Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tyddewi >

DIGWYDDIADAU A LUNIODD TIRWEDD HANESYDDOL Y PRESELI, PENRHYN TYDDEWI AC YNYS DEWI AC YNYS SGOMER

RHANIADAU GWEINYDDOL HANESYDDOL

Roedd gweinyddiaeth gorllewin Cymru, cyn cyfnod yr Eingl-Normaniaid, yn seiliedig ar deyrnasoedd bach neu wledydd, a sefydlwyd cyn yr 8fed ganrif OC. Gorwedd yr ardal astudiaeth o fewn un o'r gwledydd hyn, sef Dyfed, a ddaeth yn rhan o deyrnas y Deheubarth ar ddechrau'r 11eg ganrif. Roedd teyrnas y Deheubarth yn ymestyn ar draws y rhan fwyaf o dde-orllewin Cymru (Rees, 1951, 19). Ym mhob gwlad roedd unedau llai o weinyddiaeth neu ystadau a adwaenid fel maenorau. Ceir tystiolaeth i'r maenorau hyn fodoli ers y 9fed ganrif a'u bod wedi'u llunio o nifer o 'drefedigaethau' neu drefi (Richards 1969,307). Erbyn y 11eg ganrif, cyflwynwyd dwy haen weinyddol ychwanegol - y cantref, sef grwp o 100 o drefi, ac roedd pob un o'r rhain wedi'u hisrannu'n nifer o gymydau lle y ci y trefi eu grwpio. Daeth saith cantref Dyfed - Pebidiog, Cemaes, Emlyn, Rhos, Daugleddau, Arberth a Phenfro - yn uniad ac iddo enwogrwydd hanesyddol a chwedlonol. Yn ardaloedd Eingl-Normanaidd y Deheubarth, roedd cyfundrefn ffurfiol o weinyddiaeth wedi'i sefydlu erbyn diwedd y 12fed ganrif. O dan y gyfundrefn hon roedd gan bob cwmwd faerdref, sef tref arbennig a leolid gerllaw llys y brenin. Roedd y taeogion a arferai ffermio tiroedd y demn yn byw yn y faerdref, ynghyd swyddogion a gweision amrywiol a wasanaethai'r llys. Yn ogystal hyn ci'r brenin neu'r arglwydd drefedigaeth yn yr ucheldir at ddibenion pori dros yr haf (hafodydd). Yn l pob tebyg ni fyddai'r system hon wedi'i sefydlu yn Nyfed cyn concwest yr Eingl-Normaniaid ac nid yw'n bosibl nodi llawer o elfennau'r weinyddiaeth ffurfiol hon o fewn yr ardal astudiaeth. Fodd bynnag, roedd canolfannau statws eraill yn bodoli, a'r rheini'n rhai secwlar ac eglwysig, ac o'r rhai eglwysig, saith ty esgob Dyfed sydd wedi'u dogfennu orau (Davies 1982). Dechreuodd yr Eingl-Normaniaid sefydlu'u haneddiadau yn ardal Sir Benfro ym 1093 pan oresgynnwyd Dyfed gan Roger de Montgomery, Iarll Normanaidd Amwythig, gan sefydlu castell ym Mhenfro. O'r ganolfan hon, roedd ei fab, Arnulf, wedi gorchfygu rhan helaethaf Cantref Penfro (yn rhan ddeheuol y sir bresennol), Cantref Rhos (i'r gorllewin o Hwlffordd, gan gynnwys Ardal Gofrestr Ynys Sgomer) a Chantref Daugleddau (yn rhan ganolog y sir bresennol), a ad-drefnwyd fel sir o dan y Brenin Harri I - breiniarllaeth yn ddiweddarach i ieirll Penfro. Yn ogystal hyn, goresgynnwyd Cantref Cemaes, lle y ceir Ardal Gofrestr y Preseli, oddeutu 1100, o dan y Norman Martin 'o Tours' a'i had-drefnodd fel un o arglwyddiaethau'r Mers. Mae'n bosibl i Gantref Pebidiog gael ei ad-drefnu ychydig yn unol threfniadau Eingl-Normanaidd yn sgl ymweliad y brenin Normanaidd Wiliam I Thyddewi ym 1081. Yr esgobion a ddaliai'r Cantref hwn gan fwyaf ac mae'n cynnwys Penrhyn Tyddewi ac Ardal Gofrestr Ynys Dewi. Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol i'r weinyddiaeth faenoraidd hon gael ei chyflwyno ar l 1115 o dan Bernard, Esgob Normanaidd cyntaf Tyddewi. Arhosodd y rhaniadau tiriogaethol a ddyddiai o gyfnod cyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn ddigyfnewid fwy neu lai ac roedd arglwyddiaethau Cemaes a Phebidiog yn cyffinio 'u rhiant gantrefi a chantrefi l-ganoloesol Cemaes a Phebidiog yn y drefn honno. Gan fwyaf, ymddengys i'r systemau tirddaliadaeth Cymreig barhau a pharhaodd nifer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif hyd yn oed. Bu effaith y systemau hyn ar y dirwedd yn fawr. Parhi Pebidiog, yn benodol, yn rhydd o dirddaliadaeth faenorol ffurfiol ac fe'i daliwyd gan fersiwn o arfer Cymreig lle y ci'r tir ei ddal gan ddau berson yn hytrach na pherchenogaeth unigol. Yn wir, dim ond ychydig cyn i Owen ysgrifennu tua 1600 y diddymwyd gafael cenedl ym Mhebidiog. Bu'r dirddaliadaeth hon yn gyfrifol am brif batrwm setliad yr ardal a ddynodir gan niferoedd helaeth o bentrefannau bychain. Dim ond gweinyddiaeth bwrdeistref Tyddewi ei hun oedd yn gwbl Eingl-Normanaidd. Yng Nghemaes, arweiniodd y dirddaliadaeth Gymreig at batrwm setliad mwy gwasgarog, a hynny yn gyffredinol heb unrhyw groniadau anheddu sylweddol. Fodd bynnag, gweithredai bwrdeistref Trefdraeth a setliadau Maenclochog a'r Fagwyr Goch, yn ogystal maenorau Nanhyfer ac Eglwyswrw, system faenoraidd Eingl-Normanaidd yn rhannol o leiaf, ac roedd comin mawr Mynydd Preseli yn ganlyniad i awdurdodaeth uniongyrchol y Mers, a ffurfiolwyd mewn siarter yn y 13eg ganrif.

SETLIADAU A SAFLEOEDD CLADDU CYNHANESYDDOL

Er bod nifer cymharol sylweddol o henebion cynhanesyddol - siambrau claddu, meini hirion, tomenni claddu a bryngaerau - o fewn yr ardal astudiaeth, yn aml nid yw eu dylanwad ar y dirwedd fodern yn sylweddol iawn. Mae siambrau claddu neolithig ardal Tyddewi yn henebion pwysig ac maent yn adnabyddus i'r cyhoedd ac i archeolegwyr academaidd (Baker 1992). Fodd bynnag, ar wahn i Goetan Arthur ym Mhenmaendewi, nid ydynt yn elfennau amlwg yn y dirwedd ac nid ymddengys iddynt gael eu cysylltu systemau caeau neu elfennau eraill yn y dirwedd sydd wedi dylanwadu neu effeithio ar ffurf y dirwedd hanesyddol. Gall tomenni claddu, boed yn domenni o bridd, neu garneddau, fod yn elfennau amlwg yn y dirwedd hanesyddol oherwydd eu lleoliad. Er enghraifft, ar Fynyddoedd y Preseli mae'r carneddau ar gopa Foel Eryr ac ar gopa Cwmcerwyn i'w gweld am filltiroedd. Yn yr un modd 'r siambrau claddu, nid yw'n debygol iddynt gael unrhyw ddylanwad o bwys ar elfennau eraill y dirwedd fodern. Mae lleoliad y bryngaerau hefyd yn sicrhau eu bod yn elfennau amlwg yn y dirwedd; er enghraifft, Y Foel Drygarn ar Fynyddoedd y Preseli a Chlawdd y Milwyr ar Benmaendewi. Gan eu bod yn safleoedd anheddu fe'u cysylltir weithiau systemau caeau cyfoes, fel sy'n wir am Benmaendewi (Murphy 2000), ond ni chafwyd astudiaeth o'u dylanwad ar y dirwedd hanesyddol ehangach.

