Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

 

294 TYDDEWI

CYFEIRNOD GRID: SM754254
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 66

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy'n cyfateb i ardal adeiledig Dinas Tyddewi. Dechreuodd Tyddewi fel anheddiad eglwysig yn y 6ed ganrif. Ymddengys fod cwlt Dewi Sant, a'r traddodiad o bererindota, wedi dechrau'n gynnar ac, erbyn y 9fed ganrif, roedd cysylltiad pendant Thyddewi. Atgyfnerthwyd y cysylltiad pan gydnabuwyd yr esgobaeth gan y brenin Normanaidd William I a ymwelodd 'r safle ym 1081, a chan faddeueb y Pab Calixtus, ym 1123, fod dwy daith i Dyddewi yn gyfwerth ag un daith i Rufain. Ymddengys fod y cyfan o Gantref Pebidiog ym meddiant yr esgob erbyn c.1100, a hynny yn bennaf fel rhodd (neu gadarnhad) gan frenin Dyfed sef Rhys ap Tewdwr ym 1082. Nid yw ffurf yr anheddiad mynachaidd yn y cyfnod hwn yn hysbys, er iddi gael ei awgrymu y gall y clos pedeironglog presennol, sy'n dyddio o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, gadw ffin gynnar.

O ganlyniad i benodi esgob Normanaidd, Bernard, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig, er bod y castell o gloddweithiau yn Nyffryn Alun, ychydig o bellter i'r gorllewin o'r eglwys gadeiriol a'r dref ddiweddarach, sy'n dyddio yn l pob tebyg o'r un cyfnod 'r bathdy brenhinol a sefydlwyd yn ystod teyrnasiad William II ac a leolid y tu mewn iddo, yn arwydd bod y Normaniaid yn ymyrryd yn yr ardal ac yn ei rheoli cyn yr adeg honno. Mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol uchel yn cynnwys enghreifftiau o'r bensaernaeth eglwysig orau yng Nghymru, ac yn cyfateb iddi mae ysblander lleyg Palas yr Esgob. Adeiladwyd eglwys gadeiriol newydd sbon, a gysegrwyd ym 1131, gan yr Esgob Bernard a gymerodd le unrhyw strwythur(au) a fodolai cyn hynny. Adeiladwyd yr adeilad presennol rhwng 1176 a 1197 i gymryd lle'r eglwys gadeiriol honno. Sefydlwyd Coleg y Santes Fair, a leolir ynghyd 'i gloestr ar ochr ogleddol yr eglwys, ym 1377.

Dechreuwyd adeiladu Palas yr Esgob yn ystod y 12fed ganrif yn l pob tebyg, am fod y Brenin Henry II a'i osgordd wedi aros yno ym 1171-2, ond rhoddwyd ei ffurf bresennol iddo ar ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif. Dengys map o 1720 y clos yn ei gyflwr mwyaf datblygedig, gyda phyllau pysgod, caeau a pherllannau yn llenwi'r rhan fwyaf o'r tu mewn. Roedd o leiaf un t crefyddol arall o'r cyfnod ar l y Goresgyniad Eingl-Normanaidd o fewn y ddinas, sef Whitewell, a sefydlwyd fel ysbyty ym 1287 ond a atodwyd at Goleg y Santes Fair ym 1377. Ni wyddom nemor ddim am unrhyw anheddiad sifil cyn 1115 pan sefydlwyd Tyddewi fel bwrdeistref ar l derbyn ei siarter gan y Brenin Henry I. Gweinyddid y fwrdeistref yn l y system Eingl-Normanaidd: meddiannai'r tenantiaid ddaliadau bwrdais ffurfiol, y delid un ohonynt, ym 1326, gan gydberchenogion fel crair unigol o system dirddaliaeth Gymreig. Rhoddwyd i Dyddewi yr hawl i gynnal dwy fair flynyddol a marchnad ddwywaith yr wythnos ym 1281.

