Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

268 MAENCLOCHOG

CYFEIRNOD GRID: SN082279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 221.1

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol Chantref Cemaes a grwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar 1922. Roedd ardal gymeriad Maenclochog yn eiddo i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r faenor, delid yr ardal gymeriad -sy'n cynnwys yr anheddiad ym Maenclochog ei hun - o dan dirddaliadaeth faenoraidd Eingl-Normanaidd. Braslun yn unig sydd gennym o hanes canoloesol y faenor. Roedd wedi dod i feddiant arglwyddi Roche Llangwm erbyn canol y 13eg ganrif, ynghyd ffoedd marchog yn Eglwys Wythwr a Llanychaer, a pharhaodd eu deiliadaeth i'r 14eg ganrif. Mewn Extent diweddarach, yn dyddio o 1594, delid maenor Maenclochog - fel rhai eraill yng Nghemaes - ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Sefydlasid castell erbyn 1215 pan gofnodir yn y Croniclau iddo gael ei ddinistrio mewn cyrch gan y Cymru. Fe'i 'dinistriwyd' eto ym 1257 tra gall cyfeiriad mewn Inquisition yn dyddio o 1376 awgrymu ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio. Nis profwyd eto ym mha le y safai'r castell, ond mae'r bryncyn creigiog a'r clostir sy'n gysylltiedig ag ef ym mhen deheuol y pentref yn bosibiliad cryf. I'r gogledd o'r safle mae lawnt bentref fawr sy'n cynnwys yr eglwys, sy'n arwain i stryd fawr echelinol - bellach y B4313 - sydd thyddynod ar hyd-ddi. Mae'r rhain i gyd yn nodweddion clasurol o anheddiad a sefydlwyd gan yr Eingl-Normaniaid yn Sir Benfro ac mae Maenclochog yn rhan o gadwyn o'r cyfryw aneddiadau a sefydlwyd ar hyd troedfryniau deheuol Mynydd Preseli (cf. Y Mot, Castell Henri, Cas-haidd ac ati). Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i Faenclochog gyrraedd statws bwrdeistref, na'i bod yn uchelgais ganddi fod yn fwrdeistref. Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl ond fe'i sefydlwyd yn yr oesoedd canoloesol, a gall y ffaith ei bod wedi'i chysegru i 'Mair' awgrymu ei bod yn dyddio o'r cyfnod ar l y Goresgyniad. Rhoddwyd y ficerdy, a'i gapeliaethau yn Llandeilo Llwydarth, a Llangolman, i Abaty Llandudoch gan David de la Roche c.1320. Mae'r caeau cul, hir sy'n amgylchynnu'r pentref yn nodweddiadol o'r modd yr amgaewyd llain-gaeau canoloesol, a oedd wedi'u rhannu yn l pob tebyg yn l llinellau maernoraidd Eingl-Normanaidd. Ond mae hanes diweddarach y pentref wedi bod yn un Cymreig yn bennaf, ac yn un bugeiliol. Roedd hefyd yn un cymharol tlawd, ac ym 1670 nid aseswyd bod gan yr un daliad fwy na dwy aelwyd. Erbyn y 19eg ganrif, roedd yn ganolfan i borthmyn ac roedd ffair wartheg flynyddol fawr yn cael ei chynnal ar lawnt y pentref. Dengys map o 1773 lawnt y pentref a 15 o anheddau o'i hamgylch, tra bod gweddill y dirwedd fwy neu lai fel y mae heddiw. Ar draws yr ardal rhedai Rheilffordd Maenclochog a agorwyd ym 1876 i wasanaethu'r chwareli yn Rhosbwlch yn ardal gymeriad Mynydd Bach. Fe'i hymestynnwyd yn ddiweddarach i Abergwaun, ond caeodd ym 1949.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maenclochog ar lethrau deheuol Mynydd Preseli rhwng 200m a 260m o uchder, llethrau rhediad graddol sy'n wynebu'r de. Pentref Maenclochog yw canolbwynt yr ardal hon. Mae tir amaethyddol yn cynnwys system o gaeau cul hir; mae'n amlwg bod hyn yn system o gaeau agored a amgaewyd. Mae'r enghreifftiau gorau o'r lleiniau amgaedig i'w gweld i'r dwyrain ac i'r gogledd o'r pentref. Rhennir y caeau gan gloddiau a chloddiau caregog ac arnynt wrychoedd. Ac eithrio'r rhai sy'n rhedeg ar hyd ffyrdd a llwybrau, nid yw'r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da. Mae bylchau mewn llawer ohonynt ac mae eraill wedi tyfu'n wyllt. Ar wahn i blanhigfa o goed coniffer a choed mewn rhai o'r gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt, nid yw coedwigoedd yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd hon. Mae cymeriad pentref amaethyddol gweithiol yn perthyn i Faenclochog o hyd ac mae'n cynnwys ffermydd, eglwys, capeli, garej, neuadd bentref, tafarndai, gweithdai, tai a siopau. Mae'r pentref wedi'i gynllunio o amgylch lawnt bentref hirsgwar lle y lleolir eglwys y plwyf. Lleolir tai ac adeiladau eraill o amgylch ymyl allanol y lawnt hon. Mae'r anheddau mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau. Mae'r enghreifftiau hynaf yn dyddio o ddechrau i ganol y 19eg ganrif, a cheir ffermdai ar wahn, tai eraill ar wahn a therasau. Mae'r cyfan wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro sment ac cherrig moel) ac mae gan y mwyafrif ddau lawr a thri bae. Ceir enghreifftiau yn yr arddull frodorol ac yn yr arddull Sioraidd bonedigaidd. Mae adeiladau a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif yn cynnwys tai, byngalos a bythynnod, gan gynnwys enghraifft dda o fwthyn unllawr o haearn rhychod ac iddo fframwaith coed. Ceir datblygiadau hirgul yn dyddio o'r 20fed ganrif ar hyd y ffyrdd i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r dwyrain. Mae ystad fach o dai yn perthyn i'r 21ain ganrif ar gyrion gogleddol y pentref. Mae anheddau gwasgaredig y tu allan i'r pentref yn cynnwys ffermydd, y codwyd eu ffermdai at ei gilydd yn y 19eg ganrif yn yr arddull frodorol. Mae adeiladau fferm y pentref a'r ffermydd gwasgaredig yn gymysgedd ac maent yn cynnwys: un neu ddwy res o strwythurau a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif; ysguboriau ac adeiladau eraill o dun rhychog yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif; a strwythurau o ddur, concrid a briciau yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Yr unig adeilad rhestredig yw Eglwys y Santes Fair, a ailadeiladwyd yn gyfan gwbl c.1790, yn yr un lleoliad 'r eglwys flaenorol ond heb ddim o'r adeiladwaith cynharach. Mae adeiladau eraill yn cynnwys yr Hen Gapel yng nghanol y pentref sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif, a chapel Tabernacl, a adeiladwyd fel capel annibynnol yng nghanol y 19eg ganrif ar l anghydfod rhwng y gynulleidfa yn Hen Gapel. Mae elfennau trafnidiaeth y dirwedd hanesyddol yn cynnwys y B4313 sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r pentref, isffyrdd a lonydd, a rheillffordd nas defnyddir bellach.

