Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

COEDWIG MYNYDD PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 427023
ARDAL MEWN HECTARAU: 49.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal o sgarp coediog ar lethr ogledd-orllewinol Mynydd Pen-bre a oedd, yn y cyfnod hanesyddol, yn llinell ar glogwyn y mŰr (James 1991, 147). Roedd Mynydd Pen-bre yn cynrychioli rhan helaethaf maenor Penrhyn yn ystod y cyfnod Canoloesol, a ddaliwyd yn y lle cyntaf, ynghyd ‚ maenordy Pen-bre, gan Arglwyddiaeth Cyd-weli fel brodoriaeth ac estroniaeth (Rees 1953, 200). Bu'n mwynhau statws faenoraidd o leiaf mor gynnar ‚ 1361 a daeth, erbyn 1630, yn annibynnol ar Arglwyddiaeth Cyd?weli (Jones 1983, 18). Yn Űl pob tebyg roedd yr ardal yn goediog drwy gydol y cyfnod Canoloesol (Williams 1981, 5). Gorweddai'r pen deheuol, a elwid yn 'Court Wood' o fewn cwrtil Llys Pen-bre, canolfan ffiwdal y faenor, ac mae'r ardal hefyd yn cynnwys Coed y Marchog y rhoddwyd iddi'r un enw yn nogfennau'r 18fed ganrif (Williams, 1981, 5). Rhennir gweddill yr ardal rhwng Coed a Choed Rhyal; fferm yw Coed a welir ym 1891 (Argraffiad Cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen LIII SW). Roedd o leiaf pedair lefel o waith glo yn gweithredu o fewn Coed Rhyal ar ddechrau'r 19fed ganrif, ond roeddynt wedi cau erbyn 1891 (argraffiad cyntaf Arolwg Ordnans, Dalen LIII SW), tra'r oedd chwareli yn ymyl Coed ac yn Court Wood. Yn ogystal, wrth droed pen de-orllewinol Mynydd Pen-bre roedd Pwll Glo Craig-lon a sefydlwyd yn y 18fed ganrif, a ehangwyd yn y 19eg ganrif, a unodd ‚ phyllau glo lleol eraill fel 'Pembrey Collieries Ltd' ym 1918, ac a gaeodd yn y 1930au (Ludlow 1999, 31). Defnyddiwyd pen de-orllewinol yr ardal fel maes tanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach plannwyd planhigfa o gonifferiaid ar draws rhan o'r ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gorwedd yr ardal ar lethr sgarp serth sy'n wynebu'r gogledd-orllewin gan ddisgyn o 100 m i ychydig uwchlaw lefel y mŰr mewn ardal sy'n 150 m o led ar gyfartaledd; mae'n lletach yn ei phen deheuol lle mae'r llethr yn troi tua'r dwyrain, ac yn yr ardal olaf hon mae dwy fryngaer o'r Oes Haearn (Williams, 1981). Mae'n drwch o goed, gan gynnwys prysg derw yn bennaf sy'n eilradd i raddau helaeth. Nid yw'r rhan fwyaf o'r ardal yn amgaeŽdig ond mae olion cefnen a rhych, a glasleiniau aredig ‚ gwreiddiau cynhanesyddol, i'r de (Williams 1981, 11-12), tra rhennir y pen gogleddol eithaf gan gyfres o derfynau yn ddarnau o dir amgaeŽdig, unionlin, afreolaidd o ran si‚p, a nodwedd o'r ardal ganolog, o amgylch Fferm Coed, yr unig anheddiad, yw'r darn mawr o dir amgaeŽdig. Mae planhigfa eang o gonifferau o'r 20fed ganrif wedi'i lleoli mewn rhan fawr o'r ardal hon. Mae chwarel Court Wood i'w gweld o hyd ond bellach ychydig o dystiolaeth ffisegol sydd ar gael o'r hen byllau glo gynt. Mae rhai pantiau gwneud a llwyfannau i'r de?ddwyrain yn ymwneud ‚'r defnydd o'r fan fel maes tanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Williams, 1981, 12).

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol, gan gynnwys y ddwy fryngaer o'r Oes Haearn, dwy gromlech gron bosibl o'r Oes Efydd, nodweddion amaethyddol gan gynnwys system gaeau o'r Oes Haearn, cefnen a rhych Ganoloesol, a nodweddion diwydiannol ‘l-ganoloesol hy. chwareli a phyllau glo.

Nid oes adeiladau nodweddiadol yma.

Mae'r ardal hon o dirlun hanesyddol yn cyferbynnu'n gyfan gwbl ‚'r tir mwy gwastad wrth droed y llethr i'r gogledd a'r gorllewin a chopa Mynydd Pen-bre i'r de a'r dwyrain.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]