NEWID YN Y BOBLOGAETH

Crynhowyd y newid yn y boblogaeth yn Sir Benfro gan Howells (yn Howells 1987) ar gyfer y cyfnod 1563-1642 a chan Bowen-Evans (yn Howells 1993) am y cyfnod 1815-1974. Mae'r adran fer hon yn seiliedig ar y ddau adroddiad hyn. Yn amlwg, mewn ardaloedd sy'n ardaloedd amaethyddol yn bennaf, ci cynnydd mawr yn y boblogaeth effaith ddramatig ar y dirwedd gan y byddai adnoddau dynol ar gael ar gyfer creu ffermydd newydd, ar gyfer trin tir diffaith ac ar gyfer gwella'r seilwaith. Dengys cofnodion y bu cynnydd cyson yn y boblogaeth o 1563 (ar adeg y cofnodion dibynadwy cyntaf) hyd ganol y 19eg ganrif. Yng Nghantref Cemaes (y cantref lle y mae ardal y Preseli) gwelwyd cynnydd o deirgwaith neu fwy yn nifer y cartrefi rhwng 1563 a 1801. Er enghraifft ym Mynachlog?ddu, cynyddodd nifer amcangyfrifedig y cartrefi o 20 ym 1563 i 48 ym 1670 ac i 83 ym 1801. Mewn plwyf a gynhwysai ardaloedd mawr o rostir agored a thir ymylol, ond lle nad oedd unrhyw ddiwydiant, mae'n rhaid bod cynnydd o'r fath yn y boblogaeth yn dynodi'r ffaith i ffermydd newydd gael eu sefydlu ac i rannau o'r rhostir a'r comin gael eu colli. Yn ardal Tyddewi, nid oedd y cynnydd yn y boblogaeth mor ddramatig, gyda'r nifer o gartrefi ym mhlwyf Tyddewi yn cynyddu o 189 ym 1563 i 423 ym 1801. Fel y noda Howells, bu rhan helaeth o benrhyn Tyddewi yn cael ei ffermio'n ddwys dros sawl canrif ac felly nid oedd fawr o gyfle i sefydlu ffermydd newydd. Byddai'r rhan fwyaf o'r cynnydd yn y boblogaeth felly wedi'i hymgorffori gan y ffermydd a fodolai eisoes neu yn ninas Tyddewi. Fodd bynnag, hyd yn oed ar dir agored iawn Penmaendewi, ceir olion trefoli a thrin y tir yn y cyfnod hwn (Murphy). Parhaodd poblogaeth Sir Benfro i dyfu rhwng 1801 ac 1861, gan godi o 56,280 i 96,278. O fewn yr ardaloedd astudiaeth ni cheid unrhyw ddiwydiannau mawr ac roedd hyn yn golygu mai 'r diwydiant amaeth yr oedd y boblogaeth yn gysylltiedig. Ym Mhreseli, crwyd llawer o ffermydd newydd drwy amgu rhandiroedd eang o dir comin. Efallai i hyn ysgogi mewnfudo i ardaloedd a phrysuro'r cynnydd yn y boblogaeth. Crwyd ffermydd newydd eraill ar gyrion tir comin a thir mynyddig. Cofnodir allfudo o blwyfi yn Sir Benfro ar gyfrifiadau 1801-1861 ond roedd y cynnydd naturiol yn y boblogaeth yn ddigon i unioni hyn. Fodd bynnag, cofnodwyd gostyngiad yn niferoedd cyffredinol y boblogaeth yng nghyfrifiad 1871 - rhywbeth a oedd yn gyffredin phob ardal wledig drwy Brydain. Yn ardaloedd gwledig Sir Benfro parhaodd y gostyngiad hwn mewn niferoedd absoliwt hyd at ganol yr 20fed ganrif. Ar draws y dirwedd mae'r cwymp yn niferoedd y boblogaeth i'w gweld amlycaf yn ardal y Preseli, lle y mae ffermydd a bythynnod anghyfannedd ar rostiroedd ac ar ymylon y rhostiroedd yn elfennau nodweddiadol. Ers yr Ail Ryfel Byd, bu'r boblogaeth yn tyfu. Un o'r rhesymau am y cynnydd hwn yw datblygiad y diwydiant twristiaeth ar benrhyn Tyddewi.

TREFI A PHENTREFI

Mae nodweddion anheddu nodedig i ddwy ardal gofrestr y Preseli a Phenrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi. Yn hanesyddol, roedd Pebidiog yn nodedig am ei dir r ffrwythlon. Yn l y cyfrifiad yn Taylors Cussion George Owen (Pritchard 1906), roedd ymhlith ardaloedd mwyaf poblog Sir Benfro yn y 16eg ganrif, gyda'r nifer uchaf o dimau gwedd. Cynhyrchai lawer o haidd ond cyfran gymharol fach o laethdai oedd yno. Ymddengys i'r sefyllfa hon ddeillio o gyfnod cynharach o dan drefn tir r a thir allan amaethyddiaeth caeau agored o fewn fersiwn o arfer tirddaliadaeth Gymreig (fel y trafodwyd uchod) nad oedd ond yn lled-faenoraidd wedi concwest yr Eingl-Normaniaid. Mae patrwm anheddu amlwg yr ardal a ddynodir gan gyfran uchel o bentrefannau bychain yn deillio o'r dirddaliadaeth hon. Mae Llyfr Du Tyddewi 1326, yn rhoi syniad o ddwysedd cyfoes yr anheddu, gyda llawer o'r pentrefannau diweddarach yn cael eu cynnwys ymhlith y treflannau a restrir ynddo, gan gynnwys er enghraifft, Carnhedryn, Clegyr, Llandrudion, Lleithyr, Penarthur, Penberi, Treleddyd, Trelewyd, Treleidr, Tremynydd, Treliwyd, Tre-hysbys, Treiago, Treto, a Fachelych (Willis Bund 1902). Fodd bynnag, ymddengys i bentrefannau, a oedd o dan ddaliadaeth debyg, barhau i gael eu sefydlu yn ystod yr 17eg ganrif (Charles 1992). Bellach mae grwp o adeiladau fferm l-ganoloesol ym mhob treflan neu bentrefan ac mae rhai, ee. Pwllcaerog, wedi'u cynrychioli gan drefniant anarferol o ffermydd sydd wedi'u gefeillio. Mae'n bosibl bod hwn yn dynodi goroesiad hen arfer Cymreig lle y byddai tir o dan ddaliadaeth dau berson yn hytrach nag o dan berchenogaeth unigol. Fodd bynnag, roedd y system dirddaliadaeth yn dirwyn i ben erbyn diwedd y 18fed ganrif pan ddangosid yr olion ffisegol ar fapiau ystadau. Prin fu'r aneddiadau a sefydlwyd yn ddiweddarach o fewn ardal Tyddewi ond cofnodwyd Maes-y-mynydd ar yr arfordir gogleddol am y tro cyntaf ym 1829 ac yn l traddodiad lleol roedd yn anheddiad i'r Crynwyr. Yr unig anheddiad sylweddol o fewn Pebidiog oedd bwrdeistref Tyddewi ei hun a dderbyniodd ei siarter gyntaf gan y Brenin Harri I ar l 1115 ac esgyniad yr esgob Normanaidd Bernard (Soulsby 1983), er bod bathdy brenhinol yn weithredol yn ystod teyrnasiad William II (Boon 1986,40), a hynny, fwy na thebyg, o fewn y castell a leolid cryn bellter o'r dref ddiweddarach. Dilynai gweinyddiaeth y fwrdeistref batrwm Eingl-Normanaidd, gyda'r tenantiaid yn dal tiroedd bwrdais ffurfiol, gydag un ohonynt, ym 1326, ym meddiant cyd-berchenogion 'fel crair unig o dirddaliadaeth Gymreig' (Willis Bund 1902). Caniatawyd dwy ffair flynyddol a marchnad ddwywaith yr wythnos ym 1281, ac ym 1326 roedd y boblogaeth a oedd oddeutu 1000 yn dal 130 o diroedd bwrdais (ibid.), ond ni cheir fawr o dystiolaeth o gynllunio ffurfiol. Dengys map gan John Speed dystiolaeth fod y dref yn dirywio erbyn dechrau'r 16eg ganrif gyda phrin 51 o dai wedi'u nodi. Yng Nghemaes (ardal y Preseli), lle nad oedd y tir mor ffrwythlon, gwelwyd y drefn barhaus o dirddaliadaeth Gymreig yn arwain at batrwm anheddu gwasgaredig iawn gyda ffermydd bychain unigol ac er nad oedd rhan helaethaf y dirwedd wedi'i hamgu tan ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol roedd hyn yn bennaf oherwydd mai ardal o rostir a thir diffaith ydoedd. Prin oedd yr aneddiadau. Fodd bynnag, roedd bwrdeistref Eingl-Normanaidd Trefdraeth, sy'n gorwedd ychydig y tu hwnt i'r Ardal Gofrestr, fel Tyddewi - sefydliad Eingl-Normanaidd a ddyddiai o ddiwedd y 12fed ganrif, gyda thiroedd bwrdais ffurfiol, marchnad a ffair (Soulsby 1983). Ym Maenclochog, anheddiad o fewn yr ardal astudiaeth, ceir cyfuniad o gastell, lawnt sgwr fawr gydag eglwys, prif stryd echelinol gyda thyddynnod ar ei hyd a phatrwm o gaeau amgylchynol a fu unwaith yn gaeau agored. Maent oll yn nodweddion clasurol o anheddiad Eingl-Normanaidd yn Sir Benfro, ac mae Maenclochog yn rhan o gadwyn o aneddiadau o'r fath ar hyd bryniau deheuol Mynydd Preseli (cf. Y Mot, Castell Henri, Cas-lai ac ati). Ni roddwyd statws bwrdeistref i Faenclochog erioed ac ni cheir cofnod i farchnad neu ffair gael eu cynnal yno (Howells 1977). Fodd bynnag cynhaliwyd marchnadoedd a ffeiriau yn y Fagwyr Goch - yr unig anheddiad trefedigaethol arall o fewn ardal y Preseli, er mai methiant a fu. Ym 1293, caniatawyd marchnad wythnosol ym maenor y Fagwyr Goch a ffair flynyddol a barhi am dridiau (Cal. Charter Rolls 2, 1906). Mae'n debyg bod hyn yn cynrychioli asart mawr o dir cymharol wael yn y 13eg ganrif, a oedd wedi 'methu' erbyn y 16eg ganrif pan na chofnodwyd ond pedwar daliad demn (Howells 1977). Daliai ei dri thenant eu tir drwy gyfuniad o arferion Seisnig a Chymreig ac, yn wir, mae'n bosibl mai llygriad ar y term Rudvall yw'r enw Seisnig 'Redwalls', sef term a ddefnyddid yn Sir Benfro i ddisgrifio ffurf ar ddaliadaeth leol lle y byddai llain-gaeau yn cael eu cronni a'u pori fel tir comin (Owen 1897). Arferai maenor Nanhyfer, a maenor neu is-arglwyddiaeth Eglwyswrw yn rhan ddwyreiniol Cemaes, weithredu system faenoraidd, ac roedd gan Eglwyswrw ei lys maenorol ei hun (Owen 1897). Ceir hefyd awgrymiadau mai anheddiad cynnar oedd pentref Eglwyswrw. Cyfeiriai Owen at yr anheddiad yn Nanhyfer ei hun (ychydig y tu allan i'r ardal astudiaeth) wrth amrywio megis maenor, treflan neu fwrdeistref, a thua 1600 disgrifiodd Drefdraeth a Nanhyfer fel 'dwy fwrdeistref hynafol Cemais', gyda 28 o diroedd bwrdais yn Nhrefdraeth ac 18 yn Nanhyfer (Owen 1897, 477). Fodd bynnag, ni fu Nanhyfer erioed yn fwrdeistref ffurfiol ac nid oedd iddi unrhyw seilwaith corfforaethol neu drefol. Hyd yn oed o fewn maenorau Eglwyswrw a Nanhyfer cedwid elfennau helaeth o arferion daliadaeth Gymreig, gan arwain at ddatblygu nifer o dirddaliadaethau bychain a thy bonedd o statws amrywiol ym mhob un ohonynt. Erbyn y 16eg ganrif roedd gan Eglwyswrw o leiaf 15 (Jones 1996). Mae gwaith diweddar gan Sambrook wedi nodi olion patrwm anheddu yma gyda saith canolbwynt anheddu posibl, sydd efallai yn cyfateb model Jones o 'ystad luosog' gynnar (Sambrook 2000). Ymddengys fod aneddiadau bychain eraill o fewn ardal y Preseli - ee. Brynberian, Felindre Farchog, Llangolman a Mynachlog?ddu oll yn tarddu o'r cyfnod l-ganoloesol - wedi'u sefydlu ar ganolbwyntiau aneddiadau a gynrychiolir gan felinau ac eglwysi a fodolai eisoes, tra sefydlwyd Rosebush yn y 1870au i wasanaethu'r chwarel lechi gerllaw.

