Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

LLANWNDA

LLANWNDA

CYFEIRNOD GRID: SM 935389
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 502

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymharol fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n cynnwys rhan ddwyreiniol penrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl (ar wahân i’r llain arfordirol a Thir Comin Rhos Ciliau) a leolir yn gyfan gwbl o fewn plwyf Llanwnda. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau â chantref diweddarach Dewsland a grëwyd ym 1536. Fe’i delid yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i Bebidiog ac ymestynnai ardal gymeriad Llanwnda dros Villa Grandi, y cyfeiriwyd ati fel maenor ym 1326 ond nid yn yr ystyr Eingl-Normanaidd, ffurfiol efallai. Ar ben hynny ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig barhau, er iddynt gael eu haddasu mewn gwahanol ffyrdd, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’r caeau bach, cul, afreolaidd eu siâp ym mhen gorllewinol yr ardal gymeriad hon yn wahanol i gaeau mwy o faint, rheolaidd eu siâp ardal gymeriad Pen Caer sy’n ffinio â hi ac mae’n bosibl iddynt gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol. Nid ydynt y nodweddiadol o lein-gaeau Eingl-Normanaidd, canoloesol ond mae’n bosibl iddynt ddeillio o gaeau a ddelid o dan systemau tirddaliadaeth Cymreig brodorol. Nodir y ffin rhwng y ddwy ardal, a’u systemau caeau, gan nant, a groesir gan Bont Eglwys lle y darganfuwyd Heneb Gristnogol Gynnar yr oedd croes wedi’i cherfio arni. Awgrymwyd bod yr heneb yn garreg derfyn, ac felly gall fod y ffin hon rhwng y ddwy ardal yn hen raniad. Mewn gwirionedd gall yr ardal hon fod yn gyn-ystad eglwysig yn seiliedig ar eglwys plwyf Llanwnda a leolir yn ei chanol. Mae bron yn sicr i’r eglwys gael ei sefydlu ar ddechrau’r cyfnod canoloesol, ac mae saith Heneb Gristnogol Gynnar yn dyddio o’r 7fed ganrif hyd yr 11eg ganrif yn awgrymu statws mynachaidd; pwysigrwydd a barhaodd i mewn i’r cyfnod ar ôl y Goresgyniad Eingl-Normanaidd pan fu’n un o brebendau pwysicaf Esgobion Tyddewi. Mae’r eglwys hon hefyd wrth graidd patrwm o leiniau gwasgaredig, afreolaidd eu siâp, y mae’n debyg iddynt gael eu sefydlu yn gynnar trwy amgáu tir a ddelid o dan system dirddaliadaeth Gymreig, fel y nodwyd gan Terry James. Ymddengys na fu Llanwnda ei hun yn ganolbwynt i drefgordd ganoloesol ac ni chyfeirir ati yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig 1326. Mewn gwirionedd dim ond un daliad, sef, Ciliau Fawr, y gellir ei nodi yn betrus o’r Llyfr Du, pan ddelid un gweddgyfair yno ‘yn ôl Cyfraith Cymru’. Roedd daliadau Ciliau Fawr, Crincoed a Charngowil yn rhan o ystad Esgob Tyddewi ac fe’u mapiwyd ym 1815. Yn anarferol iawn ceir dau fap o Giliau Fawr sy’n helpu i esbonio sut y datblygodd ei dirwedd. Dengys y cyntaf y daliad fel yr ystyrid ei fod yn edrych 40 mlynedd cyn 1815. Llein-gaeau gwasgaredig, a all fod yn amgaeëedig neu’n agored, a geir yn bennaf, ac ambell gae rheolaidd ei siâp. Erbyn 1815 roedd y daliad wedi’i gyfuno gan greu caeau bach, rheolaidd eu siâp. Mewn mannau eraill ymddengys fod systemau amaethu gwahanol wedi’u defnyddio, er enghraifft, yn hanner dwyreiniol yr ardal gymeriad mae patrwm o gaeau mwy o faint i’w weld, y mae’n amlwg bod rhai ohonynt yn cynrychioli tir ymylol a amgaewyd yn hwyr, yn ystod 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae’n bosibl i gaeau eraill, megis y rhai o amgylch fferm gnewyllol Pen-rhiw, gael eu sefydlu yr un mor hwyr - ni cheir sôn am Ben-rhiw tan 1603 ac roedd yn dy bonedd eilradd ym 1699. Erbyn arolwg degwm 1845 roedd y dirwedd gyfan yn debyg i’r un a welir heddiw.

