Trwyn Du, Ynys Môn
Yn aml, daw archeolegwyr ar draws tystiolaeth o weithgaredd Fesolithig
ar hap wrth gloddio safleoedd diweddarach amlycach, fel y digwyddodd ar safle Rhuddlan ganoloesol,
y soniwyd amdano yn y cyflwyniad i'r rhan yma, ac yn Nhrwyn Du, Ynys Môn. Yn yr achos
hwnnw, cofnodwyd olion o sefydliad Mesolithig yn dyddio rhwng 8,000 a 9,000 o flynyddoedd
yn ôl, yn gorwedd o dan domen gladdu o’r Oes Efydd, a oedd dan fygythiad gan
erydu arfordirol. Serch hynny, byddai’r bobl fu’n byw yn Nhrwyn Du adeg y Mesolithig
cynnar, wedi bod yn byw mewn dyffryn rhyw 7km o’r môr. Cafodd y safle ei adnabod
am fod yno dros 5,000 o ddarnau o fflint, gan gynnwys pigau a chrafwyr, ynghyd ag offer
arall, yn cynnwys dwy fwyell garreg. Awgrymodd y cloddwyr fod dau bydew yn llawn o fflint
wedi cynnal pyst ar gyfer lliain wynt i warchod y gweithwyr fflint yn ystod gwneud yr offer
cerrig. Oherwydd bod cynifer o fflintiau o fathau gwahanol yma, mae’n debygol fod
y safle wedi’i ddefnyddio’n dymhorol am gyfnod maith.
Gorwedd safle Mesolithig Trwyn Du o dan garn o’r Oes Efydd a adeiladwyd
ryw 4,000 mlynedd yn ôl. Cafodd ei gloddio yn 1974 pan ddaeth yn amlwg fod y safle
o dan fygythiad gan erydiad arfordirol
(Llun Amgueddfa Cymru)
|