Adeiladwyd tollbyrth mewn amryw o leoliadau i godi ffi ar y certiau calch am ddefnyddio'r ffyrdd. Byddai ffermwyr yn aros gyda'u certiau ger y tollbyrth yn gynnar yn y bore i geisio lleihau'r costau drwy gwblhau eu taith mewn un diwrnod.
Cofnodwyd hanes lliwgar taith o'r fath ddiwedd y 19eg ganrif gan W Llywelyn Williams yn ei gyfrol 'Slawer Dydd'. Dyma grynodeb o'r daith honno:
'Wil y Waginer'
Er mwyn cyrraedd yr odynau erbyn iddi wawrio ddydd Llun, roedd rhaid i Wil gychwyn ar ôl hanner nos er mwyn peidio â thorri'r Saboth. I arbed amser byddai'n harneisio pedwar ceffyl i'w wagen bedair olwyn cyn nos Sul. I baratoi at y daith roedd Wil wedi bod yn dwyn ceirch i'w rhoi i'r ceffylau i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o egni at y ras. Roedd y wagen oedd wedi'i pheintio'n goch, gwyn a glas, a'r ceffylau â phlethi yn eu myngau a'u cynffonnau, yn edrych yn ysblennydd wrth gychwyn fel mellt am hanner nos.
Wrth aros yn ddiamynedd yn Abermarlais i'r hen wr agor y tollborth, clywodd Wil fod wagenni o Gwmbrân a Glandulais wedi pasio drwodd ddeng munud ynghynt. Felly cyn gynted ag y talodd y doll a derbyn y pas, rasiodd Wil ei gert ar wib nes bod y ddaear yn crynu wrth iddyn nhw garlamu drwy Langadog. Roedd yn wyrth na chafwyd unrhyw ddamweiniau wrth i Wil rasio yn y tywyllwch drwy Gwm Sawdde, i geisio goddiweddyd ei gydweithwyr ar y ffyrdd cul. Ond wrth i'r ffordd ddechrau codi ar lethrau'r Mynydd Du llwyddodd Wil i basio wagenni Cwmbrân a Glandulais, a hanner dwsin o rai eraill, gan sicrhau mai ei wagen ef oedd y gyntaf i gyrraedd yr odynau gyda'r wawr! |