DATBLYGIADAU YN YR 20FED GANRIF

Gyda niferoedd y boblogaeth yn dirywio, araf fu'r datblygiadau yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Cafodd y safleoedd a'r gwersyll milwrol a sefydlwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, effaith ddwys ar rai ardaloedd yn Sir Benfro, yn enwedig yn ne'r sir, ond effaith lai yn y gogledd; maes awyr Tyddewi oedd yr unig sefydliad milwrol o bwys ar benrhyn Tyddewi ac ardal y Preseli a byrhoedlog fu'r defnydd ohono, er y gellir gweld olion nifer o fn safleoedd milwrol o'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys dau wersyll carcharorion rhyfel, hyd heddiw ar yr arfordir o amgylch Tyddewi. Dim ond yn ystod y blynyddoedd a ddilynai'r ail ryfel byd y gwelwyd datblygiadau modern yn dechrau newid y dirwedd hanesyddol, a hynny yn sgl y cynnydd yn y boblogaeth, trafnidiaeth gyflymach a rhatach i bob rhan o Gymru a thu hwnt, newidiadau mewn arferion ffermio a chynnydd mewn safonau byw. Yn y 1950au a'r 1960au roedd y datblygiad yn araf, ond ers hynny mae wedi cyflymu. Gellir nodi tri maes allweddol yn benodol: addasiadau i'r stoc tai ac adeiladu tai newydd; datblygiad y diwydiant twristiaeth; a'r newidiadau i'r dirwedd amaethyddol, yn enwedig codi adeiladau fferm newydd. Er bod nifer o dai a godwyd cyn 1900 yn bodoli o hyd, prin yw'r tai hanesyddol hynny nas addaswyd gan fod nifer o addasiadau a gwaith atgyweirio wedi'i wneud iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio safonau byw modern. Fodd bynnag, yr hyn a gafodd yr effaith fwyaf ar y dirwedd hanesyddol fu'r tai newydd a adeiladwyd yn ystod y 1970au ac ers hynny, er mai cymharol fach yw nifer y datblygiadau newydd o'u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Mewn nifer o achosion tai newydd yn lle ffermdai neu fythynnod hyn ydynt, ond ar gyrion Tyddewi ac o fewn pentrefi fel Eglwyswrw, Felindre Farchog, Maenclochog a Rosebush cafodd y datblygiadau tai, gan gynnwys ystadau bach, effaith ddramatig ar gymeriad yr aneddiadau. Mae parciau carafannau a safleoedd gwersylla, tai, cwrs golff a datblygiadau eraill sy'n gysylltiedig 'r diwydiant twristiaeth wedi effeithio ar dirwedd hanesyddol penrhyn Tyddewi. Mae rheolau cynllunio caeth a weithredir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi lliniaru effaith rhai o'r datblygiadau hyn. Er hynny, mae effaith y diwydiant twristiaeth bellach yn elfen o'r dirwedd hanesyddol. Gall effaith adeiladau amaethyddol mawr newydd ar y dirwedd fod yn sylweddol. Mae hyn yn arbennig o wir am benrhyn Tyddewi lle y mae ffermydd wedi'u hamgylchynu gan gyfresi o adeiladau dur a choncrid yn elfen amlwg o'r dirwedd hanesyddol. Trafodir y mathau gwahanol o adeiladau isod yn yr adran ar bensaernaeth frodorol.

DIWYDIANT

Ni fu diwydiant yn ffactor o bwys yn natblygiad tirwedd yr Ardaloedd Cofrestr a ddisgrifir yma, a phrin yw'r dystiolaeth a geir o weithgaredd diwydiannol cynnar. Fodd bynnag, datblygodd diwydiant llechi o bwys ar hyd cyrion deheuol ardal y Preseli yn dilyn darganfod llechi 'Gwyrdd' Ordofigaidd o ansawdd da (Richards 1998). Mae'n debyg i'r chwarelydda a'r masnachu ddechrau mor gynnar chyfnod y Rhufeiniaid pan ddefnyddid llechi Sir Benfro fel balast ar ochrau'r cei yng Nghaerllion (Boon 1978), gan ailddechrau yn ystod yr Oesoedd Canol er mwyn diwallu'r galw am ddeunydd i doeau a waliau adeiladau eglwysig. Mae George Owen, a ysgrifennai tua 1600, yn awgrymu bod masnach sylweddol mewn llechi o Sir Benfro. Dechreuodd gwaith mawr yng Ngilfach a Thyrch yn ystod y 18fed ganrif ond dim ond yn ystod y 19eg ganrif y datblygodd cyfundrefnau a mecanweithiau'r diwydiant pan oedd 20 chwarel o leiaf yn weithredol yn yr ardal (Richards 1998). Sefydlwyd chwareli mawr, gyda'r gwaith mwyaf dwys yn cael ei gynnal yn Rosebush a Bellstone a ddechreuodd oddeutu 1830. O tua 1870 ymlaen ehangodd Rosebush i gyflogi ymhell dros 100 o bobl, gan gynhyrchu 5000 o dunelli, a gwelwyd pentref, gyda chapel a gwesty, yn datblygu yno (ibid.). Fodd bynnag, aflwyddiannus fu'r ymgais i sefydlu Rosebush fel canolfan dwristaidd, ac wedi cau'r chwarel ym 1908 nid ehangodd i fod yn fwy na phentrefan gwledig. Fodd bynnag, mae'r chwarel yn parhau i fod yn nodwedd weledol drawiadol yn y dirwedd. Yn ogystal 'r chwareli, cynhyrchwyd calch ar raddfa fach yn y Preseli. Ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol o leiaf, roedd ardal y Preseli hefyd yn un o'r prif ganolfannau cynhyrchu gwln yn Sir Benfro, gydag o leiaf chwe safle melin bannu a nodwyd a ddyddiai o'r 16eg ganrif (Lewis 1972) a sawl ffatri a ddyddiai o'r 19eg ganrif, gan gynnwys Felindre Farchog, lle'r oedd melin wln a thanerdy, a Brynberian. Yn sgl sefydlu'r ffatroedd hyn, datblygwyd aneddiadau bach a pharhaodd rhai ohonynt, megis Pontyglasier, yn gynhyrchiol hyd yr 20fed ganrif. Erbyn y 1830au roedd diwydiant gwln ardal Tyddewi wedi tyfu'n fwy na'r diwydiant gwln yn y Preseli, a'r nifer uchaf ar gyfer unrhyw ardal oedd dwy ar bymtheg yn ardal cymdogaeth Tyddewi ei hun gan gynnwys Felin Ganol, sydd bellach yn gweithredu fel atyniad twristiaeth. Fodd bynnag parhi economi'r ardal i fod yn seiliedig yn bennaf ar amaethyddiaeth ac roedd diwydiannau eraill wedi'u cyfyngu'n bennaf i echdynnu a llosgi calch a glo mn. Sefydlwyd nifer o chwareli ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod l-ganoloesol, tra bod y rhesi o odynau calch ym Mhorth Clais, er enghraifft, yn elfen arwyddocaol o dirlun y porthladd. Yn draddodiadol, ar hyd yr arfordir deheuol y sefydlwyd y chwareli ar gyfer meini adeiladu hefyd, yn enwedig y tywodfaen rhywiog a gloddiwyd o amgylch Caer Bwdi ac a ddefnyddid wrth adeiladu ochr orllewinol Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn ogystal ag adeiladau eraill. Dim ond ar raddfa fach y cloddiwyd am adnoddau mwynol eraill, er enghraifft y mwyngloddiau copr ar y clogwyni o amgylch Treginnis ar ddechrau'r 19eg ganrif.