LLANWNDA

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Llanwnda yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol donnog a leolir rhwng 70m a 160m ar ochr ddwyreiniol penrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl. Llain agored o dir ydyw yn nannedd gwyntoedd mynychaf y gorllewin sy’n chwythu o’r Atlantig. Mae’n ddi-goed, ar wahân i’r coed hynny a blannwyd gerllaw tai i’w cysgodi a choetir prysglog mewn pantiau cysgodol. Mae’r gwrychoedd, lle y’u ceir, yn rhesi isel, aflêr o lwyni, eithin a mieri. Tirwedd amaethyddol ydyw o ffermydd gwasgaredig a chaeau. Yr unig aneddiadau cnewyllol yw’r clwstwr bach, llac o ffermydd, tai a bythynnod yn Llanwnda, Ciliau a Phontiago. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf, a cheir rhywfaint o dir âr a phocedi o dir garw. At ei gilydd mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp; ceir yr unig eithriad i hyn o amgylch Fferm Pen-rhiw lle y ceir caeau ychydig yn fwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp yn bennaf. Rhennir y caeau gan gloddiau caregog, y mae llawer ohonynt o gerrig bras a phridd, a waliau sych. Mae rhai o’r cloddiau terfyn yn enfawr. Mae’r mwyafrif ohonynt mewn cyflwr da. At ei gilydd nid yw’r waliau sych mewn cyflwr cystal. Cerrig yw’r prif ddeunydd adeiladu ar gyfer adeiladau eglwysig, domestig ac amaethyddol. Mae llawer o’r adeiladau domestig wedi’u rendro â sment neu wedi’u distempro â lliw, ond mae’r adeiladau amaethyddol wedi’u gadael yn foel. Llechi, y mae sgim sment wedi’i osod arnynt weithiau, yw’r deunydd toi cyffredin. Ar wahân i Eglwys Sant Gwyndaf yn Llanwnda, eglwys ganoloesol fach wedi’i hadeiladu o gerrig, sy’n sefyll o fewn clostir â wal gerrig o’i amgylch, prin yw’r adeiladau a godwyd cyn y 19eg ganrif; mae’r mwyafrif o’r ffermdai, y tai, y bythynnod a’r adeiladau amaethyddol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Ar y cyfan mae’r ffermdai a’r bythynnod yn y traddodiad brodorol, ac mae ganddynt ddau lawr a thri bae. Ac eithrio rhai ‘filâu’ ar wahân yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif sy’n ffinio â rhostir Garnwnda, prin yw’r enghreifftiau o dai yn y traddodiad Sioraidd ‘bonheddig’. Lleolir rhai anheddau modern ar wahân yng Nghiliau a Phontiago, ac adeiladwyd rhes o dai yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif i’r gogledd o Stop-and-Call. Mae adeiladau amaethyddol hþn fel arfer yn fach ac maent ond yn ffurfio un neu ddwy res, ac maent yn cynnwys ysgubor, beudy a storfa/sied droliau. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern o goncrid, asbestos a dur, ond mae’r rhain yn gymharol fach ac nid ydynt yn elfen mor nodedig o’r dirwedd ag ydynt mewn ardaloedd eraill. Mae’r nifer fawr o safleoedd archeolegol yn dyddio o bob cyfnod yn arwydd o dirwedd gyfannedd ers dros 5000 o flynyddoedd. Maent yn cynnwys darganfyddiadau yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol a’r cyfnod Rhufeinig, beddrod siambr neolithig (Heneb Gofrestredig), nifer o feini hirion posibl a nifer o grugiau crwn posibl. Dangosir pa mor bwysig oedd yr ardal ar ddechrau'r cyfnod canoloesol gan y casgliad o gerrig arysgrifedig yn Eglwys Llanwnda.

Ceir ffin bendant rhwng ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llanwnda a’r ardal sy’n ffinio â hi i’r gorllewin. Fodd bynnag, mae’r ffin â’r ardal i’r de-orllewin, nas disgrifiwyd eto, yn llai pendant ac fe’i nodir gan ardal newid. I’r gogledd ac i’r dwyrain mae’r llain arfordirol yn ardal gymeriad nodedig iawn sy’n dra gwahanol i Lanwnda. Mae’r ffin ag ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Wdig i’r de-ddwyrain yr un mor bendant.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/JP/456; Edwards ar fin ymddangos; James 1992; Jones 1996; Ludlow 2002; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6; Map degwm plwyf Llanwnda 1845; Rees 1932; Willis-Bund 1902

MAP LLANWNDA

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]