Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

COEDWIG PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 385027
ARDAL MEWN HECTARAU: 863.90

Cefndir Hanesyddol
Mae Coedwig Pen-bre yn llenwi'r rhan helaethaf o Dwyni Tywod Pen-bre (neu 'Towyn'), ardal o fryniau tywod ‚'u gwreiddiau'n weddol ddiweddar. Datblygodd y Twyni Tywod wrth geg Afon Gwendraeth Fawr dros gyfnod maith. Ochr yn ochr ‚ hyn digwyddodd cyfres o adferiadau o amgylch cnewyllyn cychwynnol a ffurfiwyd gan llain o dir sych wrth droed Mynydd Pen-bre, a gynrychiolir yn rhannol gan Faenordy Canoloesol Caldicot. Datblygodd y Twyni eu hunain ers yr 17eg ganrif o leiaf ond, yn Űl James, nid ydynt yn gynharach na'r cyfnod Canoloesol - y dyddiad cynharaf y gellir priodoli safleoedd o domenni cregyn a nodwyd o fewn yr ardal (James 1991, 159). Estynnodd morgloddiau a adeiladwyd yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif y tir sych ymhellach i'r gogledd a'r gorllewin i ardal y maes glanio, i mewn i ardal y Twyni Tywod, ac ymddengys bod llaciau twyni wedi datblygu i'r de-ddwyrain o lafn gwreiddiol o dir sych. Roedd Maenordy Caldicot wedi uno ‚ Maenordy Pen-bre (o dan y teulu Ashburnham) erbyn dechrau'r 19eg ganrif, pan oedd y morlin bron wedi cyrraedd ei linell bresennol ac ymddengys fod bryniau tywod, a elwir yn 'Great Outlet' ar fap degwm Pen-bre 1841 ac a gynrychiolir fel tir comin, yn llenwi'r rhan fwyaf o'r ardal hon. Fodd bynnag, ar y map degwm hefyd gwelir darnau o dir amgaeŽdig ym mhen eithaf gorllewinol a de-orllewinol yr ardal o amgylch fferm, sef Tywyn Canol, a welir hefyd ym 1891 (argraffiad cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen LVII NW). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd llwyfannau gynnau yn ymwneud ‚ Maes Glanio Pen-bre, a Llinell Aros y Rheolaeth o FŰr Hafren i Fae Ceredigion, o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws y twyni. Plannwyd yr holl ardal nodwedd ‚ choedwig gonifferaidd ers y 1940au.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ceir rhywfaint o elfennau tirlun hanesyddol yn yr hyn sydd yn ei hanfod yn rhes o dwyni tywod rhyw 5 cilomedr o led a 2 cilomedr o hyd lle sefydlwyd planhigfa o gonifferiaid drostynt. Mae'r twyni yn sylweddol, ac yn cyrraedd uchder o dros 20 m. Dim ond darn bach iawn o dir sydd bellach yn goedwig oedd yn ffermdir amgaeŽdig, ac nid yn dwyni tywod; nid yw wedi'i archwilio i weld a oes hen derfynau caeau a strwythurau gynt yn goroesi, ond mae amlinellau o ierdydd, adeiladau ac ati sy'n gysylltiedig ‚ Thowyn Canol i'w gweld ar yr Arolwg Ordnans modern 1:2500. Cyn plannu'r conifferau, sefydlwyd ffatri arfau rhyfel ym mhen deheuol yr ardal hon. Mae daeardai storio ac isadeiledd y ffatri hon yn cwmpasu rhai o'r elfennau pwysicaf yn y tirlun hanesyddol, fel y gwna adeiladau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd sydd ar wasgar o fewn y goedwig.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i'r nodweddion draenio o domenni cregyn, a safle Fferm Towyn Canol.

Mae adeiladau nodweddiadol wedi'u cyfyngu i ddau lwyfan gynnau a daeardy.

Mae Coedwig Pen-bre yn ardal tirlun hanesyddol nodweddiadol ‚ ffiniau pendant ar bob ochr ac eithrio i'r de. I'r de mae'r goedwig a'r gosodiadau sy'n gysylltiedig ‚'r ffatri arfau rhyfel yn gorlifo i'r ardal gyfagos. I'r gorllewin ceir twyni tywod heb eu coedwigo, i'r gogledd morfa heli ac i'r dwyrain mignen adferedig.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]