Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

SARON - RHOS

SARON - RHOS

CYFEIRNOD GRID: SN379367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 82

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys coridor cul ar y naill ochr a’r llall i ffordd bresennol yr A484, sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de trwy ardal gymeriad Llangeler sydd o bobtu iddi. Cafwyd datblygiadau strimynnog ar hyd y ffordd yn yr 20fed ganrif, rhwng y ddau anheddiad Saron a Rhos sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’r ardal hon yn gorwedd o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir mae’r ardal gymeriad hon yn un o’r ardaloedd mwyaf adeiledig yn Uwch-Cych, ond mae’r datblygiadau i gyd yn rhai diweddar iawn. Yn 1839, cofnodwyd pedwar adeilad yn Saron, gerllaw’r A484, a adeiladwyd o’r newydd fel ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae’r adeiladau yn cynnwys Capel Saron, a sefydlwyd yn 1792. Mae’n amlwg bod y capel yn un o brif nodweddion yr ardal ac mae enw’r anheddiad yn deillio ohono. Mae’r adeiladau mewn tirwedd o gaeau a ffermydd gwasgaredig, sy’n dilyn echel y ffordd ac ymddengys i’r tir gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif sy’n golygu eu bod yn perthyn i’r un cyfnod â’r ffordd dyrpeg. Mae’r dirwedd yn Rhos yn wahanol. Yma ym mhen uchaf yr ardal gymeriad gerllaw rhostir agored gwelir patrwm o fythynnod gwasgaredig wedi’u gosod mewn caeau bach, afreolaidd eu siâp. Mae’n debyg i’r rhain gael eu sefydlu fel aneddiadau sgwatwyr neu dai unnos ar gyrion tir comin ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ar ddechrau’r 19eg ganrif. Datblygodd aneddiadau yn raddol trwy gydol y 19eg ganrif, ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif sefydlwyd eglwys fach, capel annibynnol ac Ysgol sul yn Rhos, ynghyd â rhagor o anheddau yn Rhos a Saron. Roedd yr aneddiadau hyn yn dal i fod yn fach iawn bryd hynny. Yn ystod tri degawd olaf yr 20fed ganrif ehangodd yr aneddiadau yn gyflym ac mae hyn wedi arwain at ddatblygiad llinellol parhaol bron o dai a byngalos ar hyd yr hen ffordd dyrpeg/A484.

SARON - RHOS

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad linellol ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd. Fe’i nodweddir yn bennaf gan dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif ond ceir rhai elfennau hþn. Gorwedda ar y naill ochr a’r llall i ffordd yr A484 ar lethrau esmwyth sy’n wynebu’r gogledd rhwng 160m uwchben lefel y môr yn Saron ac i fyny at 230m uwchben lefel y môr yn Rhos. Yn Rhos ceir dosbarthiad eithaf tynn o fythynnod a thai deulawr a adeiladwyd o gerrig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae gan rai adeiladau amaethyddol bach ynghlwm wrthynt neu’n agos atynt sy’n amlygu eu tarddiad amaethyddol. Cerrig yw’r deunydd adeiladu traddodiadol. Mae llechi dyffryn Teifi - wedi’u gosod fel cerrig llanw heb fod yn batrymog - yn fwy cyffredin ar lefelau is gerllaw afon Teifi, ac mae cerrig o ffynonellau lleol yn fwy cyffredin ar lefelau uwch tua phen deheuol yr ardal gymeriad. Lleolir dau gapel bach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ac Ysgol Sul yma hefyd. Mae tai modern, yn arbennig byngalos, yn mewnlenwi llawer o’r bylchau rhwng y tai hþn ar hyd y briffordd. Roedd Saron wedi’i ganoli’n wreiddiol ar y briffordd lle y ceir rhai o’r adeiladau hþn gan gynnwys terasau o fythynnod gweithwyr deulawr sydd wedi’u hadeiladu o gerrig ac wedi’u rendro â sment a chapel sylweddol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Lleolir ysgol yn dyddio o’r 20fed ganrif yma hefyd. Fodd bynnag, erbyn hyn tai modern ar hyd y briffordd ac ar lonydd cefn yw elfen amlycaf yr anheddiad, ac maent yn ffurfio strimyn di-dor bron o ddatblygiadau ar yr A484 o Saron i Rhos. Er nad yw’r ardal hon yn un amaethyddol ar y cyfan, ceir rhai elfennau tirwedd hanesyddol amaethyddol gan gynnwys: Lleiniau, tþ yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a chanddo adeiladau allan sydd yn yr un llinell ag ef a ffermdy yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif; ffermdai yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif yn arddull nodweddiadol y De-orllewin - sef adeiladau deulawr wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur - a gysylltir ag un neu ddwy res o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig, a chaeau a rennir gan wrychoedd ar gloddiau. Nid oes unrhyw archeoleg gofnodedig.

Diffinnir Saron – Rhos gan ddatblygiadau modern. Mae tai modern, yn arbennig mewn clystyrau neu ddatblygiadau llinellol yn brin yn yr ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol cyfagos.

Ffynonellau: Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Map degwm plwyf Llangeler 1839; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP SARON - RHOS

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]