Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

CARNINGLI

CARNINGLI

CYFEIRNOD GRID: SN 050373
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 499

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal gymharol fawr hon o sir Benfro ar ei ffurf fodern yn cynnwys gwaun uchel Mynydd Carningli i’r de o Drefdraeth. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Mae’r ardal gymeriad hon yn nodweddiadol o dirwedd ucheldir Cymru yn yr ystyr ei bod yn cynnwys tystiolaeth helaeth bod pobl wedi byw yn yr ardal o’r cyfnod cynhanesyddol, yn bennaf cofebau defodol ac angladdol ond hefyd safleoedd megis bryngaerau a grwpiau o gytiau, a’u systemau caeau cysylltiedig. Mae bryngaer Carningli yn gaeadle mawr a hon fu prif ganolfan boblogaeth y rhanbarth yn ôl pob tebyg, ond nid yw ei chloddiau cerrig sychion yn nodweddiadol o gaeadleoedd yr oes haearn ac mae dau ddyddiad gwahanol wedi cael eu hawgrymu ar gyfer ei hadeiladu sef dyddiad neolithig a dyddiad canoloesol cynnar. Ymgorfforwyd maen hir Bedd Morris yn ffin ddiweddarach plwyf (a bwrdeistref) Trefdraeth, a bu’n nod llwybr â’r brif ffordd ganoloesol rhwng Trefdraeth ac Aberdaugleddau, neu ‘Ffordd Bedd Morris’ sy’n croesi Mynydd Carningli hyd heddiw. Yn y cyfnod canoloesol gorwedda Mynydd Carningli o fewn bwrdeistref Trefdraeth, a oedd yn fwy neu lai yn dilyn yr un ffiniau â phlwyf Trefdraeth. Daliwyd Mynydd Carningli yn uniongyrchol gan Arglwyddi Cemaes, ond yn 1278 cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter, yn pennu ffiniau’r fwrdeistref ac yn rhoi i’r bwrdeiswyr yr hawl i bori cyffredin ar ei holl dir gwlyb a sych, ei rostiroedd a’i fawndiroedd ar Fynydd Carningli. Yn ôl y siarter hwn bu’n ardal fawr a orweddai rhwng y tir âr ar hyd Clydach, daliad âr Dolranog (ardal gymeriad Gochel Sythi), Mynydd Melyn, y briffordd, daliad Parc-y-marriage, a Chwm Rhigian. Roedd Mynydd Carningli yn dal i fod wedi’i gofnodi’n dir heb ei amgáu yr oedd gan fwrdeiswyr y fwrdeistref yr hawl i bori cyffredin arno ar gyfer ‘all manner of cattle’, yn Extent Cemaes o ddiwedd y 16eg ganrif. Ymddengys i’r tir heb ei amgáu ar Fynydd Carningli yn ystod y cyfnod canoloesol ymestyn i lawr y llethrau gogleddol hyd at Drefdraeth, a bod y llain o dir wedi’i amgáu sydd bellach yn gorwedd rhwng y ddau yn deillio’n gyfan gwbl o’r oes ôl-ganoloesol. Mae’n deillio’n rhannol o dir wedi’i amgáu gan sgwatwyr (gweler ardal gymeriad Y Garn Parke), ond roedd yr hawl i bori cyffredin wedi peidio erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Mae rhan ogleddol Mynydd Carningli yn cynnwys sawl cae unionlin a oedd yn perthyn i ffermdai ôl-ganoloesol byr eu parhad, y sefydlwyd y rhan fwyaf ohonynt yn go ddiweddar fwy na thebyg, ond roeddent wedi’u gadael yn wag erbyn canol y 19eg ganrif. Mae hen chwareli yn yr ardal yn ein hatgoffa bod cloddio maen yn ddiwydiant a fu gynt yn un bach ond pwysig yng ngogledd sir Benfro.

CARNINGLI

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Bryn serth â brigiadau creigiog ar ei gopa yw Mynydd Carningli. Mae’n codi i fwy na 330m uwchben Trefdraeth i’r gogledd a chwm Gwaun i’r de. Ym mhen dwyreiniol y bryn saif bryngaer Carningli, tomen fawr o graig sy’n nodwedd amlwg yn y dirwedd. Mae modd ei gweld o bron bob rhan o ogledd sir Benfro. Yn ei hanfod mae hon yn ardal tirwedd hanesyddol heb ei hamgáu sy’n cynnwys rhostir grug a rhedyn gyda phorfa garw yma a thraw. Fodd bynnag, ceir cloddiau terfyn â wyneb carreg a waliau caeau wedi dymchwel yn rhedeg ar draws y rhannau is o’r comin hwn, ac ar yr ymylon mae hen gaeau yn troi’n rhostir unwaith eto gan wneud y ffin rhwng rhostir a thir ffermio isel yn annelwig. Mae’r rhain ynghyd â chlawdd mawr â wyneb carreg sy’n rhedeg ar hyd y ffordd gyhoeddus dros y comin yn dangos ôl ymgais yn y gorffennol i drin y rhostir. Nid oes unrhyw adeiladau ar y comin, ond mae nifer o safleoedd archeolegol cynhanesyddol a diweddarach - mae dros 50 wedi’u cofnodi - yn nodwedd gref o’r dirwedd hanesyddol. Mae’r rhain yn cynnwys: bryngaer fawr Carningli a llawer o aneddiadau ategol; bryngaer Carn Ffoi o’r oes haearn; sawl cwt crwn, rhai sy’n gysylltiedig â systemau caeau a charneddau a grëwyd drwy glirio’r tir at ddibenion amaethyddol; tomenni claddu neu grugiau crwn; maen hir Bedd Morris; ac aneddiadau anghyfannedd o ddyddiad canoloesol neu ddiweddarach. Mae sawl hen chwarel hefyd, gan gynnwys un fawr gydag inclein yn ymestyn oddi wrthi ar ochr ddwyreiniol y mynydd.

Er bod Carningli yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol unigryw, annelwig yw ei ffiniau. Ar yr ochr ddwyreiniol mae’r comin serth yn dod i ben yn sydyn yn erbyn cloddiau a pherthi terfyn tir ffermio. Mewn mannau eraill mae’r ffin rhwng y comin a thir ffermio yn dod yn fwyfwy annelwig wrth i’r caeau droi’n rhostir unwaith eto ac wrth i ffiniau gael eu hesgeuluso.

Ffynonellau:: Bignall 1991; Cadw 2001; Hogg 1973; Howells 1977; Lewis 1833; Miles 1995; map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Rees 1932

MAP CARNINGLI

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]