2014

Prosiect CALCH Cam 2: 2013
(Gyda chyllid o Gronfa Ardoll Agregau ar gyfer Cymru, Cronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Bannau Brycheiniog a Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw)

 

Gwyl Archaeoleg Prydain

Er mwyn dathlu Gwyl Archaeoleg 2013 darparodd prosiect CALCH arddangosfa, teithiau tywys ac adrodd storïau o gwmpas Chwarel Herbert. Roedd CALCH hefyd ar y safle. Daeth tua 80 o bobl i'r digwyddiad dros y penwythnos.

Gweithdy Cyfryngau Digidol

Rhoddodd gweithdy dan arweiniad y gwirfoddolwr Colin Jones gyflwyniad i gynhyrchu ffilm a chyfryngau digidol gyda'r bwriad o greu cofnod fideo o ddigwyddiadau prosiect CALCH.

Gweithdy Celf i'r Teulu

Cynhaliwyd gweithdy celf i'r teulu gyda'r artist lleol Katie Jane Vickers yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman. Creodd y plant (a rhieni!) “ddarnau cyfryngau cymysg” gan ddefnyddio mwd, carreg galch a cherrig o'r mynydd ei hun, yn ogystal â siarcol, pensiliau, a phaent. Gobeithiwn arddangos y gwaith hwn yn y dyfodol.

Eitem ar Prynhawn Da

Ffilmiodd y rhaglen gylchgrawn deledu Gymraeg Prynhawn Da eitem newyddion 5 munud ar brosiect CALCH i wahodd pobl i ymweld â'r chwareli.

Grwp Sgowtiaid Tycroes

Gydag ymweliad â'r chwarel a gweithdai dan do, gweithiodd CALCH gyda Grwp Sgowtiaid Tycroes i'w galluogi i ennill eu bathodynnau ‘Gweithgaredd Treftadaeth' a ‘Gweithgaredd Artist'.

Diwrnod Agored Hostel ieuenctid Llanddeusant

Ymunodd CALCH â Diwrnod Agored Hostel Ieuenctid gydag odyn ar gyfer gwneuthurwyr calch y dyfodol! Roedd y Diwrnod Agored yn brysur iawn er gwaetha'r glaw, a gweithgaredd yr odyn model yn boblogaidd iawn!

Profiad Gwaith

Daeth myfyrwyr profiad gwaith o ysgolion lleol i wneud gwaith maes a chofnodi odynau gyda CALCH.

Ymchwil Gwirfoddol

Ymwelodd gwirfoddolwyr ymroddedig CALCH â Swyddfa Gofnodion Caerfyrddin i ymchwilio i'r diwydiant carreg galch, yr ymddiriedolaethau tollbyrth, Terfysgoedd Beca a briciau ffwrnes.

Diwrnod Darganfod Treftadaeth Carreg Galch Llangadog

Ym Mai fe wnaethom gynnal Diwrnod Darganfod Treftadaeth Carreg Galch ar gomin Llangadog fel rhan o Wyl Geoparc Fforest Fawr. Er bod y tywydd yn ddiflas daeth llawer o ymwelwyr gwydn i ddysgu am dreftadaeth carreg galch y Mynydd Du trwy arddangosfeydd, sgyrsiau, adrodd storïau, gweithgareddau plant a theithiau cerdded.

Gwaith maes – Mawrth

Helpodd grwp gwydn o chwech o wirfoddolwyr lleol i wneud cofnod manwl o odynau calch a'r adeilad bloc swyddfeydd lle bydd y gwaith cadwraeth yn digwydd. Er gwaetha'r tywydd ofnadwy – eira, corwyntoedd, a glaw trwm - cyflawnwyd llawer a gwerthfawrogwyd y cymorth yn fawr!

Gwaith maes – Mai

Ym Mai, gyda thywydd gwell, dychwelodd ein gwirfoddolwyr a chwblhau cofnodion yr odynau a'r bloc swyddfa. Cloddiwyd ffosydd bach ar ben y tri odyn, a glustnodwyd ar gyfer cadwraeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gwaith Cadwraeth

Dechreuwyd y gwaith trwsio a diogelu'r tri odyn mwyaf a'r mwyaf cyflawn ac i leihau waliau'r bloc swyddfa a pheiriandy yn ystod yr haf. Cafwyd cynnydd da, ond yn anochel daeth y glaw, a bydd yn rhaid cwblhau'r gwaith yn y gwanwyn.

Teithiau Cerdded a Sgyrsiau

Cynhaliwyd teithiau cerdded a sgyrsiau amrywiol ar hyd 2013 i bobl a grwpiau lleol yn cymryd diddordeb, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog; grwpiau U3A Porth Tywyn ac Aberhonddu; Grwp Treftadaeth Ddiwydiannol Sir Benfro; Panel Hanes Diwydiannol Cymru; Probus Rhydaman; Ymddiriedolaeth Ddinesig Llandeilo; Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed; Diwrnod Archaeoleg Caerfyrddin; Cymdeithas Porwyr y Mynydd Du.

Mynychodd Calch sawl digwyddiad treftadaeth gan gynnwys y Sioe Frenhinol Cymru, Cymdeithas Hanes Teuluol Dyfed a Gŵyl Threftadaeth Llanelli.

 

Digwyddiadau eraill

Dangoswyd arddangosfa bosteri am CALCH a diwydiant carreg galch y Mynydd Du yng Ngwyl Treftadaeth Llanelli, Diwrnod Hanes Teuluoedd Dyfed yng Ngwbert, digwyddiad ‘Yn ôl i Ddoe' yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman, y Sioe Amaethyddol Frenhinol a symposiwm Cymdeithas Genedlaethol Mudiadau Hanes Cloddio yn Aberystwyth . Daeth llawer i'r digwyddiadau hyn a chafwyd cyfleoedd da i godi ymwybyddiaeth am y prosiect .

Rhaglen Ysgolion

Yn 2013 aeth Sarah, ein swyddog lleoliad Cyngor Archaeoleg Prydain ar raglen brysur o deithiau safle a gweithdai dosbarth, i godi ymwybyddiaeth am Chwareli'r Mynydd Du ymhlith ysgolion lleol, ac i'n helpu i ddatblygu pecyn addysg fydd yn galluogi athrawon i ddefnyddio'r chwareli i ddysgu amrywiol bynciau, neu am ddiwrnod o hwyl yn yr awyr agored i'w disgyblion. Cymerodd dros dri chant o ddisgyblion ran, gan gynnwys Grwp Addysg Cartref Dinefwr, Ysgol Baratoi Llanymddyfri, Ysgol Gynradd Llandeilo, Ysgol Tycroes, Ysgol y Bedol, Ysgol Dyffryn Aman ac Ysgol Penrheol. Yn ystod eu hymweliadau dysgodd disgyblion am dreftadaeth ddiwydiannol y Mynydd Du, a sesiynau dosbarth wedyn ar bynciau'n amrywio o hanes, cemeg a chelf. Cynhyrchwyd rhai campweithiau gwych!

Cafwyd llawer o waith hefyd ar adrodd am yr holl ymchwil dogfennol, gwaith arolwg, cloddiadau a chynllunio a datblygu paneli dehongli, marcwyr llwybr i'r teithiau hunan dywys, llyfrynnau a thaflenni ac yn y blaen. Mae llawer i'w wneud o hyd yn 2014!