|
Ym
mis Mawrth a mis Mai 2014, fe gynhaliwyd
diwrnodau casglu sbwriel. Bu gwirfoddolwyr
yn helpu clirio sbwriel o
Chwareli y Mynydd Du.
|
Rhoddwyd cyflwyniad CALCH
i 80 o fynychwyr yn ystod Diwrnod
Treftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
a gynhaliwyd yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.
|
|
Fe gynhaliwyd
dwy sesiwn gan Clwb Archeolegwyr Ifanc
Bannau Brycheiniog am y diwydiant calch
a Prosiect CALCH. Fe wnaethynt fwynhau dysgu
am galch a'i ddefnydd, ac ymweld â
Chwareli y Mynydd Du.
|
Fe
rhoddwyd sgwrs am gynnydd prosiect CALCH
i'r Grŵp
Treftadaeth Brynaman yng Nghanolfan
y Mynydd Du.
|
Fe rhoddwyd sgwrs ar
ddiwydiant calch y Mynydd Du i'r
Grŵp
Treftadaeth Trapp.
|
|
Daeth cangen Aberhonddu
o Brifysgol y Drydedd Oes am daith o amgylch
Chwareli y Mynydd Du.
|
Fe
gafodd yr 'UK National Parks Historic
Environment Group' taith astudiaeth o'r Chwareli
fel rhan o'u hymweliad â Pharc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
|
|
Gwariodd
gwirfoddolwyr o Fanc Lloyds y dydd ar y mynydd
yn symud creigiau i nodi'r llwybr
ac adeiladu meinciau picnic!
|
|
Gyda chymorth
ein gwirfoddolwyr, fe dreuliwyd dau ddiwrnod
yn symud a threfnu y cerrig calch sydd yn
marcio'r ffordd rownd y llwybr taith gerdded
sy'n ymdroelli drwy'r chwareli.
|
|
Mynychodd
CALCH Diwrnod Gweithgareddau
Geoparc y Fforest Fawr a gynhelir
ym Mharc Gwledig Craig y Nos. Roedd yn ddiwrnod
brysur iawn a fe wnaeth dros 800
o bobl ddysgu am y prosiect.
|
|
Cynhaliwyd
Diwrnod Treftadaeth Calch ar
Gomin Llangadog ym mis Mehefin, ac yn ystod
y dydd fe gawsom arddangosfeydd am CALCH,
Geoparc y Fforest Fawr, arddangosfa llosgi
calch gan Calch Tŷ Mawr a'r ceffylau
a'r marchogion y 'Welsh Horse Yeomanry'.
|
|
Fe recordiwyd
rhaglen am y prosiect CALCH ar gyfer 'Country
Focus' a gyflwynwyd gan
Rachael Garside ar BBC Radio Wales .
|
|
Yn ystod
Gŵyl y Mynydd Du fe welsom
archeoleg arbrofol ar thema
calch, arddangosfeydd gwneud gwydr, gwneud
sebon, a gweithio haearn; rhagolwg o'r paneli
dehongl ar y safle, gwaith celf lleol
o amgylch y safle a cherddoriaeth fyw!
|
|
Fe wnaethom
helpu recordio erthygl arall ar y Prosiect
CALCH ar gyfer y rhaglen deledu Gymraeg 'Prynhawn
Da'.
|
|
Tuag at diwedd
y prosiect cafodd y paneli dehongl eu gosod
ar y safle. |
|
Mae'r marcwyr
llwybr wedi cael eu gosod hefyd, a gallwch
nawr wrando ar sylwebaeth difyr
ar ein app sain wrth i chi gerdded o gwmpas
y safle.
Gallwch lawrlwytho yr app yma:
www.breconbeacons.org/blackmountainquarries |
|
Ym mis Medi,
cafodd y Llwybr Chwareli y Mynydd Du ei hagor
yn swyddogol gan John Griffiths, AC y Gweinidog
dros Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon;
John Cook, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Duncan
Schlee o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
a Roy Noble.
|
|
Mae arddangosfa
clyweledol wych am Chwareli y Mynydd Du
yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman lle
rydych yn gallu cael gwybodaeth am ymweld â'r
safle, a chael paned a rhywbeth i fwyta!
|
|
Gallwch nawr
lawrlwytho'r gwybodaeth ar gyfer ymweliad â
Chwareli y Mynydd Du:
|
|
Mae llyfryn
a canllaw am y llwybr ar gael o
Ganolfannau Gwybodaeth Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog, neu gall ei lawrlwytho
o:
|
|
Mae Chwareli
y Mynydd Du hefyd yn ymddangos ar YouTube!
|
|
Rydym nawr
wedi cwblhau adnoddau addysgol helaeth ar
gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3. Gall y dogfennau
gael eu lawrllwytho o'r wefan hon.
|