Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

PEN CAER

PEN CAER

CYFEIRNOD GRID: SM 903389
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1274

Cefndir Hanesyddol

Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n cynnwys y rhan fwyaf o benrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl ar wahân i’r llain arfordirol, o fewn plwyf Llanwnda yn bennaf ond sydd hefyd yn cynnwys rhan o blwyf San Nicolas. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau â chantref diweddarach Dewisland a grëwyd ym 1536. Fe’i delid yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. Mae i’r ardal hanes anheddu hir a chymhleth, y mae llawer ohono yn gysylltiedig â Christnogaeth ganoloesol. Fodd bynnag, mae’n bosibl i’r dirwedd bresennol gael ei sefydlu ynghynt am fod ffiniau sy’n dyddio o bosibl o’r cyfnod cynhanesddyol wedi’u cadw yn ardal gymeriad Garn Fawr sy’n ffinio â hi. Ymddengys fod y caeau yn union i’r gogledd-orllewin o Garn Fawr, o amgylch Fferm Tal-y-gaer, er enghraifft, yn parhau’r system gynhanesyddol hon. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i Bebidiog ac ymestynnai’r rhan fwyaf o ardal gymeriad Pen Caer dros Villa Grandi, y cyfeiriwyd ati fel maenor ym 1326 ond nid yn yr ystyr Eingl-Normanaidd, ffurfiol efallai. Ar ben hynny ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig barhau, er iddynt gael eu haddasu mewn gwahanol ffyrdd, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Bu Pebidiog yn destun arolwg manwl ym 1326, pan gofnodwyd ffermydd presennol Castell, Tre-fisheg a Thresinwen. Ymddengys eu bod yn ffurfio trefgorddau llac yn hytrach na threflannau Eingl-Normanaidd ac nid yw’r un ohonynt heddiw yn cynnwys aneddiadau cnewyllol go iawn. Efallai bod trefgordd ‘Castell Wladus’ wedi’i lleoli ar safle'r castell mwnt a beili yng Nghastell Poeth, nad yw ei hanes yn hysbys ond a fu’n fyrhoedlog yn ôl pob tebyg, ac na chafodd fawr ddim dylanwad ar ddatblygiad yr ardal. Ymddengys i drefgordd yn ‘Llandogen’ gael ei sefydlu o amgylch safle Capel Degan, sydd wedi diflannu bellach, y mae’n debyg ei fod yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Mae’n bosibl bod safle capel arall yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol yn Llandruidion lle y darganfuwyd beddau cist mewn caeau a elwir yn Hen Fynwent. Hwn hefyd oedd safle treflan yn ystod y cyfnod canoloesol ac fe’i lleolid o fewn ‘maenor’ Villa Camerarii. Yr un oedd y ffin rhwng Villa Camerarii a Villa Grandi a ffin y plwyf a ddynodir bellach gan ffin cae barhaol a ffordd annosbarthedig - ond mae’n bosibl i’r gyntaf gael ei sefydlu yn gynharach. Mae daliadau eraill a nodir yn arolwg 1326, a ddelid ‘yn ôl cyfraith Cymru’, yn cynnwys Trefasser (man geni Asser, cynghorwr Alffred Fawr, yn ôl traddodiad di-sail), Llanwnnwr (a oedd hefyd yn safle capel cynnar) Panteurig, Penysgwarne, Treathro a Thresinwen. Nid yw system o lein-gaeau eithaf hir sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de yn hanner gogleddol yr ardal yn nodweddiadol o lein-gaeau Eingl-Normanaidd, canoloesol ond mae’n bosibl iddynt ddeillio o leiniau a ddelid o dan systemau tirddaliadaeth Cymreig brodorol. Ymddengys fod y mwyafrif o’r caeau yn yr ardal yn perthyn i gyfnod diweddarach. Mae’r caeau hyn yn rheolaidd eu siâp a chanddynt ffiniau syth, ac mae’n bosibl eu bod yn gorwedd ar dirwedd a gynhwysai gaeau agored neu dir comin yn y cyfnod canoloesol. Mae enwau’r ffermydd ‘Goodhope’, ‘Harmony’ (gerllaw capel o eiddo’r Bedyddwyr a sefydlwyd ym 1828) a ‘Thai-bach’ yn awgrymu aneddiadau ôl-ganoloesol newydd, â’r tþ bonedd yn Nhrehowel hefyd nad oes ganddo unrhyw hanes cofnodedig sy’n gynharach na 1603. Ar wahân i fap degwm 1845, sy’n dangos yr un dirwedd, fwy neu lai, ag a welir heddiw, nid oes unrhyw fapiau hanesyddol ar gyfer yr ardal hon. Fodd bynnag, dengys map ystad o Felindre, a leolir i’r de o’r dirwedd hon, a luniwyd ym 1849 system gaeau o leiniau cymysg, agored ac wedi’u hamgáu. Mae’n bosibl bod caeau agored yn ymestyn ar draws rhan helaeth o dirwedd Pen Caer ar un adeg, ond roeddynt wedi’u hymgorffori ac wedi’u hamgáu erbyn yr arolwg degwm.

