285 Lleolir
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Penmaendewi ar ben eithaf
gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel sy'n disgyn
i'r môr a rhostir agored sy'n ymestyn i gopa Carn Llidi sydd ryw
180m o uchder. Ar y rhostir ceir olion cynhanesyddol, gan gynnwys
caer bentir, siambrau claddu a systemau caeau. |
|
286 Mae
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porthmawr yn dirwedd foel
lle ceir ffermydd a chaeau gwasgaredig. Waliau cerrig sych yw'r
prif fath o ffin derfyn. Ni cheir llawer o wrychoedd, ac mae'r rheini
sydd yma yn isel ac yn wasgarog. Defnyddir y tir gan fwyaf fel tir
pori wedi'i wella. Ceir yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau.
Un o nodweddion y dirwedd hon yw'r ffermydd pâr ar lethrau deheuol
Carn Llidi. Ceir amrywiaeth mawr o fathau o anheddau. Carreg yw'r
prif ddeunydd adeiladu. |
|
287 Mae
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tywyn yn cynnwys ardal
o dywod chwyth Porth Mawr. Tir comin ydoedd tan 1869 pan y'i hamgaewyd
gan Ddeddf Seneddol. Ceir system o dwyni tywod ar hyd yr arfordir
gyda glaswelltir yn gorchuddio'r tywod chwyth yn yr ardaloedd mewndirol.
Lleolir cwrs golff, gwesty, tai modern, maes parcio a chyfleusterau
twristiaeth eraill yn yr ardal hon. |
|
288 Lleolir
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyd - Tretïo - Caerfarchell
ar dir amaethyddol ffrwythlon ar ochr ogleddol penrhyn Tyddewi.
Mae'n cynnwys caeau, pentrefannau bach a ffermydd gwasgaredig. Mae'r
anheddau yn draddodiadol wedi'u hadeiladu o gerrig ac yn amrywio
o ran dyddiad ac arddull o'r tai isganoloesol a thai Sioraidd i
fythynnod yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae adeiladau amaethyddol mawr
modern yn elfen gref yn y dirwedd. Mae gwrychoedd gwasgarog, isel
i'w cael ar ben y cloddiau terfyn. Ceir yma safleoedd gwersylla
a pharciau carafannau ond defnyddir y tir gan fwyaf fel tir pori
wedi'i wella gyda pheth tir âr. Tirwedd foel heb goed ydyw. |
|
289 Lleolir
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyn - Treginnis ar
gyrion gorllewinol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel
sy'n syrthio i'r môr a thirwedd amaethyddol o gaeau bach, cerrig
brig tebyg i foelydd a ffermydd gwasgaredig. Mae ffermydd wedi'u
clystyru mewn grwpiau a leolir yng nghysgod y moelydd. Yn draddodiadol
mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig ac yn amrywio o dai isganoloesol
a thai Sioraidd i fythynnod sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir cymysgedd
o dir pori, tir âr a thir pori garw yma. Tirwedd foel heb goed ydyw.
Cer yma safleoedd gwersylla a pharciau carafannau. |
|
290
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pwll Trefeiddan
yn cynnwys tir comin gwlyb agored gydag ardal helaeth o ferddwr.
|
|
291
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dyffryn Alun yn
cynnwys ochrau serth dyffryn cul sydd wedi'u gorchuddio â phrysgwydd.
Mae llawr y dyffryn yn dir pori neu'n gors. Mae'r gwrychoedd ar
y cloddiau ffiniau ar waelod y dyffryn wedi'u gadael ac nis defnyddir
rhagor. Lleolir gwaith trin carthion yma. |
|
292
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol St Nons - Llandridian
ar gyrion deheuol penrhyn Tyddewi. Mae'n cynnwys clogwyni uchel
sy'n syrthio i'r môr a thirwedd o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig.
