Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

227 CYNGHORDY

CYFEIRNOD GRID: SN 783395
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1322.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr sydd wedi'i lleoli rhwng Afon Brn a blaenddyfroedd Afon Tywi, a fu unwaith yn rhan o gwmwd Hirfryn yng Nghantref Bychan a oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Fe'i trosglwyddwyd yn fuan ar l hynny i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, bu cyfnodau pan gadwodd yr ardal arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Mae'n bosibl bod llawer o'r ardal yn agored yn ystod y cyfnod Canoloesol - mae'r map o Dde Cymru a wnaed gan Rees ym 1932 yn ei labelu 'Cefngelevarth Forest' (Rees 1932) - ond mae'n bosibl bod enw pentref Cynghordy yn tarddu o sefydliad mynachaidd (nas dyddiwyd), a/neu gapel, sef 'Capel Cynfab', tra bod yr enw lle gerllaw, sef Maes Mynach, yn awgrymu presenoldeb daliadau tir yn perthyn i'r cyfryw sefydliad (Sambrook and Page 1995, 18). Mae patrwm presennol y caeau yn awgrymu i hanner deheuol yr ardal gael ei hamgu ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol neu ar ddechrau'r cyfnod l-Ganoloesol; mae'n bosibl bod y clostiroedd rheolaidd yn yr hanner gogleddol yn ddiweddarach ond roedd y dirwedd bresennol wedi'i chreu erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Mae'n bosibl bod Neuadd Cynghordy yn dyddio o'r 16eg ganrif (Jones 1987, 53) ond mae Rees yn awgrymu bod y canolbwynt maenoraidd Canoloesol wedi'i leoli yn 'Abergefel' i'r de (Rees 1932), ac er ei fod yn nodi bod melin bosibl yng Nghynghordy, nid oes unrhyw dystiolaeth bod y pentref presennol yn anheddiad cynnar gerllaw cyn-eglwys/mynachdy. Yn lle hynny ymddengys iddi ddatblygu ar wahn gerllaw y Ffordd Rufeinig rhwng Llanymddyfri (Alabum) a'r ceyrydd ym Meulah a Chastell Collen yng nghanolbarth Cymru (James 1982, 7) - a gynrychiolir erbyn hyn gan yr A483(T) ychydig i'r dwyrain o Ardal 227 - a ddatblygodd yn llwybr porthmona pwysig yn y cyfnod l-Ganoloesol. Mae'n bosibl mai dyma sy'n gyfrifol am y ffaith bod capel anghydffurfiol a thafarn yn y pentref. Yn rhedeg ar draws yr ardal mae'r rheilffordd o Lanymddyfri i Lanwrtyd, a sefydlasid erbyn 1871 i ffurfio rhan o Linell Canolbarth Cymru Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin a Chyffordd Caerfyrddin; mae'n dal yn weithredol ac mae'n rhan o linell 'Calon Cymru'. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod ganddo'r hanfodion - sef capel, swyddfa bost ac ysgol, yn ogystal melin a diwydiant a gynrychiolir gan waith briciau, eglwys blwyf newydd (Llanfair-ar-y-bryn) a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif, ficerdy, tafarn a gorsaf reilffordd, ni ddatblygodd anheddiad cnewyllol yng Nghynghordy - efallai roeddent mor wasgaredig fel nad oedd yr un canolbwynt y gallai pentref dyfu o'i amgylch (Sambrook and Page 1995, 24) ac yn wir, y datblygiad pwysicaf a fu yng Nghynghordy oedd adeiladu ystad o dai cyngor yn yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad fawr yw Cynghordy a leolir rhwng 80m a 250m ar lethrau sy'n wynebu'r de-ddwyrain ar ochr orllewinol dyffryn Brn i'r gogledd o Lanymddyfri. Yn ei hanfod ardal o gaeau bach afreolaidd, ffermydd gwasgaredig a choetir gwasgaredig ydyw. Cloddiau gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio'r ffiniau i'r caeau. