Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TWYNI TYWOD PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 376026
ARDAL MEWN HECTARAU: 444.10

Cefndir Hanesyddol
Lleolir yr ardal yn y rhan honno o Dwyni Tywod Pen-bre (neu 'Towyn') nad yw wedi'i phlannu choedwig o gonifferau, hy. llain gul tua 150m o led ar gyfartaledd ar ochr Coedwig Pen-bre sy'n wynebu'r mr. Datblygodd y Twyni Tywod wrth geg Afon Gwendraeth Fawr dros gyfnod hir, ar hyd ymyl cyfres o adferiadau o amgylch anheddiad cnewyllol cychwynnol a ffurfiwyd gan lain o dir sych wrth droed Mynydd Pen-bre. Datblygodd y Twyni Tywod ers yr 17eg ganrif o leiaf ond, yn l James, nid ydynt yn perthyn i gyfnod cyn yr Oesoedd Canol. Mae eu datblygiad yn parhau tua'r mr, a dim ond ers 1830 y datblygodd y rhan honno lle lleolir yr ardal hon (James 1991, 155). Ymgorfforwyd yr ardal i system amddiffynfeydd yr Ail Ryfer Byd o amgylch Maes Glanio a Ffatri Ordnans Pen-bre.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal forol heb ei hamgu o fryniau tywod, ychydig uwchlaw lefel y mr ond yn codi'n unigol i dros 2 m, a ddatblygodd ers 1830. Amgylchedd cyfnewidiol er ei fod wedi'i sefydlogi'n rhannol drwy blannu corswellt y tywod.

Lleolir dau lwyfan gynnau o'r Ail Ryfel Byd yn rhan ogleddol yr ardal, fel arall nid oes yno unrhyw archeoleg wedi'i chofnodi.

Nid oes adeiladau nodweddiadol yno.

Ardal tirlun hynod iawn sydd Nod Penllanw yn derfyn i'r de a'r gorllewin, ardal o forfa heli i'r gogledd eithaf, a phlanhigfa o goed conifferaidd a thirlun milwrol/hamdden o'r 20fed ganrif i'r gogledd a'r dwyrain.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]