Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TWYNI TYWOD CYD-WELI

CYFEIRNOD GRID: SN 401064
ARDAL MEWN HECTARAU: 129.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fignen a bryniau tywod ar ochr ogleddol Aber Gwendraeth. Mae ei hanes yn gysylltiedig hanes bwrdeistref Cyd-weli, ac estroniaeth Llanismel y lleolir hanner gorllewinol yr ardal ynddi, ac effeithiwyd arni yn arbennig gan ddiwydiannu Cyd-weli yn ystod diwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Ym 1766 sefydlodd Thomas Kymer gei ar ochr ddeheuol aber Gwendraeth Fach, a chamlas (rheilffordd yn ddiweddarach, sydd bellach wedi diflannu) i gludo glo o'i byllau yn ardal Trimsaran/Pontiets, ac ym 1852 aed phrif linell y Great Western yng Ngorllewin Cymru drwy'r ardal (Ludlow 1999, 28). Sefydlwyd gweithfeydd briciau a gweithfeydd silica, sydd bellach wedi diflannu, nesaf at y llinellau rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ychydig o ddatblygu parhaol a fu yn ddiweddar; twristiaeth a hamdden yw'r prif weithgareddau bellach ac ers yr 1970au lleolwyd maes mawr i garafanau a chabanau gwyliau yn hanner gorllewinol yr ardal, tra adferwyd camlas a chei Kymer o dan y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr yn yr 1980au.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Ardal o fignen a bryniau tywod rhwng ychydig uwchlaw lefel y mr a 10 m, sydd gwreiddiau cynnar yn hytrach na diweddarach, gan fod y duedd ar ochr ogleddol Aber Gwendraeth yn un o erydu yn hytrach na dyddodi. Ym 1766-8 llwyddodd amgylchedd mwy sefydlog i ganiatu'r gwaith o adeiladu Camlas Thomas Kymer ac, ym 1852, prif linell rheilffordd y Great Western. Gorweddai gweithfeydd briciau a gweithfeydd silica 'Dinas' ar bob ochr i'r llinell reilffordd ar un adeg (Argraffiad Cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen LIII. NW, 1891). Mae morgloddiau'r 19eg a'r 20fed ganrif i'r de o'r ardal. Ar y cyfan amgaeir yr ardal gan derfynau syth o wrychoedd sy'n tyfu'n wyllt.

Dim ond y nodweddion a nodwyd uchod, hy. cei a chamlas Kymer, y rheilffyrdd, y gweithfeydd briciau a silica gynt, a'r morgloddiau, yw'r archeoleg yn yr ardal a gofnodwyd. Adferwyd cei Kymer ac mae rhai adeiladau cerrig yn gysylltiedig ag ef yno, sydd bellach yn segur.

Nid oes adeiladau nodweddiadol yno.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod o fryniau tywod a mignen, yn gorwedd rhwng morfa heli lleidiog sydd heb ei amgu a'r ddaear sy'n codi ac a amgaeir gan lechweddau i'r gogledd.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]