PENSAERNAETH FRODOROL

Anheddau gwledig Yn ardal gofrestr y Preseli, ac i raddau llai yn ardal gofrestr Tyddewi, elfen amlycaf y bensaernaeth frodorol ddomestig hynaf yw'r ffermdai a'r bythynnod sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Ar draws de-orllewin Cymru gyfan, ond yn enwedig yng ngogledd Sir Benfro yn y 19eg ganrif, gwelwyd rhaglen o ailadeiladu a ddileodd ymron pob enghraifft o'r ffermdai a'r anheddau cynharach. Mae'r tai hyn sy'n dyddio'r 19eg ganrif yn unffurf iawn eu cymeriad ac wedi'u hadeiladu gan fwyaf o garreg leol ac iddynt doeau o lechi. Yn wreiddiol, naill ai toeau gwellt neu, yn fwy tebygol, toeau o lechi lleol a fyddai i'r tai hyn, ond bellach mae pob un bron wedi'i adnewyddu llechi masnachol. O ran eu harddull, tri bae sydd i'r tai, gyda drws ffrynt yn y canol a simneiau yn y talcenni. Dau lawr sydd i'r rhan fwyaf ohonynt ond ceir enghreifftiau o dai unllawr a thai unllawr a hanner. Codwyd rhai ohonynt yn l yr arddull Sioraidd 'bonheddig', ac mae iddynt gynllun cymesur ac agoriadau cymesur i ddrysau a ffenestri, ond codwyd y rhan fwyaf o'r tai yn l y traddodiad brodorol. Cynllun isel anghymesur a ffenestri bach sydd i'r tai hyn. Oherwydd ansawdd da y garreg adeiladu leol yn ardal Tyddewi a'r Preseli, ni rendrwyd nifer fawr o'r tai sment; mae hyn mewn gwrthgyferbyniad ag ardaloedd eraill yn ne-orllewin Cymru lle y gwelir bod y rhan helaethaf o dai carreg a adeiladwyd yn l y cynllun traddodiadol brodorol wedi'u rendro sment. Mae maint y ffermdai a'r bythynnod yn dynodi mai cymharol fychan oedd y daliadau amaethyddol yn y 19eg ganrif. Fodd bynnag maent hefyd yn dynodi cyfnod o ffyniant amaethyddol i'r ffermwyr bach yn ystod y 19eg ganrif gan ei bod yn amlwg bod ganddynt adnoddau digonol i fuddsoddi mewn anheddau newydd. Cofnodir i bridd gael ei ddefnyddio fel deunydd adeiladu yn ardal y Preseli mewn adeiladau sy'n dyddio, fwy na thebyg, o'r 19eg ganrif, ond mae'n anodd mesur i ba raddau y'i defnyddiwyd ac i ba raddau y mae wedi goroesi oherwydd i'r waliau pridd gael eu rendro sment yn ddiweddarach gan guddio gwneuthuriad yr adeilad. Felly, gan amlaf, dim ond mewn adeiladau anghyfannedd neu led-anghyfannedd y gellir gweld ym mha le y defnyddid pridd. Mae'n bosibl i bridd gael ei ddefnyddio ac iddo oroesi tipyn mwy na'r hyn a gofnodir, ac mae'n bosibl mai o bridd y codwyd tai y tybir iddynt gael eu codi o garreg. Yn ardal Tyddewi yn unig, gyda rhai enghreifftiau prin yn y Preseli, y ceir tai mwy crand a/neu gynharach. Y rhai amlycaf yw'r tai hynny yn Nhyddewi sy'n dyddio o'r cyfnod is-ganoloesol y mae iddynt simneiau crwn (Romilly Allen 1902). Mae'r tai hyn wedi goroesi o gyfnod cynharach o ffyniant amaethyddol. Maent yn dai sylweddol, ac felly ni chawsant eu hailgodi yn ystod y 19eg ganrif fel yr anheddau llai a ddyddiai o gyfnodau cynharach. Hefyd yn ardal Tyddewi, arweiniodd datblygiad ystadau bach preifat yn ystod y 18fed ganrif at godi ffermdai cymharol rodresgar eu pensaernaeth. Yn yr un modd 'r tai eu hunain, fe'u codwyd o garreg ond maent yn fwy o faint ac wedi'u hadeiladu yn yr arddull Sioraidd 'coeth'. Ar benrhyn Tyddewi un o nodweddion amlwg llawer o'r adeiladau yw sgim sment dros doeau llechi. Mewn ardal mor agored mae i'r arfer hwn fanteision ymarferol amlwg, ac fe'i gwelir hyd heddiw ar dai sydd wedi'u haildoi ynghyd ag adeiladau modern; o bosibl at ddibenion esthetig yn gymaint ag at ddibenion ymarferol. Elfen nodedig o'r dirwedd hanesyddol, er ei bod yn diflannu'n gyflym, yw'r defnydd o fframiau pren a haearn gwrymiog neu dun mewn pensaernaeth ddomestig ar draws gogledd Sir Benfro. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus o'r dull adeiladu hwn yw'r cyn Station Hotel yn Rosebush a adwaenir bellach fel Y Tafarn Sinc ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau a godwyd yn y dull hwn yn dyddio o hanner cyntaf y 19eg ganrif, a bythynnod unllawr tri bae ydynt gan fwyaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n goroesi bellach ond gellir gweld enghreifftiau mewn sawl lleoliad ym Maenclochog a Llangolman, i'r de o fynyddoedd y Preseli. Ar wahn i'r adeiladau haearn gwrymiog a nodwyd uchod ac ambell i ffermdy neu annedd arall a godwyd, prin fu'r adeiladau domestig gwledig newydd a godwyd yn ystod yr 20fed ganrif cyn y 1960au a'r 1970au. Ers hynny mae rhai ffermdai a bythynnod wedi'u hailgodi ac mae tai newydd wedi'u hadeiladu naill ai mewn lleoliadau pellennig neu mewn pentrefi. Codwyd yr adeiladau newydd hyn mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau a phrin iawn yw'r enghreifftiau sy'n adleisio unrhyw elfen o bensaernaeth draddodiadol yr ardal. Adeiladau fferm Mae'r adeiladau fferm hyn yn dyddio bron yn ddieithriad o'r 19eg ganrif ac o garreg y'u hadeiladwyd gan fwyaf. Mae rhai adeiladau sydd wedi'u codi o bridd yn bodoli yn ardal y Preseli ond cymharol brin yw'r rhain. Yn y Preseli a Thyddewi, fel ei gilydd, cymharol fach yw maint ac ystod yr adeiladau fferm o'u cymharu 'r rheini sydd i'w cael yn ne Sir Benfro a de Sir Gaerfyrddin. Yn y Preseli mae'n arferol i fferm gynnwys un neu ddwy res o adeiladau carreg bach, gyda beudy, stabl, sied certiau ac ysgubor. Mae'r ysguboriau yn fach. Mae maint ac ystod yr adeiladau yn adlewyrchu economi gymysg y ffermydd yn y 19eg ganrif a maint cymharol fach y tirddaliadaethau. Yn ardal Tyddewi ac ar Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, mae'r adeiladau fferm yn fwy na'r rheini yn y Preseli, gyda chyfresi o adeiladau, gan gynnwys ysguboriau mawr wedi'u cysylltu ffermdai mwy o faint. Mae cynllun lled-ffurfiol y ffermdy a'i gyfres o adeiladau fferm o amgylch iard, fel y gwelir mewn rhannau eraill o dde-orllewin Cymru, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle y ceir ystadau mawr, yn brin yn ardaloedd Tyddewi a'r Preseli. Agwedd nodedig o'r dirwedd amaethyddol, yn enwedig yn ardal y Preseli ac yn arbennig i'r de o'r mynyddoedd, yw'r defnydd a wneid o haearn gwrymiog ar gyfer yr adeiladau fferm. Mae'n debyg mai yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif y gwelwyd y defnydd mwyaf ohono, ond caiff siediau haearn gwrymiog eu codi o bryd i'w gilydd hyd heddiw. Siediau gwair crwn a adeiledid gan fwyaf gan ddefnyddio'r deunydd hwn. Mae nifer o'r rhain yn goroesi hyd heddiw a chnt eu paentio'n ddu fel arfer. Yn yr un modd ag adeiladau fferm hyn, mae'r adeiladau amaethyddol modern a godir dur, concrid ac asbestos yn gyffredinol yn llai o faint na'r rheini a geir mewn mannau eraill yn ne-orllewin Cymru. Yr eithriad yw penrhyn Tyddewi lle y mae ffermydd wedi'u hamgylchynu gan adeiladau mawr modern, yn un o nodweddion y dirwedd.