PEN CAER

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Pen Caer yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fawr a chymhleth sy’n ymestyn dros ran orllewinol penrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl i’r de ac i’r gogledd o rostir uchel Garn Fawr. I’r gogledd o Garn Fawr mae ffurfio llwyfandir tua 60m - 70m o uchder sydd â chlogwyni yn ffin iddo. I’r de o Garn Fawr mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws tir sy’n graddol ddisgyn ac yn wynebu’r de. Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach a chanolig eu maint, afreolaidd eu siâp. Trefasser a’i glwstwr llac o ffermydd, tai a bythynnod yw’r unig anheddiad cnewyllol yn yr ardal, ac mae’n fach iawn. Mae ffiniau caeau yn gymysgedd o waliau sych a chloddiau caregog. Mae’r mwyafrif o’r ffiniau mewn cyflwr da, er bod rhai o’r waliau sych wedi dirywio ac ni allant gadw da byw bellach. At ei gilydd, mae waliau yn fwy cyffredin yn agosach at yr arfordir ac ar gyrion rhostir uchel Garn Fawr, a chloddiau a geir yn bennaf mewn mannau eraill. Mae’r mwyafrif o’r cloddiau wedi’u hadeiladu o gerrig bras a phridd. Mae’r cerrig sylfaen mewn rhai cloddiau yn enfawr, ac mae’r cloddiau eu hunain, fel arfer, yn fawr iawn. Mae cloddiau caregog a waliau isel yn ymestyn o’r bryngeyrydd ar Garn Fawr i dir isel yr ardal hon a pharheir â hwy yn y ffiniau caeau modern; mae’n amlwg bod y rhain yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol ac maent yn tystio i batrwm amgáu hynafol o leiaf ran o’r dirwedd hon. Mae’n dirwedd agored iawn, sydd dan lach gwyntoedd y gorllewin trwy’r amser bron. O ganlyniad mae’r gwrychoedd lle y’u ceir ar y cloddiau yn isel ac yn agored i’r gwynt, ac ni cheir unrhyw goed, ar wahân i goetir prysglog mewn pantiau cysgodol a gerllaw tai. Tri pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl, a cheir rhywfaint o dir âr a rhai pocedi o dir pori garw. Mae bron holl stoc adeiladau’r ardal hon yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, tai a bythynnod. Nid oes fawr ddim adeiladau sy’n gynharach na dechrau’r 19eg ganrif. Un eithriad yw’r ty yn Nhrehowell. Mae’r tþ hwn, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, yn yr arddull frodorol ac mae llechi wedi’u gosod dros ei ddrychiadau. Cerrig yw’r deunydd adeiladu cyffredin. Mae adeiladau wedi’u codi o gerrig bras sydd wedi’u gadael yn foel neu wedi’u rendro â sment ac wedi’u distempro â lliw. O bryd i’w gilydd mae llechi wedi’u gosod drostynt fel yn achos Trehowell. Nid oes unrhyw anheddau pwysig yn yr ardal, ac mae gan y mwyafrif o’r ffermdai a’r tai eraill ddau lawr a thri bae a drws ffrynt canolog a simneiau talcen. Ceir enghreifftiau yn y traddodiad brodorol yn dyddio o ddechrau 19eg ganrif yn bennaf, ac yn yr arddull ‘Sioraidd’ yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae’r nifer fawr o fythynnod unllawr yn y traddodiad brodorol a chanddynt dri bae a drws ffrynt canolog yn un o elfennau nodedig yr ardal hon. Mae nifer ohonynt yn rhestredig. Maent wedi’u canoli ar gyrion tir ymylol, sy’n awgrymu iddynt ddechrau fel aneddiadau sgwatwyr, ac