rhedeg i'r tir o'r arfordir ac i fyny dros lethrau Carn Llidi a Charnedd Perfedd. Yn gysylltiedig 'r caeau cynhanesyddol a adawyd ceir nifer o glostiroedd crwn a chylchoedd cytiau. Ceir grynnau amaethu a all berthyn i'r cyfnod canoloesol neu l-ganoloesol hefyd. Mae olion archeolegol mwy diweddar yn cynnwys dau safle amddiffynnol o'r ail ryfel byd ar lethrau Penberi sy'n wynebu'r de-orllewin. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn cadw at ben y clogwyni. Ceir llwybrau eraill hefyd. Nid oes unrhyw adeiladau. Fodd bynnag, mae olion 'Highwinds', gorsaf gwrando am longau tanfor yn ystod yr ail ryfel byd, i'w gweld o hyd.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf 'r nodweddion tirwedd cynhanesyddol sydd wedi goroesi. Mae llawer o'r nodweddion hyn yn gofrestredig. Mae yma ddarganfyddiadau mesolithig a neolithig, siambr gladdu neolithig Coetan Arthur sy'n gofrestredig, clostiroedd cynhanesyddol cofrestredig, waliau a chloddiau terfyn cofrestredig o'r cyfnod cynhanesyddol, a balciau cofrestredig, tri chylch cytiau cofrestredig, dwy garnedd hel cerrig gofrestredig, crug crwn posibl o'r Oes Efydd. Mae hefyd bedd cofrestredig o ddyddiad anhysbys, lloches ganoloesol o gerrig sych sy'n gofrestredig, clostir canoloesol cofrestredig, dwy ardal lle y ceir olion cnwd cofrestredig o'r Oesoedd Canol, ffald ganoloesol gofrestredig, ffin ganoloesol, a safle posibl eglwys/capel 'Eglwys y Cathau'.

Mae archeoleg l-ganoloesol yn cynnwys ffald a chlostiroedd eraill, chwarel ac olion adeiladau cysylltiedig, a dau safle o'r ail ryfel byd. Mae Penmaendewi yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig. Mae ganddi ffiniau pendant ar hyd yr arfordir, ac ar bob ochr arall lle y mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf thir ffermio amgaedig gerllaw.

Ffynonellau: Baker 1992; Baring Gould 1899; Charles 1992; Fenton 1811; Howell 1993; Howells 1987; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Lewis 1833; Manby 1801; Murphy 2001; Rees 1932; Map degwm a rhaniad Tyddewi 1840; Willis-Bund 1902

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]