EGLWYSI A CHAPELI

Yn ninas Tyddewi gwelir peth o'r bensaernaeth eglwysig orau yng Nghymru. Mae'n bosibl i gwlt Dewi a thraddodiad pererindota ddyddio o'r 7fed ganrif. Erbyn y 9fed ganrif roedd y cwlt yn amlwg gysylltiedig Thyddewi ei hun. Atgyfnerthwyd y cysylltiad hwn pan gydnabuwyd yr esgobaeth gan y brenhinoedd Normanaidd a thrwy faddeueb y Pb Calixtus ym 1123 a ddatganodd fod dwy daith i Dyddewi yn gyfwerth ag un daith i Rufain (James 1993, 105). Ymddengys i'r cyfan o Gantref Pebidiog ddod i feddiant esgobol erbyn tua 1100, yn bennaf drwy rodd brenin Dyfed, Rhys ap Tewdwr, ym 1082 (James 1981, 28). Erbyn diwedd y cyfnod canoloesol o leiaf, roedd eglwysi a chapeli lu yn yr ardal a daethant yn brebendau neu yn adfowsynau'r eglwys gadeiriol. Fel y nodwyd gan James, 'hyd yn oed heddiw mae i Dyddewi a'r cyffiniau dopograffi eglwysig rhyfeddol' (James 1993, 105). Mae'r penrhyn yn dirwedd ddefodol ym mhob ystyr, gyda nifer fawr o gapeli a safleoedd capeli coll, mynwentydd, ffynhonnau cysegredig a henebion Cristnogol cynnar. Er bod adeiladau'r capeli eu hunain yn dyddio o'r cyfnod wedi concwest yr Eingl-Normaniaid, mae rhai - St Justinian's a'r Santes Non, er enghraifft - yn gysylltiedig ffynhonnau a mynwentydd a allai ddyddio o'r cyfnod cyn y goncwest, ac yn sicr roedd safle'r Santes Non wedi'i gysylltu chwlt Non, mam Dewi Sant, erbyn i Gerallt Gymro gofnodi ei arsylwadau ddiwedd y 12fed ganrif. Yn ogystal hynny, mae bodolaeth 'seilwaith' eglwysig sy'n gysylltiedig henebion Cristnogol cynnar y gellir eu dyddio i'r cyfnod cyn y Goncwest, a'i gyd-destun defosiynol yn hytrach na ffurfiol, yn awgrymu ei fod yn tarddu o gyfnod cynharach. O ran gweinyddiaeth eglwysig ffurfiol ddiweddarach, mae ardal Tyddewi yn gorwedd yn bennaf ym mhlwyf Tyddewi, sydd o bosibl yn sicrhau parhad rhaniad cynharach. Mae Tre-groes, a gysegrwyd i Dewi Sant hefyd, yn gysylltiedig heneb Gristnogol gynnar ac roedd hefyd yn gapelyddiaeth i Dyddewi tan y cyfnod l-ganoloesol pan ddaeth yn blwyf (Ludlow 1998). Y drydedd eglwys sy'n goroesi, yn Llanhywel, oedd canolbwynt plwyf a darddai o gyfnod cynharach, ac yn wahanol i'r arfer, fe'i cadwyd gan y Goron tan 1302 pan drosglwyddwyd y fywoliaeth i'r eglwys gadeiriol (ibid). Mae cryn dipyn o ddeunydd canoloesol i'w weld o hyd yn y ddwy eglwys, fel sy'n wir am yr eglwys gadeiriol ei hun. Tymhestlog fu dyddiau cynnar Anghydffurfiaeth yn ardal Tyddewi ond roedd wedi bwrw'i gwreiddiau'n ddwfn erbyn diwedd y 18fed ganrif gyda nifer o gapeli ffurfiol yn cael eu codi. Mae rhai o'r capeli hyn bellach yn adeiladau rhestredig, fel capel hynaf y Methodistiaid ym mhlwyf Caerfarchell, a adeiladwyd ym 1763. Dechreuodd Anghydffurfiaeth fel crefydd ar yr aelwyd a nodwedd arbennig o'r ardal yw bod y pentrefannau, yr oedd eu patrwm bellach yn nodwedd o'r ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, bellach yn grwp o adeiladau fferm l-ganoloesol sydd yn aml yn cynnwys capel ee Carnhedryn a Llandidgige. Mae'r rhain fel arfer yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif, ac yn perthyn i amrywiaeth o enwadau, ac ymddengys fod rhai ohonynt wedi'u hadeiladu ar safle crefyddol cynharach. Yn l hanes lleol, roedd Maes-y-mynydd ger Tyddewi yn anheddiad a mynwent i'r Crynwyr. Mae topograffi eglwysig hefyd yn perthyn i ardal y Preseli - ac i Gemaes yn gyffredinol - ac er mai eiddo sefydliadau uchel fynachaidd sy'n tra-arglwyddiaethu, mae'r topograffi hwn yn tardduo ddyddiau cynnar. Roedd eglwys plwyf Llandeilo Llwydarth sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol yn safle un o'r saith 'tai esgob' fel y'u gelwid a ddyddiai o'r cyfnod cyn goresgyn Dyfed ac mae'n bosibl bod y safle wedi'i gysegru i Deilo mewn cyfnod cynnar. Mae dwy Heneb Gristnogol Gynnar o'r safle bellach yn eglwys Maenclochog ac yn l y chwedl sy'n gysylltiedig 'r ffynnon gysegredig gerllaw, yfwyd y dwr o benglog Teilo Sant ei hun. Yn ystod y cyfnod canoloesol cysylltwyd Llandeilo, ynghyd ag eglwys y plwyf yn Llangolman gerllaw, ficerdy Maenclochog, a roddwyd i Abaty Llandudoch gan David de la Roche oddeutu 1320 (Ludlow 1998). Ailgodwyd eglwysi Llangolman a Maenclochog yn llwyr yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, tra bod eglwys Llandeilo bellach yn adfail. Roedd abaty Tironaidd Llandudoch yn cynrychioli'r presenoldeb eglwysig amlycaf yn yr ardal hon. Roedd hefyd yn berchen ar y faenor fawr Nigra Grangia a roddwyd ym 1118 gan William Fitzmartin, Arglwydd Cemaes, a chynhwysai'r rhan helaethaf o blwyf diweddarach Mynachlog-ddu. Roedd ei eglwys ganoloesol, a gysegrwyd i Dudoch Sant, yn wreiddiol yn gapel maenorol (ibid). Hwyrach bod capel maenorol arall o fewn y plwyf, a gysegrwyd i Sulyn Sant, yn tarddu o gyfnod cynharach. Roedd Sistersiaid Abaty Hendy-gwyn hefyd yn dirfeddianwyr yn yr ardal ac roedd maenor fawr Llwyn-yr-ebol yn eiddo iddynt ynghyd hawliau pori o fewn Maenclochog. I'r gogledd o Fynydd y Preseli ceir casgliad pellach o safleoedd eglwysig a oedd yn gysylltiedig ar un adeg phlwyf canoloesol mawr Eglwyswrw. Ymddengys fod eglwys Eglwyswrw ei hun, a gysegrwyd bellach i Gristiolus Sant, wedi'i lleoli ar safle cynharach a'i bod wedi'i chysegru'n wreiddiol i'r Forwyn Fair yn ogystal 'r gapelyddiaeth ddibynnol yn Llanfair Nant-Gwyn, a ddaeth yn eglwys y plwyf yn ddiweddarach, ynghyd nifer o ffynhonnau yn yr ardal gyfagos (Ludlow 1998b). Roedd eglwys y plwyf yn Eglwyswen - sy'n segur yn awr ond a ailgodwyd yn y 19eg ganrif fel yn achos Llanfair ei hun - hefyd yn gapelyddiaeth i Eglwyswrw ond roedd eglwys Meline gerllaw yn eglwys y plwyf o'r cyfnod canoloesol pan oedd o dan nawdd rhyddfreinwyr y faenor yr oedd ganddynt yr hawl, bob yn ail, i gyflwyno'r fywoliaeth yn l ffurf arbennig ar hen arfer Cymreig (Ludlow 1998). Mae'r eglwys - a gysegrwyd i Dudoch Sant, sef y prif ffigwr cwlt yn yr ardal - wedi'i lleoli mewn mynwent gron a gall fod yn dyddio o'r cyfnod cynnar, ond fe'i hailadeiladwyd yn y 19eg ganrif, er i ffrm ddrws sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac arni fowldiau wynebau dynol grotsg, gael ei chadw. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal ogleddol hon yn gorwedd o fewn plwyf canoloesol Nanhyfer ac mae'r eglwys gaedig yn y Cilgwyn yn goroesi fel capel anwes a gafodd ei ailadeiladu'n helaeth. Yn y Cilgwyn hefyd y gwelir un o adeiladau Anghydffurfiol gorau Cemaes, sef Capel Caersalem gyda'r pwll bedyddio allanol a adeiladwyd ym 1841 ar gyfer cymuned a sefydlasid ym 1820 (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997). Arweiniwyd y Bedyddwyr yn ardal y Preseli a thu hwnt gan gymuned y capel hyn yn Rhydwilym, a sefydlwyd yn gynnar iawn ym 1668 o dan nawdd teuluoedd bonedd lleol, ac a gafodd, o'r cychwyn cyntaf, ddylanwad trwm iawn dros ardal eang (Lewis 1975). Ymhlith y capeli cynnar eraill mae Capel Bethel ym Mynachlog?ddu a sefydlwyd ym 1794, ac mae'r Tabernacl ym Maenclochog a godwyd fel capel annibynnol yng nghanol y 19eg ganrif yn dilyn anghydfod mewnol ymhlith cynulleidfa yr Hen Gapel a adeiladwyd ddechrau'r 19eg ganrif yn dyst i'r rhaniadau parhaus a fu (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997).

CAEAU CYNHANESYDDOL

Dim ond ar dir ymylol y ceir tystiolaeth o gaeau cynhanesyddol, fel Penmaendewi, Ynys Sgomer a Mynyddoedd y Preseli; er hynny nid oes amheuaeth na fu caeau o'r fath yn gyffredin yn yr ardal astudiaeth hon. Nid oes sicrwydd pendant ynghylch y math o ddylanwad a gafodd caeau cynhanesyddol dros y dirwedd hanesyddol ddiweddarach, ond tybir bod y systemau caeau diweddarach wedi dileu'r ffiniau cynharach hyn ymron i gyd. Nodwyd dau fath o system caeau. Ar Benmaendewi, gellir gweld ffiniau hir a syth sy'n ymestyn dros sawl kilometr gan rannu'r dirwedd yn flociau mawr (Murphy 2001), patrwm a adwaenir fel system caeau cyfechelin. Sefydlwyd y rhaniadau hyn fel system unedig o dan nawdd unigolyn neu grwp pwerus yn yr ail fileniwm CC. Prin yw'r dylanwad a gafodd y system hon ar dirwedd fodern Penrhyn Tyddewi, gan mai dim ond ychydig o ffiniau'r caeau heddiw sydd wedi'u halinio hwy. Fodd bynnag, mewn mannau eraill yn Sir Benfro, mae Kissock (1993) wedi nodi sawl plwyf lle y mae system caeau cyfechelin dybiedig wedi dylanwadu'n gryf ar sip a ffurf y caeau sy'n bodoli heddiw. Mae ail ffurf y system caeau yn cynnwys ffiniau dolennog sydd yn aml yn gysylltiedig chylchoedd cytiau a chlostiroedd. Gwelir yr enghraifft orau o'r math hwn o system ar Ynys Sgomer (Evans 1990), ac yna ar Benmaendewi, ac mae nifer o safleoedd gwahanol ar Fynyddoedd y Preseli. Tybir bod y systemau hyn yn dyddio o'r oes haearn, ond ni phrofwyd hyn i sicrwydd. Ymddengys mai ychydig iawn o ddylanwad a gafodd y math hwn o system caeau ar y dirwedd amaethyddol fodern.

