Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH

LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH

CYFEIRNOD GRID: SM 891382
ARDAL MEWN HECTARAU: 292

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymeriad o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n cynnwys llain arfordirol gul ac sy’n rhan o gantref canoloesol Pebidiog neu ‘Dewisland’. Delid Pebidiog yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. Gorwedda o fewn plwyfi Llanwnda a Sain Nicolas. Yn hanesyddol tir ymylol fu’r llain arfordirol hon erioed, ac mae’n cynnwys ardal helaethach o dir comin ffurfiol, Comin Gwaun Ciliau (gyda Chomin Waun Morfa a Chomin Garn Nelu). Amgaewyd ardal fechan o dir comin ym Mhwynt Crincoed ym 1815. Fodd bynnag, mae ardal helaethach o dir agored i’r gorllewin yn Ogof-y-drwg, yn gorwedd uwchben system gaeau nas dyddiwyd ond a allai ddyddio o’r cyfnod cynhanesyddol - ymhlith y cyn-safleoedd anheddu yn yr ardal hon ceir dwy gaer bentir arfordirol sy’n dyddio o’r Oes Haearn. Honnwyd bod cloddwaith mawr hirsgwar ar Ynys Meicel yn safle eglwysig sy’n dyddio o ddechrau’r Oesoedd Canol, ond mae’n debyg ei fod yn dyddio o gyfnod diweddarach a bod iddo darddiad seciwlar. Efallai mai Ciliau yw’r ‘Kelle’ a gofnodwyd mewn arolwg ym 1326, pan oedd yn cynnwys 1 gweddgyfair o dir âr. Er hynny, tir pori garw yw’r defnydd a wnaed yn bennaf o’r tir yn yr ardal hon yn y gorffennol. Prin yw’r mannau addas i lanio cychod bach ar hyd yr arfordir hwn o glogwyni uchel, ond glaniodd llu o oresgynwyr Ffrengig ar draeth Carregwastad yn ystod y cyrch (aflwyddiannus) olaf i oresgyn Prydain ym 1797. Prif swyddogaeth yr ardal bellach yw fel coridor i Lwybr Arfordir Sir Benfro, rhwng y tir ffermio amgaeedig ac ymylon y clogwyni arfordirol. Fodd bynnag, mae sawl nodwedd adeiledig sy’n dyddio o’r cyfnod diweddar yn amlwg iawn yn y dirwedd. Cynigiwyd goleudy Pen Strwmbwl ar Ynys Meicel gyntaf gan Trinity House ym 1825 ond nis adeiladwyd tan 1908-9. Mae’n bosibl iddo ddisodli goleudy llai o faint a adeiladwyd gerllaw ar y tir mawr.

LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH

Disgrifiadau ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys tua 13 cilomedr o glogwyni arfordirol uchel, agored a saif yn nannedd y gwynt, a phen clogwyn yn ymestyn o borthladd Wdig yn y dwyrain i Aber Bach yn y gorllewin. Mewn mannau mae’r clogwyni’n codi i dros 100m o uchder. Arfordir digroeso ydyw heb yr un lanfa ddiogel. Ceir strimyn o dir garw wedi’i wasgu rhwng y clogwyn a’r tir fferm. Mae’r llain hon o dir yn gul ar y cyfan, ac mae’n amrywio rhwng ychydig fetrau yn unig a 50m o led ond mewn ambell leoliad, fel Ogof-y-drwg, mae’r llain yn ymestyn i ychydig o gannoedd o fetrau o led. Mae tir garw a phrysgwydd Gwaun Ciliau wedi’u cynnwys yn yr ardal hon. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ymestyn ar hyd y strimyn hwn o dir. Ni cheir unrhyw adeiladau y mae pobl yn byw ynddynt yn barhaol yn yr ardal hon. Bellach mae goleudy Pen Strwmbwl wedi’i awtomeiddio ac mae ei olau i’w weld am 29 milltir. Saif y goleudy ynghyd â chyn-fwthyn y ceidwad mewn clostir â wal o’i amgylch; mae’r cyfadail carreg gwyngalchog hwn yn elfen nodedig yn y dirwedd. Ceir hefyd fastiau radio gerllaw ym Mhen Caer. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir sawl safle yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd. Adeiladwaith brics yw’r amlycaf o’r rhain, a leolir gerllaw goleudy Pen Strwmbwl, sydd bellach wedi’i addasu’n guddfan adar. Mae hefyd nifer o adeiladau gorsaf radar gerllaw Fferm Pant-y-Beudy. Mae amrywiaeth o safleoedd archeolegol ac maent yn cynnwys: mannau darganfod fflint sy’n dyddio o’r cyfnod mesolithig neu’r oes efydd; crug crwn yn dyddio o’r oes efydd; dwy gaer bentir yn dyddio o’r oes haearn (gan gynnwys safle cofrestredig Dinas Mawr); system gaeau nas dyddiwyd; y safle ar Ynys Meicel a chwningar bosibl.

Mae’r llain arfordirol yn ardal gymeriad hanesyddol ag iddi ffiniau pendant. Mae ei helfennau hanesyddol yn gwbl wahanol i’r elfennau hynny a welir yn y dirwedd gyfagos o ffermydd a chaeau.

Ffynonellau: Hague 1994; map degwm Plwyf Llanwnda 1845; Ludlow 2002; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6; Western Telegraph 15/08/2001

MAP LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]