Yng Nghorffennaf 2010 roedd y Garn Goch, bryngaer o’r Oes Haearn, uwchben
Bethlehem, yn fangre ar gyfer achlysur rhad ac am ddim fel rhan o Wyl Genedlaethol Archaeoleg Prydain, a gynhaliwyd
gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Hefyd ar gael oedd teithiau archaeolegol a daearegol o amgylch yr heneb ei hun, arddangosiadau gwneud clwydi
a malu blawd a chyfle i greu campwaith mewn crochenwaith. Rhostiwyd mochyn i gadw draw poenau moyn bwyd. Troellwyd
edafedd mewn pabell groen, mewn geiriau a gwlân, wrth i chwedleuwyr weu straeon o fytholeg y Celtiaid
ac wrth i nyddwyr dynnu eu hedeifion.
I lawer roedd y cyfle i wisgo lan yn nillad y Celtiaid, cael eu hwynebau wedi’u paentio gyda chynlluniau
rhyfedd a rhyfeddol a chael taflu gwaywffon at faedd gwyllt yn ormod o demtasiwn – ac nid i’r
plant yn unig!
|