Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Banc Bwa Drain

BANC BWA-DRAIN

CYFEIRNOD GRID: SN 723799
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 451.4

Cefndir Hanesyddol

Mae o leiaf ran o’r ardal hon o dir uchel, agored wedi’i lleoli o fewn Maenor Nantyrarian Abaty Cwm-hir a oedd yn eiddo bugeiliol pwysig ym 1291 (Williams 1990, 40). Erbyn y 18fed ganrif, ac yn gynharach na hynny yn ôl pob tebyg, roedd y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon yn eiddo i ystad Nanteos a/neu ystad Gogerddan. Mae mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 21-22, 35; Cyf 37, 57, 60) yn ei dangos fel ffridd agored – mae’n annhebyg bod yr ardal erioed wedi cynnwys unrhyw beth ar wahân i dir ymylol a rhostir – a’r hyn yr ymddengys ei fod yn ddau neu’n dri thþ sgwatwyr a chaeau bach o bob tu iddynt. Maent wedi diflannu bellach. Er i Lewis Morris gofnodi mwyn plwm yng nghanol y 18fed ganrif, nid ymddengys i unrhyw ymgais gael ei wneud i gloddio gwythiennau nes agor mwynglawdd Cwmbrwyno ym 1849. Adeiladwyd cronfeydd dwr a ffrydiau ac agorwyd mynedfeydd. Daeth cynhyrchiant i ben ym 1888 (Bick 1983, 19-20). Mae twr cyfathrebu, fferm wynt a gwaith trawsnewid trydan i gyd wedi’u hadeiladu yn yr ardal hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Banc Bwa Drain

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn dros esgair uchel, greigiog wedi’i halinio o’r gorllewin i’r dwyrain, sy’n codi i 389m lle y mae ar ei huchaf. Rhostir agored yn cynnwys pantiau mawnaidd ydyw yn y bôn, er y ceir caeau mawr wedi’u ffurfio gan ffiniau ar ffurf ffensys gwifrau a rhai cloddiau nas defnyddir nad yw eu dyddiad yn hysbys ym mhen gorllewinol yr ardal lle y mae copa’r esgair yn disgyn i c. 340m. Yn y fan hon ceir pocedi o dir pori wedi’i wella. Mae safleoedd bythynnod anghyfannedd ar gopa’r esgair yn y pen gorllewinol ac ar gyrion yr ardal yn anamlwg, ond maent yn elfennau pwysig o’r dirwedd hanesyddol. Mae olion gweithgarwch cloddio am blwm yng Nghwmbrwyno yn nodweddion tirwedd hanesyddol amlwg. Ym 1999, ymgymerwyd â rhaglen o welliannau amgylcheddol yng Nghwmbrwyno. Bydd yr adeiladau a’r cronfeydd dðr ar y safle yn aros ar ôl y gwaith hwn i dystio i’r diwydiant hwn a arferai fod yn bwysig. Ym mhen dwyreiniol yr ardal, gall pantiau llawn mawn fod yn dystiolaeth o ragor o gronfeydd dðr a adeiladwyd i wasanaethau mwyngloddiau plwm i’r de o’r ardal hon. Dinistriwyd llawer o naws anghysbell yr ardal hon trwy adeiladu fferm wynt a llinellau trydan, twr cyfathrebu a gorsaf drawsnewid.

Banc Bwa drain

Yn ogystal ag olion mwyngloddiau metel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys anheddiad anghyfannedd, a adeiladwyd cyn y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg a chrugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae’r olaf yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd hon.

Mae i’r llain hon o dir uchel, agored ffiniau pendant; ceir tir amgaeëdig is i’r de, ac i’r gogledd.

Map Banc Bwa Drain a'r ardal

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221