CAEAU AGORED A'U CLOSTIROEDD

Yn ystod yr Oesoedd Canol, yr arfer, ymron yn ddieithriad, oedd trin y tir ffermio mewn systemau caeau agored (a elwir hefyd yn gaeau isranedig neu gaeau comin). Yn y system hon tir comin a fyddai'r tir hwn, ac ar wahn i ambell i glos a phadog yn gysylltiedig ffermydd, prin iawn oedd y clostiroedd a rhennid y tir yn lleiniau neu'n rhannau o fewn caeau mawr agored. Tir diffaith a thir comin heb ei drin oedd y tu hwnt i'r caeau agored hyn. Yn draddodiadol ni fyddai'r lleiniau o fewn y caeau agored yn perthyn i un ffermwr ond yn hytrach caent eu cylchdroi yn flynyddol. Fodd bynnag erbyn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif daeth hawliau trin rhai lleiniau o fewn y caeau agored i ffermwyr unigol. Drwy fargeinio a chyfnewid gellid cronni sawl llain wrth ymyl ei gilydd. Mater syml wedyn oedd codi gwrych o amgylch y lleiniau a gronnwyd. Drwy'r broses hon felly y newidiwyd y caeau comin agored yn systemau caeau dan berchenogaeth breifat sy'n bodoli hyd heddiw. Roedd dyddiad a chyflymder y broses o amgu'r caeau agored yn amrywio'n fawr. Ar dir fferm llewyrchus gogledd Sir Benfro, i'r gogledd o Fynyddoedd y Preseli, roedd systemau caeau agored i'w cael ym mhobman pan ysgrifennodd George Owen ei ddisgrifiad o Sir Benfro oddeutu 1600. Ond mae'n debyg iddynt ddiflannu ymron yn llwyr o fewn cenhedlaeth neu ddwy a'u disodli gan gaeau cymharol fawr, rheolaidd eu patrwm wedi'u hamgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd. Prin iawn bellach yw'r dystiolaeth weledol o'r caeau agored blaenorol. Mae'r ffaith iddynt gael eu disodli mor gyflym, ynghyd phatrwm cydlynus y caeau newydd, yn awgrymu i'r broses fynd rhagddi sl bendith y gymuned amaethyddol fel rhan o raglen o welliannau amaethyddol. I'r de o Fynyddoedd y Preseli, mae olion gweledol y caeau agored blaenorol yn amlycach o lawer yn y dirwedd fodern. Yma, ymddengys i'r broses o newid fynd rhagddi'n arafach, gyda'r gwaith o amgu lleiniau unigol a lleiniau a feddiannwyd yn cael ei adael i ffermwyr unigol. Yn sgl hyn, mae l lleiniau'r caeau agored blaenorol i'w gweld yn y dirwedd fodern. Gwelir enghraifft dda o hyn ym Maenclochog lle yr adlewyrchir caeau agored blaenorol y gymuned, a hyd yn oed leiniau unigol, ym mhatrwm y caeau sy'n bodoli heddiw. Dim ond ar ddiwedd y 18fed ganrif y daeth y broses o amgu'r caeau agored i ben. Mewn gwrthgyferbyniad, ni chwblhawyd y broses o amgu caeau agored ar benrhyn Tyddewi a Phebidiog yn gyffredinol hyd ddechrau'r 19eg ganrif i ganol y 19eg ganrif. Roedd rhannau helaeth o'r ardal honno yn parhau heb eu hamgu ac yn 'agored i'r tymhestloedd' pan ysgrifennai Owen oddeutu 1600 ac felly y bu tan y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, fel y tystir gan Charles Hassall ym 1794 (Howells 1987). Mae mapiau ystad sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Archifdy Sir Benfro yn cofnodi tirwedd gyfnewidiol iawn. O amgylch dinas Tyddewi roedd rhai lleiniau yn parhau i gael eu defnyddio mewn system caeau agored ar ddiwedd y 18fed ganrif tra amgaewyd eraill yn gaeau hir, crwm. Erbyn arolwg degwm 1840-1 roedd y broses amgu wedi'i chwblhau. Er i nifer o'r caeau hir, crwm a grwyd o ganlyniad i'r broses amgu, gael eu hymgorffori mewn patrymau mwy rheolaidd, ac er bod rhai wedi diflannu o dan ddatblygiadau'r ddinas, gellir gweld l patrwm y system caeau agored o hyd. Roedd system caeau agored dinas Tyddewi yn system gonfensiynol Seisnig, a sefydlwyd gan ac ar ran bwrdeisiaid y ddinas. Mewn mannau eraill ar y penrhyn roedd cymeriad gwahanol iawn i'r caeau agored. Mae Treto, Treleidr a Threleddyd ymhlith y pentrefannau a nodir fel aneddiadau cnewyllol ar fapiau ystad ddiwedd y 18fed ganrif, a dangosir rhai ohonynt wedi'u hamgylchynu gan system caeau isranedig. Nid y lleiniau hir, cul a chrwm a oedd mor nodweddiadol o system caeau agored 'Seisnig' mo'r rhain ond, yn hytrach, lleiniau neu leini byr a hirsgwar wedi'u gwasgaru dros ardal eang ac a oedd wedi goroesi o ddyddiau system dirddaliadaeth Gymreig. Yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif trawsnewidiwyd y systemau caeau agored hyn yn dirwedd o gaeau mawr hirsgwar. Prin y gwelir unrhyw dystiolaeth o'r caeau agored blaenorol yn y dirwedd.

MEDDIANNU TIR COMIN A THAI UNNOS

Erbyn y 18fed ganrif roedd y tir amaethyddol ar benrhyn Tyddewi yn cael ei ddefnyddio ymron i gyd ac nid oedd llawer o gyfle gan bobl i greu ffermydd newydd neu gaeau newydd o'r ychydig dir comin a oedd ar gael. Yn ardal y Preseli, fodd bynnag, roedd ardaloedd helaeth o dir comin, tir diffaith a thir mynyddig ar gael, ac yn ystod y cyfnod o gynnydd mawr yn y boblogaeth a barodd hyd at ganol y 19eg ganrif, sefydlwyd llawer o ffermydd newydd a daeth tir a fu unwaith yn ddiffaith, yn dir r. Yn gyffredinol sefydlwyd ffermydd ar dir rhwng 200m a 300m yn ystod y cyfnod hwn. Roedd aneddiadau parhaol eisoes yn bodoli ers canrifoedd ar dir islaw 200m, ac uwchlaw 300m nid oedd y rhostir agored yn ddigon caredig i ffermwyr. Ar ochr ogleddol Mynyddoedd y Preseli, mae tir ffermio ffrwythlon a chymharol isel yn codi'n sydyn i rostir uchel agored ac felly dim ond llain gul o dir a oedd yn addas i'w feddiannu. Serch hynny, dengys arolwg degwm oddeutu 1840 y meddiannwyd cyrion y tir comin hwn. Ar y tir ei hun nodweddir y feddiannaeth hon gan ddaliadau amaethyddol bach - bythynnod neu dai bychain gyda chyfres gyfyngedig o dai allan, os o gwbl - mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd. Mae llawer o'r aneddiadau hyn ar ymylon uwch y tir hwn bellach yn anghyfannedd. Ar ochr ddeheuol Mynyddoedd y Preseli ceir llain lydan o dir bryniog sydd ymron i bum kilometr o led mewn mannau a rhwng 200m a 300m o uchder, a fu, hyd at yr 17eg ganrif, yn rhostir agored. Er enghraifft, ar ddiwedd yr 17eg ganrif, disgrifiwyd y dirwedd o amgylch Glandy Cross fel rhostir a gweundir gan Edward Llwyd. Fe'i meddiannwyd a'i amgu erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Yn Rhos-fach, ym mhlwyf Llangolman, mae bythynnod a ffermydd bach mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd yn cynrychioli meddiannaeth y tir comin. Gan i dir i'r gogledd o'r ardal hon gael ei hamgu gan Ddeddf Seneddol (gweler isod) ym 1815, tybir i'r ffermydd a'r caeau gael eu creu yn y 18fed ganrif neu ynghynt. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif gelwid tai newydd ar dir comin yn dai unnos. Yn l y traddodiad, byddai gan rywun hawl i'w dy pe ci ei adeiladu mewn un noson a phe bai mwg yn dod o'r simne erbyn toriad gwawr. Gallai'r perchennog newydd hefyd amgu y tir hwnnw a fesurid yn l pa mor bell y gallai daflu bwyell. Mewn mannau eraill yng Nghymru heriwyd yr hawl hon i adeiladu ar dir comin yn daer gan ystadau mawr, y Goron, rhydd-ddeiliaid a thenantiaid (Murphy 1999, 16-18), ond yng ngogledd Sir Benfro dangoswyd goddefgarwch a hyd yn oed anogaeth i'r arfer hwn. Er enghraifft, ym 1786, ym mhlwyf Llanfyrnach, darparwyd gwellt a byrddau i deulu er mwyn gorffen bwthyn a adeiladwyd ar dir comin gyda 'sl bendith Arglwydd y Faenor' (Lewis d.d., 79-80). Fodd bynnag, bu anghydfod, a chofnoda Lewis (ibid., 61) i wrychoedd a godwyd yn anghyfreithlon ym 1802 ar dir comin ym mhlwyf Llanfyrnach, gael eu tynnu i lawr. Mae'n annhebygol bod unrhyw dai unnos neu fythynnod sgwatwyr yn bodoli yn eu cyflwr gwreiddiol. Mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hailadeiladu neu eu haddasu, droeon o bosibl, yn ystod eu hoes. Er i'r broses o greu ffermydd newydd ddod i ben fwy neu lai erbyn canol y 19eg ganrif, gwelwyd enghreifftiau o rostir yn cael ei amgu a'i ffermio o hyd, a hynny yn yr 20fed ganrif. Gellir gweld enghreifftiau o hyn mewn pantiau cysgodol ar ochrau deheuol Mynyddoedd y Preseli.

