|
|
Diwyddiadau a Gweithgareddau
|
|
Adolygu’r Dystiolaeth
Y cam cyntaf wrth archwilio’r gorffennol yw casglu’r dystiolaeth ynghyd am y cofnodion
a’r ffynonellau sydd ar gael. Drwy lwc mae cyfoeth o wybodaeth eisoes yn bod am hanes a thirwedd Dyffryn
Tywi.
|
|
|
Arolwg Mynwent
Mae gan y meirw straeon i’w dweud wrthym o hyd. Ac felly y bu i fyddin o wirfoddolwyr
lleol brwd fentro drwy’r mieri a’r danadl poethion i graffu’n ofalus ar bob carreg fedd unigol
a chofnodi’r manylion oedd arnynt.
|
|
|
Cofnodi Cloddiau
Er mor oleuedig y gall ymchwil wrth ddesg fod, does dim yn cymharu â mynd ma’s
yna I weld pethau drosoch chi’ch hunan. Mae gwrthrychau amrywiol fel gwrychoedd, cerrig beddau, adfeilion
ac adeiladau sy’n sefyll yn bynciau diddorol i ymchwilio iddynt.
|
|
|
Ditectifs Tai
Pa mor aml y byddwch yn edrych ar yr adeiladau o’ch amgylch? Hynny yw, edrych o ddifrif?
Cânt eu hanwybyddu mor aml, yn ddim ond cefnlen i’n bywydau prysur, yn gyfarwydd, yn gyson ond prin
yn cael ail edrychiad. Ond cymerwch eiliad i gael golwg fanylach ac efallai y cewch eich synnu.
|
|
|
|
Deall Dyffryn Sy’n Newid
Afon Tywi yw un o afonydd mwyaf dynamig Cymru ac mae archwilio’r gwaddodion a gedwir
ar lawr ei dyffryn yn datgelu hanes o erydu, dyddodi a gorlifo yn dyddio’n ôl i ddiwedd y rhewlifiant
diwethaf. Mae’r archwilio hwn ar astudio gwaddodion gorlifdir yn dangos sut mae newid hinsawdd a gorchudd
tir wedi effeithio ar ymddygiad yr afon yn ystod y milenia diwethaf.
|
|
|
Di-ddaearu'r Gorffennol
Cloddiad yn aml yw’r profiad cyntaf mae rhywun yn ei gael o fyd anhygoel archaeoleg –
safleoedd poeth a llychlyd, crafu cyson y tryweli syncronedig a’r awyr ddisgwylgar o ddarganfyddiad ar
fin cael ei wneud...
|
|
|
Rhyfel yn y Dyffryn
Wrth gwrs, nid oes rhaid i’r gorffennol fod ymhell yn ôl iddo fod yn ddiddorol
dros ben. Mae digwyddiadau’r gorffennol agos iawn lawn mor afaelgar ac mae eu huniongyrchedd yn ychwanegu
at eu dwyster. Mae clywed hanesion gan y bobl oedd yn eu byw yn fraint arbennig, gan eu bod yn rhoi synnwyr
gwirioneddol o’r gorffennol.
|
|
|
Gwyl Garn Goch
Yng Nghorffennaf 2010 roedd y Garn Goch, bryngaer o’r Oes Haearn, uwchben Bethlehem,
yn fangre ar gyfer achlysur rhad ac am ddim fel rhan o Wyl Genedlaethol Archaeoleg Prydain, a gynhaliwyd gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
|
|
|