maent yn cynnwys Garn Fawr a Studio Cottage lle y bu’r arlunydd John Piper yn preswylio. Mae hen adeiladau fferm wedi’u codi o gerrig moel. Mae’r mwyafrif ohonynt yn eithaf bach ac maent yn cynnwys ysgubor, beudy a sied droliau wedi’u gwasgu i mewn i un neu ddwy res, ond ceir enghreifftiau mwy o faint, megis yn Nhrefasser Isaf, Trehowell a Phenysgwarne. Yn achos rhai o’r enghreifftiau hyn mae’r adeiladau fferm a’r buarth wedi’u lleoli ychydig o bellter o’r annedd, sy’n dynodi tþ a ddyrchafwyd un neu ddau ris i fyny’r ysgol gymdeithasol na ffermdai mwy cyffredin yr ardal. Mae sawl rhes o adeiladau allan mwy o faint yn rhestredig, sy’n anarferol - y rhai yn Nhrefasser, Penysgwarne a Threhowell er enghraifft - ac yn fwy anarferol byth mae rhai adeiladau fferm llai o faint hefyd yn rhestredig fel ym Mhontiago a gerllaw Harmony. Llechi yw’r defnydd toi traddodiadol ar gyfer tai ac adeiladau allan fferm. Gellir gweld y sgim sment neu’r growt morter a osodwyd ar doeau llechi ar dai ac adeiladau fferm ac mae’n nodweddiadol o gyrion gorllewinol, agored y rhan hon o Sir Benfro. Disodlodd dalenni asbestos lechi ar nifer fawr o hen adeiladau fferm. Mae adeiladau amaethyddol modern o goncrid, dur ac asbestos yn fwy o faint ac yn nodwedd dirwedd amlycach ar ffermydd i’r gogledd o Garn Fawr nag ar y rhai i’r de. Prin yw’r tai modern yn yr ardal hon, a’r unig adeilad annomestig/anamaethyddol sylweddol yw’r capel yn Harmony a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif. Mae safleoedd archeolegol yn niferus ac yn amrywiol ac maent yn tystio i dirwedd gyfannedd dros sawl mileniwm. Lleolir nifer o safleoedd gweithio fflint cynhanesyddol gerllaw’r arfordir. Mae safleoedd cynhanesyddol eraill yn cynnwys un maen hir a nifer o feini hirion posibl yn dyddio o’r oes efydd, crug crwn a beddrod siambr posibl. Mae tair caer yn dyddio o’r oes haearn yn yr ardal, gan gynnwys enghraifft gofrestredig. Dangosir pa mor bwysig oedd yr ardal hon yn y cyfnod canoloesol gan y ffaith ei bod yn cynnwys tair carreg arysgrifedig, tri chapel posibl a safle ffynnon gysegredig. Ar gyfer y cyfnod canoloesol, cofnodwyd un (neu ddau) gastell cloddwaith, y mae’r ddau ohonynt yn rhestredig yn ogystal â nifer o safleoedd anheddu. Ceir chwareli cerrig sy’n dyddio o gyfnodau diweddarach.

I’r gogledd ac i’r gorllewin mae’r llethr arfordirol a’r clogwyni uchel yn darparu ffin bendant ar gyfer yr ardal hon. I’r dwyrain mae’r ardal hon yn ymdoddi i ardal Llanwnda, sy’n rhannu llawer o elfennau tirwedd hanesyddol tebyg. I’r de ni ddisgrifiwyd yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol eto, ond yn y fan hon mae’r elfennau hynny sy’n nodweddu Pen Caer megis ffiniau caeau o gerrig sych a chloddiau enfawr o gerrig yn llai cyffredin, ac mae gwrychoedd a chlystyrau bach o goetir yn amlycach.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/JP/193, HDX/57/30; Charles 1992; Jones 1996; Ludlow 2002; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6; Map degwm plwyf Llanwnda 1845; Ress 1932; Willis-Bund 1902

MAP PEN CAER

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]