Y DEDDFAU CAU TIR

Dim ond cyfran fechan o benrhyn Tyddewi a amgaewyd gan Ddeddf Seneddol, ond i'r de o Fynyddoedd y Preseli, cafodd y dull ffurfiol hwn o amgu tir effaith fawr ar rannau o'r dirwedd. Pasiwyd dau ddyfarniad cau tir, un ym 1815 ym mhlwyf Llangolman ar ochrau deheuol Mynyddoedd y Preseli a'r llall ym 1812 ym mhlwyf Llanfyrnach, ar ochrau de-ddwyreiniol y mynyddoedd. Yn y ddau achos rhostir agored oedd y tir cyn ei amgu. Yn sgl yr amgu crwyd tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau rheolaidd a ffyrdd syth. Ym mhlwyf Llanfyrnach, mae'r dirwedd a sefydlwyd ddechrau'r 19eg ganrif yn parhau hyd heddiw. Mae tirwedd clostiroedd yn Llangolman wedi dioddef yn sgl diboblogi; gadawyd ffermydd ar y lefelau uwch yn wag a phlannwyd coedwigoedd coniffer ar draws rhai o'r caeau blaenorol.

CAEAU A FFINIAU'R CAEAU

Fel y disgrifiwyd uchod esblygodd y rhan fwyaf o'r patrwm caeau modern naill ai o'r systemau caeau agored yn ystod y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif i'r 19eg ganrif neu fe'i crwyd gan y broses o amgu rhostir a thir diffaith yn ystod yr un cyfnod. Yn aml iawn bydd ffurf a chymeriad y caeau yn cynnig awgrym o'u dyddiad a'r dull a ddefnyddid i'w creu. Er enghraifft, crwyd patrwm rheolaidd unionlin gan broses amgu'r Deddf Seneddol, tra crwyd tirwedd o gaeau bach afreolaidd gan y broses o feddiannu tir comin. Gellir gweld gwahaniaethau o ran manylion hefyd. Mae ffiniau caeau a grwyd o ganlyniad i Ddeddf Seneddol yn tueddu i fod yn unffurf o ran eu maint a'u gwneuthuriad ar draws yr ardal o glostiroedd. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu ag ardaloedd lle y datblygodd y caeau mewn modd mwy naturiol a lle y gwelir mwy o amrywiaeth o ran y math o ffiniau. Fodd bynnag ni cheir llawer o amrywiaeth yn y mathau o ffiniau caeau a geir yn y Preseli a Thyddewi. Yn ddiau y ffin hanesyddol fwyaf cyffredin yw'r clawdd pridd a cherrig; er bod y math hwn yn cynnwys y clawdd sy'n nodweddiadol o Sir Benfro - sef haenau o dyweirch a cherrig am yn ail - dim ond yn achlysurol y'i cofnodwyd yn Nhyddewi neu'r Preseli. Y cloddiau amlycaf yw cloddiau syml o bridd yn gymysg a cherrig. Mae'r gyfran o bridd a cherrig yn amrywio yn l yr hyn a oedd ar gael yn lleol. Mewn rhai lleoliadau, ond yn enwedig ar hyd ffyrdd a llwybrau, ac yn aml am ysbeidiau byr iawn, caiff y cloddiau hyn eu gorchuddio waliau cerrig sych, er mwyn eu diogelu, mae'n debyg, rhag trafnidiaeth ac anifeiliaid. Ar dir uwch, ond hefyd ar lefelau is, ceir cloddiau sydd wedi'u creu ymron yn gyfan gwbl o garreg lanw. Mae'n arferol i wrychoedd gael eu plannu ar gloddiau terfyn. Gall ansawdd, cyflwr a'r math o wrychoedd fod yn bwysig wrth bennu cymeriad ardal. Ar lefelau is mewn mannau cysgodol, mae gwrychoedd sydd wedi'u cadw'n dda, ac weithiau coetrychoedd yn aml yn creu ymdeimlad o dirwedd amgaedig iawn. Ar y llethrau uwch, mwy agored, yn aml iawn rhesi gwasgarog o lwyni yw'r gwrychoedd neu mae rhai ohonynt wedi'u disodli'n llwyr gan ffensys gwifren. Mae hyn yn gwneud i'r dirwedd edrych yn fwy agored ac yn darparu ardal o drawsnewid rhwng y dirwedd is amgaedig a'r rhostir agored uwch. Oherwydd natur agored iawn penrhyn Tyddewi, rhesi isel gwasgarog a digysgod o eithin a llwyni eraill yw'r gwrychoedd yma. Gan nad ydynt ynddynt eu hunain yn rhwystrau effeithiol rhag anifeiliaid, mae'r cloddiau yn anferth. Nid yw'n anarferol gweld cloddiau sy'n fwy na 2m o uchder. Yr ail fath mwyaf cyffredin o ffin hanesyddol yw'r waliau cerrig sych, er nad ydynt yn niferus iawn a dim ond mewn ychydig o leoliadau y maent yn amlwg. Ceir grwpiau ohonynt ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli, ar ben gorllewinol eithaf Penrhyn Tyddewi, ar Ynys Dewi ac ar Ynys Sgomer. Ar yr ynysoedd hyn, y waliau cerrig sych yw'r math traddodiadol o ffin. Ar wahn i'r ffensys gwifrau a phostyn, sydd i'w gweld ym mhobman, prin iawn yw'r mathau eraill o ffiniau caeau ac yn aml mn elfennau o'r dirwedd hanesyddol ydynt. Un o nodweddion tirwedd amaethyddol Tyddewi, nad yw mor gyffredin yn ardal y Preseli yw'r defnydd a wneid o bileri gatiau carreg morter wrth fynedfeydd y caeau. Mae ffermio r yn elfen bwysig yn economi amaethyddol Tyddewi, fel y bu erioed, ac mae mynedfeydd digon llydan i beiriannau amaethyddol yn hanfodol, gyda'r pileri yn amddiffyn y cloddiau. Mae llawer o'r pileri wedi'u disodli bellach gan flociau concrid. Yn ardal mwy bugeiliol y Preseli, mae'r mynedfeydd i'r caeau yn gul gyda physt pren neu bileri carreg.

RHOSTIR A THIR COMIN

Roedd y tir comin nas amgaewyd yn ne-orllewin Cymru yn bodoli ar ddwy ffurf: i) tir comin ffurfiol lle y delid hawliau pori gan y rhyddfreinwyr fel rhan o'u rhwymedigaethau a'u hawliau maenorol, neu ii) ardaloedd o dir mwy gwael, gwlyb yn aml, a neilltuwyd fel tir diffaith anffurfiol. Yn Nhyddewi, yn arbennig, mae'r gwahaniaeth yn parhau yn amlwg mewn enwau llefydd lle y gwelir yr elfennau 'comin' a 'gwaun'. Roedd tir nas amgaewyd o'r ddau gategori uchod yn gyffredin yn ardaloedd y Preseli a Thyddewi, er mai ucheldir helaeth Mynydd y Preseli ei hun oedd, ac sydd, i gyfrif am y mwyafrif ohono yn ardal y Preseli. Er y ceir tystiolaeth o ffermio cynhanesyddol ar lethrau Mynydd y Preseli, rhostir agored fu'r tir yn hanesyddol erioed. Ffurfiolwyd yr hawl i'w ddefnyddio mewn siarter gan Nicholas Fitzmartin, Arglwydd Cemaes, ar ddiwedd y 13eg ganrif, a oedd yn caniatu hawliau pori a thorri mawn i ryddfreinwyr Cemaes (Howells 1977, 23). Diffiniwyd y tir comin hwn mewn arolwg a gynhaliwyd ym 1594 a nodai mai'r ffiniau oedd "Ffordd y Ffleminiaid a Bwlch-y-gwynt gan fynd yn anuniongyrchol i'r dwyrain tuag at Flaenbanon gan ddisgyn...mor bell 'r Eglwyswen, Meline a Chilgwyn" (ibid). Mae "Ffordd y Ffleminiaid" (neu Via Flandrensica") a nodir yma ac mewn dogfennau cynharach yn gloddwaith amlwg yr ystyrir mai llwybr cynhanesyddol ydyw. Mae arolwg 1594 yn ei gwneud yn amlwg 'na fu i'r arglwydd wella'r comin erioed', ac mae'n parhau yn dir agored hyd heddiw. Fodd bynnag dechreuwyd amgu tir comin neu dir diffaith ar ochr ddeheuol Mynydd y Preseli yn ystod y 16eg ganrif. Er enghraifft, roedd maenor Llandudoch, Nigra Grangia, (Mynachlog-ddu) yn cynnwys 5 gweddgyfair gwerth 8 15s 6c ym 1535 (Lewis 1969), ond aseswyd mai dim ond hanner ffi marchog oedd ei werth, a'r awgrym felly yw mai tir agored ydoedd yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, yn y 16eg ganrif, roedd plwyfolion Eglwys Wythwr, ger Llandudoch, yn hawlio hawliau comin dros 'diroedd penodol a elwir Llethr' ym mhlwyf Mynachlog-ddu (ibid). Mae cyfeiriad uniongyrchol at hafota a hendrefa yn anarferol yn ne-orllewin Cymru ac ymddengys mai parhad ydoedd o'r hyn a arferid o dan rheolaeth Abaty Llandudoch. Fodd bynnag yng nghanol y 16eg ganrif, disgrifiodd Llys yr Ychwanegiadau diroedd o fewn Mynachlog-ddu fel 'daliadau' gan awgrymu bod proses ffurfiol o amgu'r faenor wedi dechrau, ac mae patrwm presennol y ffiniau o fewn yr ardal yn nodweddiadol o ddulliau amgu yn y cyfnod l-ganoloesol cynnar. Mae maenor Maenclochog, hefyd ar ochr ddeheuol Mynydd y Preseli, yn cynnwys sawl ardal ar wahn o dir comin sy'n cynrychioli olion ardal helaethach a barhaodd yn dir agored yn ystod y cyfnod l-ganoloesol. Ym 1724 hawliwyd hawliau torri mawn yn yr ardal hon (Howells 1987) sy'n awgrymu bodolaeth tir comin ffurfiol helaeth. Fodd bynnag, ym 1301, rhoddodd Arglwydd Maenclochog, David de la Roche, hawliau pori i fynachod Abaty Hendy-gwyn ar Daf ar gyfer eu ceffylau 'ar y Preseli a'r tiroedd diffaith o'u hamgylch am saith mlynedd am geiniog ac am 2 swllt wedi hynny' (Hunter 1852) sydd yn l pob tebyg yn cyfeirio at yr un ardal. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd tir comin yn ardal Tyddewi yn brinnach ac fe'i rheolid mewn modd mwy ffurfiol. Patrwm anheddu amlycaf yr ardal yw dwysedd uchel o bentrefannau bach yn seiliedig yn bennaf ar dreflannau, ac a aseswyd yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326 (Willis Bund 1902). Ymddengys fod nifer ohonynt yn gysylltiedig dwy ardal ar wahn o dir comin. Gelwid un ardal yn gomin a'r llall yn waun. Y gweundir oedd y tir diffaith. Fodd bynnag, gwelir yr un math o gysylltiad rhwng tir comin o fewn treflannau nas cofnodwyd cyn y 17eg ganrif. Yn ne'r ardal rhannwyd llain fawr agored o dir diffaith rhwng pum treflan o leiaf ac roedd gan bob treflan hawl i ran o'r tir hwn. Ni ellir diffinio gwahaniaeth gweledol bellach rhwng yr ardaloedd hyn ond mae llawer o'r ardal wedi'i meddiannu gan safle Maes Awyr Tyddewi a ddatblygwyd yno yn ystod yr 20fed ganrif. Mae ardal fwy o dir comin creiriol yng nghanol y penrhyn, sef Dowrog, yn cynrychioli ardal o dir diffaith nas amgaewyd byth, ond ymddengys fod ardaloedd amlwg o dir a feddiannwyd o amgylch Treto, yn ddrylliau o gaeau agored yn hytrach na lleiniau o dir a feddiannwyd gan sgwatwyr. Mae'n bosibl bod y rhain yn cynrychioli asartau sy'n dyddio o'r 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif.