Ym 1326, roedd y boblogaeth o ryw 1000 yn byw mewn 130 o diroedd bwrdais, ond nid oes fawr ddim tystiolaeth o unrhyw gynllunio ffurfiol. Yn ei hanfod cynhwysai'r fwrdeistref farchnadfa drionglog y tu allan i brif borth dwyreiniol clos yr Eglwys Gadeiriol. O'r porth hwn rhedai pedair stryd hirfain a threfniant anffurfiol o lonydd llai o faint. Mae trefniant y lleiniau bwrdais wedi goroesi mewn cyflwr cymharol gyflawn. Dengys map Speed fod y dref yn dirywio erbyn yr 16eg ganrif, a bod ynddi 51 o dai yn unig, gofod eang rhyngddynt, a disgrifiodd Camden, ac yntau'n ysgrifennu yn y 1680au, y dref fel 'Dinas fach iawn a thlawd heb unrhyw beth i ymfalcho yn ei gylch'. Tyfodd y ddinas y tu hwnt i'w therfynau canoloesol, a dengys map ystad o ddechrau'r 19eg ganrif y Ffordd Newydd a oedd newydd ei hadeiladu bryd hynny, ond serch hynny nid oedd yn fwy na phentref mawr.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Yn ei hanfod mae Tyddewi - Dinas Tyddewi yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol. Yn hanesyddol canolbwynt y ddinas yw clos yr eglwys gadeiriol, sy'n gorwedd ar lawr dyffryn ac ochrau dyffryn isaf Afon Alun. Mae ganddi graidd lleyg, eilaidd sydd 'i ganolbwynt yn Sgwr y Groes i'r dwyrain. Mae waliau canoloesol Clos yr Eglwys Gadeiriol, gan gynnwys porthdy Porth y Tr yn amgu Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Palas yr Esgob sy'n adfail a nifer o anheddau a gysylltir 'r eglwys gadeiriol. Mae'r anheddau hyn at ei gilydd yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig yn y traddodiad. Sioraidd bonheddig. Mae'r anheddau hyn, ynghyd 'r adeiladau canoloesol, yn rhoi cydlyniad pensaernol i'r rhan hon o'r ddinas. Nid yw'r ddinas leyg wedi'i chynllunio, ac mae'n cynnwys nifer o strydoedd, Nun Street, High Street, a Goat Street, sy'n cydgyfarfod yn Sgwr y Groes. Ar hyd y strydoedd hyn yr oedd y lleiniau bwrdais canoloesol wedi'u gosod, ac ar hyd y strydoedd hyn y ceir yr adeiladau hynaf. Mae'r adeiladau hynaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ac maent wedi'u hadeiladu mewn amrywiaeth o arddulliau ac o amrywiaeth o ddeunyddiau. Maent yn amrywio o anheddau yn yr arddull Sioraidd a adeiladwyd o gerrig patrymog i fythynnod yn y traddodiad brodorol wedi'u hadeiladu o gerrig wedi'u lliwio ac iddynt doeau llechi ac arnynt sgim o sment. Wedi'u gwasgaru ymhlith yr adeiladau hn hyn mae tai teras a adeiladwyd o gerrig ar ddiwedd y 19eg ganrif, capeli yn dyddio o'r 19eg ganrif, tai yn dyddio o'r 20fed ganrif, a siopau, banciau a neuaddau yn dyddio o'r 20fed ganrif. Wrth gyffordd Goat Street, Pit Street a Catherine Street ceir grp nodedig o warysau a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif. At ei gilydd, mae'r strydoedd cymharol gul, y defnydd o gerrig lleol a thoeau llechi, yn rhoi cydlyniad i graidd hanesyddol Tyddewi er gwaethaf amrywiaeth pensaernol yr adeiladau. Cyn yr 20fed ganrif, ychydig iawn o ddatblygiad l-ganoloesol a fu y tu allan i'r craidd hanesyddol ac fe'i cyfyngir yn bennaf i New Street a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac aneddiadau a sefydlwyd ar y cyn-gaeau agored y tu hwnt i ffiniau'r ddinas. Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif adeiladwyd ystad tai, datblygiadau tai ar raddfa fach, ysgolion, modurdai, gwestai, cyfleusterau chwaraeon a mynwent ar gyrion y craidd hanesyddol.

Mae 119 o adeiladau rhestredig yn Nhyddewi. O fewn y clos mae eglwys y gadeirlan, Coleg y Santes Fair a'i gloestr, Palas yr Esgob a thai gwahanol archddiaconiaid, canonau a phrebendwyr, sydd at ei gilydd yn rhestredig Gradd I, II* a II, tra bod waliau'r clos, Porth y Tr, grisiau a phontydd yn rhestredig yn yr un modd. Mae'r 82 o adeiladau rhestredig o fewn y dref at ei gilydd yn dai trefol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac maent yn rhestredig Gradd II, er bod hen groes y farchnad, nifer o gapeli Anghydffurfiol a warws hefyd wedi'u cynnwys ar y rhestr.

Mae archeoleg a gofnodwyd at ei gilydd yn gysylltiedig 'r eglwys gadeiriol a'r clos canoloesol, Porth y Twr, Coleg y Santes Fair, pwll pysgod a pherllan y 'cantorion' yn y clos, y cynhaliwyd arolwg archeolegol manwl arnynt ond mae maen hir posibl o'r oes efydd ar gyrion dwyreiniol yr ardal, tra cofnodwyd darganfyddiadau o ddechrau'r cyfnod canoloesol o fewn y clos. Mae capel a ffynnon Whitewell yn gofrestredig, a chofnodwyd safle melin.

Er bod ffiniau pendant i'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol drefol hon, dros yr hanner canrif ddiwethaf maent wedi ymestyn gryn dipyn, ac erbyn hyn mae'n cwmpasu'r hyn a fu ar un adeg yn ardal o gaeau agored. Mae'n debyg y bydd ei ffiniau yn tresmasu ymhellach ar ardaloedd cyfagos yn ystod y degawdau sydd i ddod.

Ffynonellau: Boon 1986; Green 1927; Evans 1991; Fenton 1811; James 1981; James 1993; Jones a Freeman 1856; Soulsby 1983; Map a rhaniad degwm Tyddewi, 1840-41; Archifdy Sir Benfro D/RTP/HIG/13; Turner 2000; Willis Bund 1902

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]