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio; ar lefelau uwch maent yn adfeilio a/neu maent wedi tyfu'n wyllt, ar lefelau is, ac ar hyd llwybrau a lonydd, maent mewn cyflwr gwell ac at ei gilydd maent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cyd 'r mwyafrif o'r gwrychoedd. Mae llawer o'r gwrychoedd yn cynnwys coed nodweddiadol. Mae'r coed hyn ynghyd 'r nifer fawr o glystyrau o goetir collddail - sydd at ei gilydd wedi'u cyfyngu i lethrau mwy serth - a llawer o blanhigfeydd coniffer, yn rhoi golwg goediog i ran helaeth o'r dirwedd. Defnyddir y tir ffermio ar gyfer porfa, sydd at ei gilydd yn borfa wedi'i gwella, ond ceir tir mwy garw a thir brwynog mewn pantiau glwyb ac ar lefelau uwch. Nodweddir y partwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig; Cynghordy yw'r unig anhenddiad cyfunedig ac mae'n cynnwys clwstwr llac o dai o'r 19eg ganrif, capeli, ysgol a stryd o dai yn dyddio o'r 20fed ganrif. Mae'r ffermdai bron i gyd yn perthyn i ddweidd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau deulawr hyn wedi'u hadeiladu o gerrig ac iddynt dri bae, er bod enghreifftiau mwy o faint a llai o faint i'w cael. Mae'r mwyafrif ohonynt yn y traddodiad brodorol, ond mae yna enghreifftiau yn y dull Sioraidd mwy 'bonheddig'. Mae tai allan y ffermydd a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dueddol o fod mewn un neu ddwy res, er bod gan y ffermydd mwy o faint fwy o adeiladau mewn trefn lled-ffurfiol gyda'r t. Mae gan y mwyafrif o ffermydd amrywiaeth fawr o adeiladau amaethyddol modern. Er bod dyffryn Brn yn llwybr pwysig sy'n cysylltu Sir Gaerfyrddin a Chanolbarth Cymru, mae'r mwyafrif o'r llwybrau go iawn, o ffordd Rufeinig i'r ffordd fodern, yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y dyffryn. Yr eithriad i hyn yw rheilffordd Canolbarth Cymru sy'n croesi'r ardal hon, gyda gorsaf yng Nghynghordy, gan godi o'r de i'r gogledd. Mae ei thraphont drawiadol o gerrig, a leolir ychydig o fewn ochr ogleddol yr ardal yn nodwedd bwysig yn y dirwedd.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol, ac mae'n cynnwys dau grug crwn posibl o'r Oes Efydd, bryngaer bosibl o'r Oes Haearn, ffynnon gysegredig bosibl o'r Oesoedd Canol a chapel a/neu safle mynachlog, a nifer o fannau darganfod ar wahn o'r cyfnod Neolithig, yr Oes Efydd, y cyfnod Rhufeinig (o bosibl) a'r cyfnod l-Ganoloesol. Mae ychydig o adeiladau nodweddiadol.

Mae rhannau o Neuadd Cynghordy, sy'n rhestredig Gradd II, yn dyddio o'r 18fed ganrif (Jones 1987, 53). Mae'r draphont sy'n cario llinell y LNWR yn dyddio o tua 1871 ac yn rhestredig Gradd II. Ar ben hynny mae'r swyddfa bost, gorsaf reilffordd, gwaith briciau, Eglwys Santes Fair a ficerdy, ysgol, capeli, a melinau, sydd i gyd heb eu rhestru.

Ni ddiffiniwyd ardaloedd cymeriad i'r dwyrain ac i'r gogledd o Gynghordy eto. I'r gorllewin mae esgair uchel yn darparu ffin weddol dda ar gyfer yr ardal hon, ond i'r de, mae yna ardal gyfnewid yn hytrach na ffin bendant.

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]