Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Grogwynion a Gwaithgoch

GROGWYNION a GWAITHGOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 703720
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 112.1

Cefndir Hanesyddol

Ymddengys fod rhan ddeheuol yr ardal hon yn nyffryn Afon Ystwyth wedi’i chynnwys yn nherfynau’r gogleddol maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur (Williams 1990, 57). Roedd y faenor hon ymhlith y tir a gaffaelwyd gan ystad Trawscoed o’r abaty ar ôl ei ddiddymu. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ei bod yn rhan o Ystad Trawscoed yn ystod y cyfnod hwn (LlGC Gweithredoedd Trawscoed 5, Cyfres IV, Cyf 1; 49), er i ystad Gogerddan gaffael un fferm (LlGC Gogerddan 54, 55).

Mae elfennau hanesyddol amlwg yn yr ardal hon yn cynnwys olion dau fwynglawdd plwm: sef Groggwynion a Gwaithgoch. Mae Grogwynion yn fwynglawdd hynafol, a bu’n destun achos cyfreithiol yn y 1740au. Roedd ystad Gogerddan yn berchen ar fferm Pengrogwynion ac ystad Trawscoed ar y tir o’i hamgylch. Roedd Trawscoed wedi gwneud prydlesi mwynau newydd i Fentrau Mwyngloddiau Lloegr ym 1742, prydles a heriwyd gan ystad Gogerddan (Morgan 1997, 219). Y prif gyfnod gweithio ym mwynglawdd Grogwyion oedd o’r 1790au, a chafwyd cyfnod arbennig o ffyniannus yn y 1880au (Bick 1974, 17-18). Caeodd Gwaithgoch dros ganrif yn ôl, er i gynllun o eiddo’r Llywodraeth i ailweithio tomenni ysbwriel mwynglawdd Frongoch gael ei sefydlu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo’r ysbwriel i weithfeydd wedi’u hadeiladu ar lannau Afon Ystwyth gan ddefnyddio rhaffordd awyr. Caeodd y gweithfeydd hyn yn y 1920au.

Yn yr ardal hon ceir sawl o fferm ar lethr is y dyffryn sy’n wynebu’r gogledd. Dengys tystiolaeth ddogfennol eu bod yn dyddio o ganol y 18fed ganrif o leiaf (Morgan 1997, 219), ac mae’n debyg eu bod yn llawer hyn na hynny. Dengys map degwm Llanafan dyddiedig 1845 y ffermydd hyn a’u systemau caeau cysylltiedig.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Afon Ystwyth yn yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn llifo trwy ddyffryn creigiog â llethrau serth iawn. Mae llawr y dyffryn tua 80m o uchder, ond mae’r llethrau yn codi i dros 350m. Llawr y dyffryn, y llethrau gogleddol isaf a rhan o’r llethrau gogleddol uchaf, yw’r unig rannau o’r dyffryn nad ydynt wedi’u gorchuddio â choedwigoedd ac felly maent wedi’u cynnwys yn yr ardal hon. Mae llawr y dyffryn yn cynnwys tir garw agored a brwyn a dyddodion mawnaidd. Oherwydd bod y dyffryn yn gul a’i fod yn llawn dwr mae’n debyg na chafodd y gorlifdir hwn ei amgáu na’i ffermio ar raddfa ddwys erioed, a bod y defnydd a wnaed ohono at ddibenion amaethyddol yn y gorffennol yn debyg i’r defnydd a wneir ohono heddiw; sef fel tir pori garw tymhorol.

Lleolir dwy fferm â systemau caeau cysylltiedig o gaeau bach ar y llethrau gogleddol is. Rhennir y caeau pori hyn gan gloddiau isel ac arnynt wrthychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gwael, ni allant gadw stoc ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Nid yw’r ffermydd yn gweithio mwyach. Mae’r tai wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel, ac maent yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn fach, ac mae rhai ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Ceir teils llechi a theils coch ar y tai. Nid oes unrhyw adeiladau fferm sylweddol. Ym mhen gorllewinol pellaf llawr y dyffryn ceir melin lifio weithredol.

Mae’r llethrau gogleddol, serth, di-goed wedi’u gorchuddio â sgri o domenni ysbwriel. Mae’r tomenni ysbwriel yn tresmasu ar draws llawr y dyffryn ym mhen dwyreiniol y dyffryn. Mae pwll olwyn a siafftiau yn perthyn i fwynglawdd Grogwynion i’w gweld ar yr wyneb. Wrth droed y llethr sy’n wynebu’r gogledd ceir olion enfawr melin fathru a melin naddu Gwaithgoch sydd wedi’u hadeiladu o gerrig. Mae’r rhain yn dyddio o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r degawd canlynol. Mae’r holl archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys olion y diwydiant cloddio metel neu weithfeydd diwydiannol eraill a dim byd arall.

Mae i’r ardal gymeriad hon ffiniau pendant iawn ar bob ochr. I’r dwyrain mae Afon Ystwyth yn ymddangos o geunant gul, goediog. Mae llethrau serth yn diffinio’r ardal i’r gogledd ac i’r de, ac i’r gorllewin mae’r dyffryn yn ymagor ar dir amgaeëdig.

Map Grogwynion a Gwaithgoch

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221