Mochyn Lydstep – pryd coll ynteu offrwm gan gyndeidiau?
Gwnaed rhai o’r darganfyddiadau mwyaf eithriadol a gaed hyd yma o’r
Mesolithig diweddar yn Lydstep, Sir Benfro, sy’n rhoi cipolwg prin i ni o’r
rhod cynhanesyddol yn troi.
Yn 1917 canfuwyd ysgerbwd mochyn, yn dyddio’n ôl rhyw 6,300
mlynedd, yn sownd o dan foncyff coeden, gyda blaenau dau bigyn fflint wedi torri yn ei wddf.
Ymddengys iddo ddianc rhag ei helwyr, cyn marw o’i anafiadau yn ddiweddarach yn niogelwch
y goedwig. Er i esgyrn anifeiliaid gael eu darganfod a’u hadfer o sawl dyddodiad yn
ymwneud â’r fforestydd a foddwyd, prin iawn yw’r cyswllt uniongyrchol
â hela.
Gwnaed darganfyddiadau cyffrous pellach yn Lydstep yn 2010 pan gysylltodd
un o’r trigolion lleol ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed i adrodd fod olion traed
ar y traeth nid nepell o’r lle y darganfuwyd ysgerbwd y mochyn. Cofnododd yr Ymddiriedolaeth
olion carnau carw coch wedi goroesi ar wyneb dyddodiad mawn wedi caledu a arferai ffurfio
gwely pwll bas yn y Mesolithig diweddar. Roedd yno hefyd olion traed dynol, gan gynnwys
plant, eu traed yn ddwfn yn y mawn fel pe baen nhw wedi sefyll yn amyneddgar yn eu hunfan
– efallai fel rhan o helfa yn barod i gudd-ymosod yn y brwyn ger y man yfed?
Ymddengys mai llwgu wnaeth yr helwyr y diwrnod hwnnw, er bod modd dehongli’r
digwyddiadau mewn ffordd arall, sef nad dianc wnaeth y mochyn ond i’w gorff gael ei
offrymu’n aberth ar lan y dwr, wedi’i ddal yn sownd gan foncyff coeden. Gwyddys
bod y math hwnnw o ddefod yn gysylltiedig â dwr yn gyffredin mewn cyfnodau diweddarach
ac mae’n bosib, ond yn anodd profi, fod y cymunedau Mesolithig yn ystyried y dwr yn
gartref i’w cyndadau.
|