Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Berthgoed

BERTHGOED

CYFEIRNOD GRID: SN 767649
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 98.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex, a’u gwerthodd ym 1630 i ystad Trawscoed. Fodd bynnag, mae’n debyg iawn i natur ucheldirol, agored yr ardal hon sicrhau iddo gael ei hawlio fel tir y Goron. Ychydig iawn a wyddom am yr ardal hon tan ganol y 19eg ganrif pan ddengys y map degwm (Map Degwm a Rhaniad Caron, 1845) yr ardal hon wedi’i rhannu’n ffriddoedd, gan y waliau sych sydd wedi goroesi yn ôl pob tebyg, gyda rhai caeau ac aneddiadau bach yn dechrau tresmasu arni o’r dwyrain. Ymestynnwyd yr ardal hon o dir amgaeëdig yn ail hanner y 19eg ganrif. Gadawyd y caeau a’r aneddiadau erbyn hyn. Heb unrhyw dystiolaeth arall, cymerir yn ganiataol mai aneddiadau sgwatwyr oedd y rhain.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Berthgoed yn un o lethrau dyffryn Afon Mwyro. Mae’r llethr hon, sy’n wynebu’r gogledd, yn serth iawn ac yn greigiog ac mae’n amrywio o ran uchder o 210m i 420m. Yn y bôn mae’r ardal hon yn dangos llawer o nodweddion y tir agored i’r de-ddwyrain, ond gwahanwyd y ddau am fod ardal Berthgoed yn cynnwys rhai hen ffiniau a rhywfaint o goetir. Mae pen dwyreiniol yr ardal yn cynnwys rhai caeau o faint bach a chanolig wedi’u rhannu gan waliau sych sy’n dymchwel. I’r gorllewin ar lethrau serth iawn arferai waliau sych lled adfeiliedig rannu’r ardal hon yn gaeau mawr ar ffurf ffriddoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal wedi’i gorchuddio â rhedyn neu dir pori garw iawn, sy’n cael ei feddiannu gan goetir collddail. Mae’r coetir hwn yn dechrau ffurfio clystyrau bach ar rai o’r llethrau mwy serth.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys ffermydd a bythynnod anghyfannedd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae’r rhain yn tystio i’r dirwedd hon gael ei gwladychu ac yn ddiweddarach ei gadael yn y cyfnod ôl-Ganoloesol.

I’r gogledd mae i’r ardal dirwedd hon ffin bendant lle y mae cwrdd â llawr y dyffryn. Ceir planhigfa o goedwigoedd i’r de ac i’r de-orllewin, a thir amgaeëdig i’r gorllewin. I’r dwyrain mae’r ardal hon yn ymdoddi i ucheldir agored.

Map o ardal Berthgoed

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221