Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLAWR-Y-CWM-BACH

LLAWR-Y-CWM-BACH

CYFEIRNOD GRID: SN 702856
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 43.6

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Hyd at ddwy ganrif yn ôl roedd llawer o’r tir yn agored ac felly mae’n debyg ei fod yn cael ei hawlio gan y Goron. Erbyn o leiaf ddiwedd y 18fed ganrif gorweddai rhan o’r ardal o fewn ystad Court Grange, am fod map o’r ystad (LlGC Cyf 38, 16) yn dangos fferm Llawr-y-cwm ar ochr ddeheuol y dyffryn fel daliad anghysbell o bedwar cae mewn môr o dir agored neu ffridd. Dengys y map degwm (Llanbadarnfawr 1845) ffermydd Llawr-y-cwm, Llawr-y-cwm-bach a Thy-hen â chaeau bach ar hyd llawr y dyffryn, a chaeau mawr iawn ar lethrau’r dyffryn. Gadawyd aneddiadau ers hynny, a dim ond Llawr-y-cwm-bach sydd wedi goroesi. Nid ymddengys fod mwynglawdd metel Llawr-y-cwm-bach o bwys mawr tan 1845 (Bick 1988, 32), er yr ymddengys iddo gael ei weithio ar raddfa fawr iawn trwy ail hanner y 19eg ganrif.

LLAWR-Y-CWM-BACH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau isaf rhan uchaf dyffryn Afon Leri, a leolir rhwng 240m a 300m o uchder. I’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain mae llethrau’r dyffryn yn codi’n serth i dros 400m. Dim ond un fferm sy’n dal i fodoli erbyn hyn; strwythur carreg gydag adeiladau allan o garreg. Mae olion anghyfannedd fferm arall a bythynnod a adawyd amser maith yn ôl yn tystio i’r ffaith bod yr ardal yn fwy poblog gynt, ac maent yn elfennau amlwg yn y dirwedd hanesyddol. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig ar lawr y dyffryn a’r llethrau isaf, a chaeau mawr uwchlaw. Rhennir y caeau gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig – nid oes unrhyw wrychoedd. Fodd bynnag, erbyn hyn mae’r patrwm caeau hwn i raddau helaeth yn ddiangen ac mae ffensys gwifren yn darparu’r ychydig ffiniau ar draws tirwedd o dir pori wedi’i wella. Er mai tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ceir pantiau brwynog a mawnaidd ar lawr y dyffryn a thir pori mwy garw ar rai o’r llethrau mwy serth. Tua blaen y dyffryn mae tomenni ysbwriel yn tystio i’r diwydiant cloddio metel a fu’n weithredol ar un adeg. Mae olion eraill yn cynnwys ty injan, llithryn mwyn, cylch bwdlo a ffrwd. Ar wahân i goed gerllaw’r fferm a’r mwynglawdd, tirwedd ddi-goed ydyw yn ei hanfod.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yr aneddiadau anghyfannedd y cyfeiriwyd atynt uchod ac olion y diwydiant cloddio metel.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain lle y mae tir agored a lled-amgaeëdig yn codi yn serth o lawr y dyffryn. I’r gorllewin mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’r ardal sy’n cyffinio â hi yn llai pendant.

MAP LLAWR-Y-CWM-BACH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]