MYNYDD MARROS
CYFEIRNOD GRID: SN 217088
ARDAL MEWN HECTARAU: 309.00
Cefndir Hanesyddol
Dangosodd arolwg archeolegol fod yr ardal hon, a oedd yn rhan o ddemên
Arglwyddiaeth Talacharn ac a oedd o dan ddeliadaeth faenoraidd, yn cael
ei thrin yn ystod yr Oesoedd Canol fel system caeau agored a oedd yn gysylltiedig
ag anheddiad bach. Fodd bynnag, erbyn 1595, a hyd yn oed yn gynharach
na hynny o bosibl, roedd yr ardal o dan gyfundrefn o dir pori garw neu
rostir - 'Mynydd' (Corfforaeth Talacharn) - ac roedd yr anheddiad wedi'i
adael yn wag (Murphy 1998). Yn y cyfnod Ôl-ganoloesol, yn ôl pob tebyg
mor ddiweddar â diwedd y 18fed neu ar ddechrau'r 19eg ganrif, codwyd nifer
o dyddynnod - Merrimans Gate, Thorning Pit a Chiliau-coch - allan o'r
rhostir (Map degwm Marros, tua 1840). Roedd nifer o gaeau bach yn amgylchynu
pob un o fythynnod cerrig y deiliadaethau hyn. Cefnwyd ar yr aneddiadau
hyn erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd sefydlwyd planhigfa
gonifferau ar draws rhan orllewinol Mynydd Marros, ac yn y 1980au dileewyd
llawer o'r dystiolaeth o system caeau agored yr Oesoedd Canol pan gafodd
y tir ei wella. Ar ôl gwella'r tir adeiladwyd nifer o ffermydd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r hen dirlun amaethyddol hwn yn gorwedd ar draws crib a thros lechweddau
bryn crwn sy'n wynebu tua'r gogledd a'r dwyrain ac yn amrywio o ran uchder
rhwng 70m a 145m. Mae'r rhan helaethaf o'r ardal yn cynnwys rhostir o
redyn ac eithin, er bod planhigfa goniffer drwchus wedi'i phlannu yn y
pen gorllewinol, a gwnaed llawer o welliannau diweddar ar yr ochr ddwyreiniol.
Mae'r gwelliant hwn yn cynnwys sefydlu nifer o ffermydd, rai ohonynt gydag
adeiladau amaethyddol sylweddol, yn gyflawn â systemau newydd o lwybrau
a systemau caeau. Mae'r ffermydd yn amrywio o adeiladau dros dro i dai
modern sylweddol. Ar gyrion gogleddol y Mynydd mae'r rhostir wedi'i droi
yn dir pori gwell a'i rannu gan ffensys gwifrau. Gorwedd terfynau isel
system gaeau ganoloesol ar y rhostir ac islaw'r goedwig.
Mae safleoedd archeolegol o fewn yr ardal yn nodweddiadol o dirluniau
rhostir ac yn cynnwys safleoedd posibl maen hir o'r Oes Efydd, cromlechi
crwn a chromlechi cylch, a safle anheddiad cynhanesyddol posibl. Cysylltir
safleoedd Canoloesol ac Ôl-ganoloesol yn bennaf â'r tirlun amaethyddol
creiriol ac maent yn cynnwys bythynnod a ffermydd gwag, cefnen a rhych,
a systemau caeau Ôl-ganoloesol. Mae yma hefyd safle cwrdd Morafaidd.
Nid yw un o'r adeiladau yn nodweddiadol.
Mae Mynydd Marros yn dirlun hynod hyd yn oed ar ôl ystyried gwelliant
diweddar i'r tir. Mae tir amgaeëdig o ansawdd uchel yn ffin iddo i'r de
ac i'r gogledd. Dim ond i'r de-ddwyrain lle mae'r Mynydd yn ffinio â llethr
arfordirol a dyffryn serth Morfa Bychan y ceir anhawster i bennu ffin
bendant.
|