|
 |
|
Ar ochr y mynydd ar ymyl gorllewinol parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ceir tirlun rhyfeddol o glogwyni garw, twmpathau a chnyciau glaswelltog, ac adfeilion enigmatig. Am dros 200 o flynyddoedd roedd y safle hardd hwn yn ferw o weithgaredd diwydiannol, lle'r oedd calchfaen yn cael ei gloddio a'i brosesu i greu calch.
Mae CALCH yn brosiect newydd cyffrous fydd yn galluogi ymwelwyr i ddod a darganfod sut yr helpodd y diwydiant anghofiedig hwn i adeiladu Cymru!
Mae cyllid wedi'i sicrhau bellach ar gyfer Cam 2 y prosiect a byddwn ni'n gweithio i ddarganfod, dathlu ac atgyweirio adfeilion y diwydiant calch yn Chwarel Herbert.
Archwiliwch y wefan hon er mwyn darganfod mwy am y prosiect, hanes
y diwydiant calch a llawer o bethau diddorol iawn eraill am galch!
|
|
|

Edrych am ffosiliau ar daith dywys o Chwarel Herbert
|
NEWYDDION DIWEDDARAF
Yn dilyn blwyddyn brysur rydym ni'n falch i gyhoeddi bod Cam 1 o CALCH wedi'i gwblhau! Ewch at y tudalennau newyddion i weld beth sydd wedi bod yn digwydd . Edrychwch drwy'r wefan sydd wedi'i diweddaru i weld beth sy'n newydd! . Ewch i weld beth fydd yn digwydd yn 2013!
|
|
| |
| |
|