English

 

Adolygu’r Dystiolaeth


Y cam cyntaf wrth archwilio’r gorffennol yw casglu’r dystiolaeth ynghyd am y cofnodion a’r ffynonellau sydd ar gael. Drwy lwc mae cyfoeth o wybodaeth eisoes yn bod am hanes a thirwedd Dyffryn Tywi.

Mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) sydd ym meddiant Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnwys mapiau hanesyddol, lluniau o’r awyr ac adroddiadau cloddiadau – a’r cyfan yn cyfrannu at adeiladu darlun o’r gorffennol yn Nyffryn Tywi.

Gan weithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr proffesiynol, mae gwirfoddolwyr wedi dod â gwybodaeth at ei gilydd a’i rhoi mewn fformat digidol hawdd cael gafael arno. Mae’n cynnwys y canlyniadau o’r cloddiadau a fu cyn gosod y bibell nwy yn 2007, asesiad o barcdiroedd a mapio patrymau caeau.

Mae storfeydd eraill i ddogfennau hanesyddol sydd wedi’u harchwilio yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn Aberystwyth, a Swyddfa Gofnodion Sir Gaerfyrddin.

Gyda’r holl dystiolaeth oedd ar gael wedi ei chasglu, cafodd mapiau thematig o ardal yr astudiaeth eu creu i gynorthwyo i ddeall sut datblygodd y dyffryn dros amser.