Afon Tywi yw un o afonydd mwyaf dynamig Cymru ac mae archwilio’r gwaddodion
a gedwir ar lawr ei dyffryn yn datgelu hanes o erydu, dyddodi a gorlifo yn dyddio’n ôl i ddiwedd
y rhewlifiant diwethaf. Mae’r archwilio hwn ar astudio gwaddodion gorlifdir yn dangos sut mae newid
hinsawdd a gorchudd tir wedi effeithio ar ymddygiad yr afon yn ystod y milenia diwethaf.
Wrth i Afon Tywi symud ar draws ei gorlifdir mae gwaddodion yn cael eu dyddodi gan y dwr
araf ei lif. Mae cyfnodau byrrach o lif cyflymach yn achosi erydu, sy’n torri i waelod y dyffryn mewn
proses a elwir yn “dyrchu”. Mae’r broses hon wedi ffurfio grisiau o derasau. Mae’n
debyg i’r hynaf o’r rhain ffurfio mwy na 12000 o flynyddoedd yn ôl a’r diweddaraf
yn y 200 mlynedd diwethaf. Mae union oed terasau uchaf a hyna’r afon yn anhysbys, ond mae dyddio radiocarbon
ar ddeunydd organig a gafwyd mewn gwaddodion yn hen sianelau’r afon 1.5 metr uwchben gwely’r afon
heddiw yn arwyddo bod y cyfnod mawr diwethaf o dyrchu’r afon rhwng tua 4700 a 3850 o flynyddoedd yn
ôl, rhwng yr Oes Neolithig ddiweddar a’r Oes Efydd gynnar.
Yn ystod y tri mileniwm a hanner wedi hynny roedd yr afon yn erydu ac yn dyddodi gwaddodion
ar lawr ei dyffryn tan ychydig cyn y 18fed ganrif pan dorrwyd hi at ei lefel bresennol. Mae mapiau hanesyddol
o’r 19eg ganrif a lluniau mwy diweddar o’r awyr yn caniatáu i symudiadau’r afon,
erydu’r glannau a’r dyddodi graean yn ystod y 150 mlynedd diwethaf gael eu cofnodi’n eithaf
manwl.
Roedd newidiadau o bwys yn ymddygiad yr afon yn dylanwadu ar weithgaredd dynion ac ar batrymau
anheddu yn Nyffryn Tywi. Er bod rhai safleoedd archaeolegol wedi eu colli wrth i’r afon symud ar draws
y dyffryn, mae rhai o’r terasau hynaf yn diogelu olion byw yn yr Oes Efydd.
Is-lwythwch yr adroddiadau llawn mewn ffurf PDF - pob ffeil yn agored mewn ffenestr newydd,
Saesneg yn unig.
Adroddiad Geomorffoleg
Adroddiad Llif
Atodaid 1 - Mapiau Geomorffolegol
Atodaid
2 - Adroddiadau GPR
Atodaid
3 - Mapiau Newidiau Sianel yr Afon
Atodaid
4 - Troshaenau Newidiadau Sianel yr Afon
|