Mae cyfoeth o archeoleg gynhanesyddol o fewn yr ardal fach hon, gan gynnwys cyfadail defodol o'r oes neolithig/efydd yn Eithbed, a nifer o feddrodau siambrog a meini hirion posibl, grp arall o ddau faen hir a dau faen hir ar wahn arall. Mae cyd-destun y clochgerrig a grybwyllwyd gan Fenton - sef dwy garreg y dywedir eu bod yn canu fel cloch pan gnt eu taro - yn anhysbys ac maent wedi diflannu bellach. Mae bryngaer o'r oes haearn a chlostir amddifynedig llai o faint. Mae'r Henebion Cristnogol Cynnar yn Eglwys y Santes Fair yn dod o Landeilo Llwydarth, ond mae safle ffynnon sanctaidd. Nis profwyd eto ym mha le y safai'r castell, ond mae'r bryncyn creigiog a'r clostir sy'n gysylltiedig ag ef ym mhen deheuol y pentref yn bosibiliad cryf.

Mae Maenclochog yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig. Mae'n cyferbynnu ag ardal Mynydd Bach i'r dwyrain a amgaewyd trwy ddeddf Seneddol ac 'r ardaloedd amhendant o dir mwy o faint a amgaewyd yn fwy rheolaidd i'r de ac i'r gorllewin.

Ffynonellau: Fenton 1811; Gale 1992; Green 1924; Howells 1977; Jones 1952; King 1988; Ludlow 1998; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Picton Castle 1; Map a rhaniad degwm Maenclochog, 1841; Owen 1897; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]