Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

195 PARC DINEFWR

CYFEIRNOD GRID: SN 617225
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 229.20

Cefndir Hanesyddol
Cymerwyd y nodiadau cefndirol hyn o'r astudiaeth a wnaed gan yr Athro Ralph Griffiths yn ddiweddar (1991) o gastell a bwrdeistref Dinefwr, ac o Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999) {PREIFAT}. Y gred ers amser maith yw mai Dinefwr oedd sedd tywysogion Cymreig Deheubarth. Dangosodd Griffiths, fodd bynnag, nad oedd hynny'n wir a'i bod yn debyg na fodolai unrhyw beth o bwys ar y safle nes i Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys) godi castell yn fuan ar l 1163. Mae'n bosibl i'r Arglwydd Rhys adeiladu castell o waith maen, am fod cyfeiriad o 1213 yn awgrymu waliau o gerrig. Yr adeg honno roedd mab ieuengaf yr Arglwydd Rhys, sef Rhys Gryg, dan warchae yn ei gastell gan ddau o wyrion yr Arglwydd Rhys. Mae'n debyg i'r gorthwr crwn yn y castell gael ei adeiladu gan Rhys Gryg rhwng 1220 a 1233. Arhosodd y castell yn nwylo'r teulu hyd deyrnasiad Edward I. Gwnaed gwaith atgyweirio helaeth ar y castell ac ychwanegwyd ato ar raddfa fawr gan Goron Lloegr yn y 1280au. Yn ystod blynyddoedd olaf y castell dan reolaeth y Cymry datblygodd anheddiad bach - sef 'Trefscoleygyon' neu 'bentrefan y clercod' - y tu allan i'r castell. Erbyn 1294 roedd gan dref Dinefwr 26 o diroedd bwrdais, marchnad wythnosol a ffair flynyddol. Ar ddiwedd y 13eg ganrif datblygodd Dinefwr yn ddwy-dref. Cynhwysai hyn 'hen' dref ar y bryn gydag 11 o fwrdeisiaid Cymreig, a thref 'newydd' - a gi ei galw'n 'Newton' yn fuan ar l hynny - gyda 35 o fwrdeisiaid o dras Seisnig yn bennaf. Lleolid Newton cryn bellter i ffwrdd ar safle'r plasty diweddarach, T Newton. Ym 1310 rhoddwyd castell, trefi a demn Dinefwr i Edmund Hakelut ac yn ddiweddarach i'w fab. Daliodd y teulu Hakelut ei safle, ar wahn i doriad byr, tan 1360. Gwnaed gwaith atgyweirio ar y castell o dan y teulu Hakelut. Dengys arolwg o 1360 fod Newton yn anheddiad llwyddiannus a chanddi 46 o fwrdeisiaid. Rhoddwyd siarter i'r trefi ym 1363, ond ymddengys fod hyn wedi nodi uchafbwynt o ran ffyniant y trefi. Bu'r castell a'r trefi dan warchae ym 1403 yn ystod gwrthryfel Glyndr. Yn dilyn y gwrthryfel rhoddwyd y trefi a'r castell i Hugh Standish. Nid oedd gan y teulu Standish fawr ddim diddordeb yn ne Cymru, a dechreuodd y castell a'r trefi ddirywio. Ym 1433 gwahanwyd y cyfrifoldeb am y trefi a'r castell, a rhoddwyd y trefi a'r demn i John Perrot. Priododd ei gyfnither Gruffydd ap Nicholas, a dyna sut y dechreuodd y cysylltiad hir 'r teulu Gruffydd. Erbyn i yr Gruffydd ap Nicholas, sef Rhys ap Gruffydd, gael ei atentio o frad ym 1531 roedd ei deulu wedi adeiladu plasty ymysg adfeilion hen dref 'Newton', er bod 'Newton' wedi'i nodi o hyd ar y map a dynnodd Saxton o Sir Gaerfyrddin ym 1578. Roedd oes y trefi a'r castell wedi dod i ben. Fodd bynnag, parhaodd y teulu Rice (Rhys) i fyw ym Mhlasty Newton ac fe'i hailadeiladwyd yn rhannol rhwng 1595 a 1603, ac eto tua 1660, a thua 1757-1779, ac yna yn ei ffurf bresennol ym 1856-1858 gan Richard Kyrke Penson; mae'r t presennol yn cadw llawer o nodweddion y t a fodolai ym 1660. Gwnaed parc yn y dirwedd bresennol rhwng 1590 a 1650 fwy neu lai (Milne 1999, 6). Cwblhawyd waliau'r parc tua 1774 ac amgaeent ardal dirluniedig fawr i dros 200 ha a gardd ffurfiol fach, gerddi wal o'u hamgylch a set o strwythurau domestig. Ceir rhai olion tirweddau gwaelodol, gan gynnwys teras sy'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin a allai fod yn rhan o'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, ac olion ffyrdd a lonydd a all fod yn rhai Rhufeinig a/neu Ganoloesol. Hefyd cofnodwyd carreg felin Rufeinig a chelc arian bath gerllaw Castell Dinefwr tra darganfuwyd teilchion o amfforu a llestri Samiaidd yng nghyffiniau Fferm Dinefwr (Crane 1994, 6). Mae rhan ganolog yr ardal yn cynnwys hen eglwys y plwyf, sef eglwys Tyfi Sant, Llandyfeisant, sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol. Erbyn hyn mae'r eglwys hon yn segur ac yn cael ei defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru; ymddengys fod y cofnod yn RCAHMW 1917, 110, fod 'teseru Rhufeinig' o dan yr eglwys yn hollol anghywir.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Dinefwr yn cynnwys y cyfan o Barc Dinefwr, ynghyd ag ardaloedd bach y tu allan iddo a oedd yn gysylltiedig 'r ystad megis Fferm y Plas. Lleolir y parc ar dir bryniog ar ochr ogleddol dyffryn Tywi, yn union i'r dwyrain o dref Llandeilo, ac mae'n cyrraedd uchder o dros 90 m. Mae llethrau coediog yn codi'n serth o lawr y dyffryn i Gastell Dinefwr sy'n ffurfio, gyda Th Newton, ddau brif ffocws y parc. Mae'r castell wedi'i leoli ar dir uchel, yn edrych dros ddarnau hir o'r dyffryn. Mae'r gwaith maen sydd ar l yn perthyn i'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif yn bennaf, ac i waith atgyweirio a wnaed gan yr ystd yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r castell wrthi'n cael ei ddiogelu gan Cadw. Mae'r gwrthgloddiau y tu allan i'r castell yn rhan o'r amddiffyniad allanol, ond mae'n debyg eu bod yn nodi safle tref fach Dinefwr hefyd. Mae T Newton, sef prif gartref ystd Dinefwr, yn darparu'r ail ffocws yn y parc. Nid oes unrhyw beth i'w weld uwchben y ddaear o'r dref ganoloesol, Newton, yr adeiladwyd y plasty gwreiddiol arni. Mae'r t presennol yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif, ond adeiladwyd ffasd newydd arno yn y 1850au yn y dull Gothig. Mae'r t a'r rhan fwyaf o'r parcdir yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir casgliad ysblennydd o adeiladau gwasanaethu o gerrig wedi'u trefnu o amgylch iard yn agos at D Dinefwr. Mae elfennau eraill o'r gerddi a'r parc megis gardd wal o'i hamgylch, rhewdy, colomendy a phyllau wedi goroesi. Mae'r parc o'r 18fed ganrif wedi cadw llawer o'i blanhigion. Mae coed unigol, clystyrau o goed, a chlystyrau mwy helaeth o goetir i'w gweld o hyd. Mae'r parc wedi cadw ei gymeriad agored - yn arbennig y parc ceirw ar yr ochr orllewinol - er bod ffensys gwifrau'n rhannu rhan ddwyreiniol y parc ceirw hwn yn glostiroedd o gaeau pori. Mae rhan dde-ddwyreiniol y parc - sef Parc Penlan - wedi'i dinasoli ac mae llwybrau tarmac wedi'u gosod yno. Lleolir eglwys anghysbell Llandyfeisant, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol, yn yr ardal; mae'r eglwys hon bellach yn segur. Nodir ffiniau'r caeau o amgylch y parc gan gloddiau pridd gwrychoedd ar eu pennau. Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf thirlun y parcdir a'i nodweddion, gan gynnwys cwningar, ond mae nodweddion gwaelodol yn cynnwys ffos gron bosibl o'r Oes Efydd.

