Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

ALLT HILLTOP

CYFEIRNOD GRID: SN 397090
ARDAL MEWN HECTARAU: 344.80

Cefndir Hanesyddol
Ardal a ddaliwyd fel estroniaeth Arglwyddiaeth Ganoloesol Cyd-weli, ac a roddwyd gan y Brenin Harri I i'r Esgob Roger o Gaersallog ym 1106 (Avent 1991, 167). Newidiodd ddwylo rhwng yr Eingl-Normaniaid a'r Cymry yn ystod y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif hyd nes y cafwyd amodau mwy sefydlog ddiwedd y 13eg a'r 14eg ganrif o dan ddeiliadaeth y teulu Chaworth ac, o 1327, Dugiaeth Caerhirfryn. Mae'r patrwm o gaeau mawr, rheolaidd o ran si‚p yn awgrymu ei fod o bosibl yn dir amgaeŽdig cymharol ddiweddar, ac o bosibl gorweddai rhan ohono o leiaf o fewn tir comin Allt Cunedda a ddisgrifiwyd ym 1609 fel 'free and common of pasture for all manner of cattle' (Rees 1953, 208-9). Mae cae o'r enw Park-y-lan yn awgrymu bod adran o ran ogleddol yr ardal o bosibl, mewn gwrthgyferbyniad, wedi bod yn dir eglwysig. Dechreuwyd amgŠu tir comin tua 1575 pan amgaeodd Edward Downley a Henry Vaughan o Gyd-weli 'two closes' a lenwai saith erw o'r tir comin 'and converted the same to their own use' (ibid.). Mae'r ffermydd Penlan-uchaf a Phenlan-isaf yn tarddu o ddeiliadaeth fwy o faint a gall gynrychioli cam cychwynnol amgŠu'r tir. Estynnwyd y broses o amgŠu'r tir, fodd bynnag, ac roedd cnewyllyn y tir comin, a orweddai i'r dwyrain o'r ardal hon, yn dal i fod heb ei amgŠu ym 1841 (map degwm Llanismel). O gwmpas yr ymylon roedd nifer o ffermydd gan gynnwys Allt a Phenlan-uchaf, ond nid ymddengys bod y rhain wedi datblygu o aneddiadau sgwatwyr. Ym 1630 gwerthwyd Arglwyddiaeth Cyd-weli i ieirll Carbery a'i daliodd tan 1804 pan y'i trosglwyddwyd i ystad Cawdor (Jones 1983, 18). Ni chafwyd datblygiad wedi hynny yn yr ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal ar lethr ddeheuol Allt Cunedda, rhwng 100 a 160 m. Fe'i nodweddir gan batrwm o ddarnau mawr o dir amgaeŽdig, cymharol reolaidd o ran si‚p, gyda gwrychoedd ar wrthgloddiau mewn cyflwr da, a sefydlwyd fwy na thebyg yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif. Defnyddir y tir fel tir pori wedi'i wella bron i gyd ac nid oes coetir yno. Mae'r ffermydd yn wasgaredig ond mae clwstwr sylweddol o amgylch tir comin Allt Cunedda gynt i'r gogledd-ddwyrain.

Ymhlith y nodweddion archeolegol mae beddrod crwn a chistfaen o'r Oes Efydd i'r de, ac mae enwau ar gaeau i'r gogledd yn awgrymu beddrodau crwn a meini hirion. Mae bryngaer fawr o'r Oes Haearn y tu hwnt i ffin ogleddol yr ardal yn rhoi ei enw i'r bryn.

Ymddengys bod y ffermydd yn perthyn yn gyffredinol i'r 18fed neu'r 19eg ganrif, wedi'u hadeiladu o gerrig ‚ thoeon llechi, yn ddeulawr ‚ thair ffenestr fae, ac yn y traddodiad brodorol. Mae tai allan cerrig o'r 19eg ganrif yn bresennol ar y rhan fwyaf o ffermydd ac wedi'u trefnu'n anffurfiol. Mae gan ffermydd dai allan modern helaeth.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol pendant, yn wahanol i'r darnau llai o faint, culach o dir amgaeŽdig i'r de, dwyrain a'r gorllewin, a'r darnau afreolaidd o ran si‚p o dir amgaeŽdig yn yr ardal i'r gogledd.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]