HELPWCH NI I GOFNODI COFEBION Y RHYFEL BYD CYNTAF
Rydym ni'n edrych ar sut cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ei goffáu mewn cymunedau ledled de-orllewin Cymru. Rydym ni'n cofnodi pob math o gofebion rhyfel. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn henebion carreg neu'n blaciau, ond weithiau, gallant fod yn adeiladau cyhoeddus – y cânt eu galw'n Memorial Hall neu Neuadd Goffa yn aml.
Hoffem gael eich help i gofnodi'r henebion hyn, ac os oes gennych chi gamera (mae camerâu'r rhan fwyaf o ffonau yn ddigonol), ac yr hoffech anfon lluniau atom, gwnewch hynny.
Dyma beth sydd angen i ni ei wybod:
• Ble mae'r gofeb?
Anfonwch fanylion ei lleoliad; naill ai cyfeiriad grid, hydred a lledred (sydd ar gael ar Google maps - edrychwch ar yr awgrymiadau) neu gyfeiriad.
• Llun i ddangos y gofeb gyfan yn ei lleoliad – efallai ei fod yn eistedd y tu mewn i le caeedig, neu blac sydd wedi'i leoli mewn safle amlwg ar adeilad cyhoeddus.
• Lluniau o'r arysgrifau, yn ddigon agos i allu eu darllen nhw, yn ddelfrydol. Gall y rhain gynnwys anafedigion rhyfeloedd eraill, fel Rhyfel Boer (1899-1902), neu'r Ail Ryfel Byd.
• Os oes arysgrif o saer maen y gofeb, a wnewch chi dynnu llun o honno hefyd.
• Tynnwch luniau o unrhyw bwyntiau o ddiddordeb eraill y byddwch yn sylwi arnynt.
• Anfonwch eich lluniau atom mewn neges e-bost neu ar CD - gweler y manylion cyswllt isod.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei hychwanegu at Gofnod yr Amgylchedd Hanesyddol, a fydd ar gael ar y wefan: www.archwilio.org.uk
Os hoffech wneud cofnod manylach, lle cofnodir maint, ffurf ac adeiladwaith y gofeb, cysylltwch â ni.
Efallai eich bod chi'n rhan o grwp sydd wedi cyflawni eich gwaith ymchwil eich hun i gofebion lleol? Os ydych chi, hoffem glywed gennych.
Alice Pyper a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk
01558 825993
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Corner House
6 Stryd Gaerfyrddin
Llandeilo
Sir Gar
SA19 6AE
|