Mae archeoleg Rufeinig yn cynnwys carreg felin, ffyrdd a lonydd posibl a chelc arian bath. Mae'n debyg bod nodweddion yn ymwneud ag anheddiad Canoloesol Newton yn gorwedd o dan y clostiroedd presennol.

Mae Parc Dinefwr yn cynnwys llawer o adeiladau nodweddiadol, a chyda'r ardd mae wedi'i gofnodi fel PGW (Dy) 12 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999) {PREIFAT}. Mae Castell Dinefwr sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd I. Mae Eglwys Tyfi Sant, Llandyfeisant, a adferwyd ar raddfa fawr yn y 19eg ganrif, yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae T Dinefwr (Newton), y t haf, a'r rhesi yn yr iard fewnol a'r iard allanol, yn rhestredig Gradd II* tra bod y ffos glawdd, y pistyll, bwthyn y llaethdy, y colomendy, lladd-dy'r ceirw, y rhewdy, fferm y plas, yr ysgubor d a'r rhes lle'r oedd y beudy/stablau yn rhestredig Gradd II (naw i gyd). Lleolir bandstand ym Mharc Penlan.

Mae parc Dinefwr yn ardal gymeriad hynod ac mae yna wrthgyferbyniad amlwg rhyngddo a'r tir ffermio oddi amgylch a lleoliad trefol Llandeilo.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]