COEDWIGOEDD A CHOETIR

Nid yw coetir collddail lled-naturiol yn elfen amlwg yn nhirwedd y Preseli ac ni cheir coetir o gwbl ar benrhyn Tyddewi, Ynys Dewi ac Ynys Sgomer. O fewn ardal y Preseli, mae coetir collddail i'w gweld ar lethrau serth dyffryn y Cleddau Wen i'r de o'r mynyddoedd ac i'r gogledd ar lethrau dyffryn Nanhyfer a Chwm Gwaun uchaf o amgylch y Cilgwyn. Mae coetir hanesyddol cwm Gwaun yn parhau yn drwchus, ac mae'r patrwm presennol o gaeau afreolaidd bach yn debygol o fod yn deillio o broses ysbeidiol o amgu'r coetir ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol. Mae'n cynnwys Coedwig Pentre Ifan a fu, fel rhan o'r gyn Goedwig Cilruth, o dan awdurdod Barwniaeth Cemaes ers yr 12fed ganrif ac y defnyddiwyd y geiriau 'rhyfeddod...i weld y fath goed teg' amdano ym 1603 (Trethowan 1998). Roedd coedwigoedd y Wenallt a'r Brithdir i'r gogledd yn 'fn goedwigoedd' yn ystod y 16eg ganrif. Dechreuodd y gwaith clirio ac amgu erbyn y 13eg ganrif pan sefydlwyd nifer o ddaliadau, yn l traddodiad, ar hen goetir a gliriwyd. Ers canol y 19eg ganrif, mae rhai o'r daliadau hyn wedi'u gadael yn wag ac yn l tystiolaeth o fapiau ac arsylwadau maes, gwelir bod cryn dipyn o'r coetir modern wedi'i adfer ar dir hen gaeau a ffermydd. Rheolwyd y gwaith adfer hwn gan yr ystadau cyfagos ac adeiladwyd lein fach ym Mhentre Ifan ar gyfer y gwaith hwn. Bellach caiff llawer o'r coetir ei reoli gan y Fenter Coedwigaeth a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae planhigfeydd coniffer sy'n dyddio o ail hanner yr 20fed ganrif yn elfen nodweddiadol o lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli. Plannwyd y fwyaf o'r rhain, Pant Maenog, sydd dros 300 ha, ar rostir agored neu gaeau segur. Mae'n elfen amlwg o'r dirwedd yn enwedig pan y'i gwelir o'r dwyrain a'r de-ddwyrain. Fe'i plannwyd ar l cau chwarel lechi Bellstone ym 1908, ac mae rhai elfennau o'r gwaith llechi yn bodoli o hyd o dan y goedwig. Mae'r planhigfeydd eraill yn gymharol fach o ran maint, ond serch hynny, maent yn elfennau amlwg yn lleol.

CYSYLLTIADAU

Er i nifer o hynafiaethwyr o'r 18fed a'r 19eg ganrif honni bod Ffordd Rufeinig yn bodoli rhwng Caerfyrddin a Thyddewi, y Via Julia fel y'i gelwir, mae'n bosibl bod rhyw fath o sail i'r honiad hwn. Yn dilyn gwaith maes diweddar canfuwyd bod ffordd yn rhedeg i'r gorllewin o Gaerfyrddin i Sir Benfro fel y mae heddiw (Page i ddod). Awgrymodd Fenton a Colt-Hoare i'r ffordd hon ddirwyn i'w therfyn ym Mhorth Mawr, y traeth tywod llydan i'r gorllewin o Dyddewi "lle yr arferid, am oesoedd lawer, hwylio am Iwerddon" (Fenton 1903, 65), ond nis gwyddys hyd yn hyn i ble yr arweiniai'r ffordd hon. Fodd bynnag, mae Porth Mawr ymhlith nifer o borthladdoedd naturiol o amgylch ardal Tyddewi, gan gynnwys St Justinian's lle dangoswyd bodolaeth capel a ddyddiai o ddiwedd yr Oesoedd Canol ond a adeiladwyd ar safle cynharach, gan awgrymu i'r porthladdoedd hyn gael eu defnyddio o gyfnod cynnar iawn. Mae sawl cyfeiriad o ddechrau'r cyfnod canoloesol at bererinion Gwyddelig, yn ogystal brenhinoedd ac ysbeilwyr, yn defnyddio'r mannau glanio hyn (Janes 1993, 106) a allai fod o gymorth i gadarnhau'r defnydd a wnaed o lwybr a fodolai eisoes. Roedd St Justinian's hefyd yn gwasanaethu Ynys Dewi lle y ceir cyfeiriadau at ddau gapel cynnar. Ymhlith porthladdoedd mwy cysgodol yr arfordir deheuol mae Porthlysgi a Phorth Clais. Roedd cabidwl Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn masnachu o Borth Clais erbyn 1381 fan bellaf. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif roedd porthladd Porth Clais yn ganolfan i fasnach ffyniannus mewn gwenith, calch a glo mn. Ar wahn i brif ffordd yr A487 sy'n cyrraedd Tyddewi o'r de-ddwyrain ac yn ei gadael i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain, gan ddilyn llwybr ffordd dyrpeg y 18fed ganrif yn ogystal ffyrdd cynharach o bosibl, ffyrdd annosbarthedig sydd i'w cael yn bennaf yn ardal Tyddewi ynghyd lonydd cul anffurfiol. Sefydlwyd maes awyr gan Uned Reolaeth y Glannau yr Awyrlu Brenhinol i'r dwyrain o'r dref ym 1943. Ni ddaeth y rheilffordd erioed i Dyddewi. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Rheilffordd Maenclochog yn croesi ardal orllewinol y Preseli. Sefydlwyd y rheilffordd hon i wasanaethu chwareli llechi Rosebush a Bellstone ym 1876 (Gale 1992) ac fe'i hestynnwyd yn ddiweddarach i Abergwaun lle y'i cysylltwyd phrif reilffordd De Cymru (y GWR yn ddiweddarach) ym 1906. Yn sgl cau'r chwarel, caewyd Rheilffordd Maenclochog ym 1949. Cyn dyfod Rheilffordd Maenclochog, gwasanaethid y chwareli gan ffordd a fodolai eisoes. Mae'n bosibl ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol, gan mai prif stryd echelinol anheddiad Maenclochog ydoedd. Cynrychiolir llwybrau canoloesol eraill drwy ardal y Preseli gan ffordd fawr y B4329 sy'n rhedeg ar draws Mynydd y Preseli, o Hwlffordd i Aberteifi, dros bontydd Brynberian a Phontgynon a grybwyllwyd gan Owen oddeutu 1600 (Owen 1897, 507). Ffordd dyrpeg oedd hon tua diwedd y 18fed ganrif. Mae ffordd yr A487 o Abergwaun i Aberteifi sy'n dyddio o'r un cyfnod, yn croesi Pont Clydach sydd hefyd yn cael ei chrybwyll oddeutu 1600 a Phont Baldwyn, sydd, yn l y sn, wedi'i henwi ar l Archesgob Baldwin o Gaergaint a groesodd y bont, gyda'i osgordd, yn ystod eu teithiau o amgylch Cymru yn pregethu'r Drydedd Groesgad ym 1188. Ffordd dyrpeg oedd hon hefyd a ddaeth yn ffactor yng nghyd-destun datblygiad pentref Felindre Farchog. Mae'n ymuno 'r B4329 ychydig i'r gorllewin o Eglwyswrw, lle y saif tafarn y goets fawr - the Serjeants Arms - ers canol y 18fed ganrif. Cynhaliwyd Sesiwn Fach Cemaes yn yr adeilad hwn yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]