Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

Tirweddau Hanesyddol Dre-Fach Felindre

Crynodebau yw rhain, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Mae Dre-fach Felindre yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol ddiwydiannol sy’n seiliedig ar y diwydiant gwlân. Mae melinau, tai gweithwyr, tai perchenogion, eglwysi a chapeli wedi’u hadeiladu o gerrig sydd wedi’u clystyru mewn nifer o bentrefi yn tystio i dwf cyflym y diwydiant hwn ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Dre-fach Felindre

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Dyffryn Bargod a Dyffryn Esgair gan goetir collddail ar lethrau serth uwchlaw aneddiadau diwydiannol Dre-fach a Felindre.

Dyffryn Bargod a Dyffryn Esgair

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Afon Teifi: Castellnewydd Emlyn – Llandysul yn cynnwys tir pori bras y gorlifdir. Ni cheir unrhyw dai ond cynhwysir dwy bont gerrig yn dyddio o’r 18fed ganrif.

Afon Teifi: Castellnewydd Emlyn – Llandysul

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Coed Mawr gan gaeau bach, rheolaidd eu siâp a grëwyd trwy Ddeddf Seneddol yn 1855 a choetir collddail.

Coed Mawr

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llangeler gan ffermydd gwasgaredig o fewn tirwedd o gaeau o dir pori a choetir ar lethrau mwy serth a rhai melinau gwlân a thai gweithwyr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw afon Teifi.

Llangeler

Er bod ffermydd bach, bythynnod ac adeiladau eraill yn tystio i’w tharddiad yn y 19eg ganrif, nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Saron –Rhos yn bennaf oll gan ddatblygiadau tai llinellol modern sy’n ymestyn am sawl cilomedr ar hyd priffordd yr A484.

Saron –Rhos

Ymddengys i ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Bwlch-Clawdd – Cwmbach ddatblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif pan sefydlwyd ffermydd a chaeau bach ar rostir agored. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn fodern. Cynhwysir dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a chlawdd Clawdd-Mawr yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol yn yr ardal hon.

Bwlch-Clawdd – Cwmbach

Crëwyd rhan helaeth o ardal gymeriad dirwedd hanesyddol bresennol Rhos Penboyr gan Ddeddf Seneddol yn 1866 a amgaeodd rostir agored i greu caeau. Ers hynny sefydlwyd ffermydd bach, planhigfeydd o goed coniffer, ‘llinell atal’ a adeiladwyd yn ystor yr Ail Ryfel Byd a thri thyrbin gwynt.

Rhos Penboyr

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Waunfawr yn deillio i raddau helaeth o Ddeddf Seneddol yn 1866 a amgaeodd rostir i greu caeau rheolaidd eu siâp ac a sefydlodd lonydd syth yn rhedeg ar ei draws. Sefydlwyd ffermydd bach ar ôl hynny. Mae dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd wedi goroesi o gyfnod llawer cynharach.

Waunfawr

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Penboyr gan ddosbarthiad agos o ffermydd bach mewn tirwedd o gaeau a rennir gan wrychoedd ar gloddiau. Ar wahân i ambell dþ modern, mae bron pob un o’r adeiladau yn yr ardal hon yn dyddio o’r 19eg ganrif.

Penboyr

Nodweddir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Bwlchydomen-Pentrecagal gan ffermydd gwasgaredig, caeau a choetir collddail ar lethrau serth, a gwasgariad o dai gweithwyr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw Dre-fach Felindre.

Bwlchydomen-Pentrecagal

Mae Rhyddgoed yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol gymharol fach ac mae’n cynnwys caeau rheolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif.

Rhyddgoed

Mae Henllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach ond cymhleth sy’n cynnwys pentref yn dyddio o’r 19eg sydd wedi’i ganoli ar hen reilffordd (sydd bellach yn llinell reilffordd dwristaidd) a gwersyll carcharorion rhyfel a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ynghanol coetir collddail a thir amaeth.

Henllan

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]

 

 

 

 

Henllan Afon Tefi Newcastle Emlyn - Llandysul Bwlchydomen-Pentrecagal Rhyddgoed Drefach-Felindre Dyffryn Bargoed, Esgar, Bran