Paleolithig – dynion modern
Symudodd dynion modern i Brydain gyntaf yn ystod y Paleolithig Uchaf cynnar, adeg pan oedd
yr ia yn nesáu drwy’r amser ac, ar ei anterth, yn gorchuddio Cymru bron yn llwyr i drwch o ryw
300 metr. Dydyn ni ddim yn deall yn iawn sut y bu i ddyn modern gymryd lle’r Neanderthal, er y credir
bod y rheiny’n llai abl i ddygymod â’r newid hinsawdd. Trwy gyfrwng astudiaethau sy’n
mesur yr isotopau carbon a nitrogen a geir ym mhrotein esgyrn hynafol, casglwyd boddynion modern yn bwyta bwyd
amrywiol gan gynnwys cig, pysgod a bwyd môr tra bod ymborth y Neanderthal yn fwy cyfyng. Byddai hyn wedi
peri trafferth os oedd newid hinsawdd wedi golygu bod tipyn yn llai o’u bwyd arferol ar gael.
Daethpwyd o hyd i’r dyn modern cynharaf a ddarganfuwyd hyd yma yng
Ngorllewin Ewrop yn Ogof Pen-y-fai ar arfordir Penrhyn Gwyr. Dyddiwyd claddu’r ‘Ddynes
Goch’, sydd bellach wedi’i adnabod fel gwr ifanc, i 29,000 o flynyddoedd yn
ôl.
Y darn hynaf y gwyddom amdano o gelf Gymreig yw asgwrn gên ceffyl
wedi’i ysgythru â phatrwm igam-ogam, a ddyddiwyd yn ddiweddar i ryw 13,500 mlynedd
yn ôl. Cafodd ei ddarganfod yn Ogof Kendrick ger Llandudno, ynghyd ag esgyrn pedwar
o bobl. Credir bod y bobl wedi cilio o flaen y llen ia wrth iddo symud tua’r de ar
draws Ewrop a gadael Prydain heb neb yn byw ynddo am ryw 10,000 o flynyddoedd. Serch hynny,
efallai fod pobl wedi dal ati i ymweld â rhai ardaloedd, gan gynnwys de a de-orllewin
Cymru, yn dymhorol, hydyn oed yn anterth yr oerfel.
|