Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

COEDWIG PENYBEDD

CYFEIRNOD GRID: SN 415017
ARDAL MEWN HECTARAU: 33.73

Cefndir Hanesyddo l
Am hanes cyffredinol tirlun Coedwig Penybedd gweler yr ardaloedd tirlun cyfagos. Mae'n wir mai Coedwig Penybedd yw cnewyllyn y llain o dir sych wrth droed Mynydd Pen-bre lle adferwyd y tir o'i gwmpas o'r 17eg ganrif ymlaen, ond nid ymddengys iddi fod yn rhan o Faenordy Canoloesol ac l-ganoloesol Caldicot (James 1991, 153). Ar fap degwm Pen-bre ym 1841 ac yn argraffiad cyntaf 6" Arolwg Ordnans 1891 gwelir yr ardal fel clwt bach o dir heb ei amgu. Fe'i plannwyd chonifferau ar l yr Ail Ryfel Byd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Yn yr ardal fach iawn hon o dirlun hanesyddol ceir planhigfa o gonifferau o gyfnod ar l yr Ail Ryfel Byd. Prin y gorwedd y tir uwch law lefel y mr, ac yn wahanol i'r ardaloedd o'i chwmpas nid yw'n cwmpasu mignen adferedig, ond yn hytrach twyni tywod isel. Defnydd economaidd cyfyng iawn sydd i ardaloedd o dywod a chwythwyd gan y gwynt, felly nid oedd yn agored i'w hamgu yn y cyfnod hanesyddol, ac o ganlyniad fe'i plannwyd ar gyfer coedwig. Sefydlwyd safle picnic bach yn y goedwig.

Nid oes unrhyw archeoleg wedi'i chofnodi o fewn yr ardal.

Nid oes adeiladau yno.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod gyda therfynau clir gydag ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys hen fignen amgaedig gynt, neu ddatblygu preswyl.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]