Yn draddodiadol, mae'r adeiladau wedi'u codi o gerrig, ac mae'r
rhan fwyaf o'r tai yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir sawl safle gwersylla
a pharc carafannau yn yr ardal ond defnyddir y tir gan fwyaf ar
gyfer tir pori a rhywfaint o dir âr. Mae'r gwrychoedd sy'n goroesi
ar y cloddiau terfyn pridd a charreg yn isel ac yn wasgarog. Tirwedd
foel heb goed ydyw. |
|
293 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Comin Dowrog
- Treleddyd - Tretïo yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd.
|
|
294
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tyddewi yn cynnwys
dinas Tyddewi. Mae'n cynnwys clos yr eglwys gadeiriol - Eglwys Gadeiriol
Tyddewi, hen Lys yr Esgob ac adeiladau cysylltiedig - craidd y ddinas
ganoloesol a datblygiadau modern ar y cyrion. Yn draddodiadol, mae'r
adeiladau wedi'u codi o gerrig. Y tu allan i glos yr eglwys gadeiriol,
ceir amrywiaeth mawr o fathau o adeiladau, ond mae'r rhan fwyaf
o'r adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. |
|
295
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Warpool wedi'i
lleoli ar draws hen system o gaeau agored o amgylch Dinas Tyddewi.
Nodweddir yr ardal hon gan lain gaeau cul wedi'u hamgáu gan gloddiau
a gwrychoedd isel. Mae datblygiadau'r 19eg a'r 20fed ganrif ar gyrion
y ddinas wedi meddiannu rhywfaint o'r hen lain-gaeau hyn. |
|
296
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maes Awyr Tyddewi
yn cynnwys tirwedd agored o dir pori wedi'i adfer. Erbyn hyn dymchwelwyd
pob un o adeiladau'r maes awyr a ddyddiai o'r ail ryfel byd, ond
mae darnau byr o'r llwybr glanio concrid a'r ffyrdd gwasanaethu
wedi goroesi. |
|
297 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Caerfarchell
yn cynnwys tir comin gwlyb a chorslyd. |
|
298 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Y Felinganol
wedi'i lleoli yn nyffryn serth a chul Afon Solfach ac wedi'i lleoli
o amgylch pentrefan sef y Felinganol. Yn draddodiadol codwyd yr
adeiladau o gerrig, gyda'r rhan fwyaf o'r anheddau yn dyddio o'r
19eg ganrif gydag ambell i dy yn dyddio o'r 20fed ganrif. Lleolir
chwarel fawr segur ar ochr y dyffryn sy'n edrych dros y pentrefan.
Mae'r defnydd o dir yn cynnwys tir pori ar lawr y dyffryn a choetir
a phrysgwydd ar ochrau'r dyffryn. |
|
299 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caerforiog
yn cynnwys caeau mawr hirsgwar o dir pori a thir âr wedi'i wella
sydd wedi'u rhannu gan gloddiau a gwrychoedd, a ffermydd gwasgaredig.
Mae'r gwrychoedd yn isel ac yn wasgarog a thirwedd foel heb goed
ydyw. Mae'r ffermydd yn fawr. |
|
300 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Porth Clais
yn cynnwys harbwr bach wedi'i adeiladu o gerrig, ceiau, odynau calch
a meysydd parcio wedi'u lleoli mewn cilfach gul ac iddi ochrau serth.
|
|
301 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Caer Llundain
- Caer Ysgubor yn cynnwys ardal rhostir agored bryniog a chreigiog
Ynys Dewi ac mae clogwyni uchel sy'n syrthio i'r môr i'w cael ar
dair ochr. Ceir olion ffiniau caeau cynhanesyddol yn yr ardal hon.
Tirwedd foel heb goed ydyw. |
|
302 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Dewi
yn cynnwys y rhan ogleddol gysgodol ar Ynys Dewi a rannwyd yn gaeau
mawr gan waliau cerrig sych. Mae'n cynnwys fferm sy'n dyddio o'r
19eg ganrif a man glanio. Tir pori yw'r tir gan fwyaf. Tirwedd foel
heb goed ydyw. |
|
303 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf -
yr Hen Fferm wedi'i lleoli yng nghanol Ynys Selyf ac mae'n cynnwys
y rhan honno o'r ynys a ffermiwyd yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ni
chaiff y tir ei ffermio bellach ond mae waliau a chloddiau'r hen
gaeau a'r hen fferm yn goroesi. |
|
304 Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ynys Selyf
- caeau cynhanesyddol yn cynnwys pob rhan o Ynys Selyf nas ffermiwyd
yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae clogwyni uchel sy'n syrthio
i'r môr yn amgylchynu llwyfandir lle gwelir olion caeau cynhanesyddol
ac aneddiadau ar ffurf cloddweithiau a muriau isel. Tirwedd foel
heb goed ydyw. Caiff y glaswellt ei gadw'n fyr oherwydd bod cwningod
yn pori'r tir dros ran fawr o'r ynys. |
|