ABERTEIFI

ABERTEIFI

CRYNODEB

Ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, sefydlodd yr Eingl-Normaniaid gastell yn Aberteifi, ac yn ddiweddarach datblygodd anheddiad, a thref wedyn, yn gyflym y tu allan i’w gatiau. Ymosododd y Cymry ar y castell a’r dref ar sawl achlysur, a’r ymosodiad enwocaf oedd yr un yn 1136. Fodd bynnag, ffynnodd y dref ac roedd 110 o fwrdeisiaid yn byw yn nhref gaerog Aberteifi yn 1268. Dirywiodd y dref yn ystod blynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg, ac nid adferodd tan y cyfnod ôl-ganoloesol. Cafodd dyddodion archaeolegol haenedig o’r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach eu cofnodi o ganlyniad i sawl ymchwiliad archaeolegol graddfa fach yn y dref, ond nid oes unrhyw gloddiadau sylweddol wedi cael eu cynnal.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Bwrdeistref. Siarter tref 1284. Marchnad wythnosol a ffair flynyddol.

Maint: 1268 130 o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: Cofnodwyd dyddodion canoloesol mewn sawl ymyriad graddfa fach.

LLEOLIAD

Mae tref Aberteifi wedi’i lleoli ar ffin ddeheuol Ceredigion, yn y man pontio isaf dros Afon Teifi, tua 3 km o’r môr agored (SN 178 461). Mae yma lwybrau cyfathrebu da i’r gogledd i ardaloedd arfordirol Ceredigion, i’r de i Hwlffordd ac Abergwaun, ac ar hyd Dyffryn Teifi i’r dwyrain.

HANES

Yn 1093, cafodd Ceredigion ei goresgyn gan Roger o Drefaldwyn, a sefydlodd gastell ar aber Afon Teifi. Mae union leoliad ei gastell yn ansicr, ond mae llawer o awduron wedi cysylltu’r gwrthgloddiau yn Hen Fferm y Castell, 1 km i lawr yr afon o Aberteifi, â chastell Roger. Er bod hyn yn bosibl, mae’r un mor bosibl bod castell Roger ar safle castell presennol Aberteifi. Cefnwyd ar ei gastell yn dilyn ei farwolaeth yn 1094. Tua 1110, ailgoncrwyd Ceredigion gan Gilbert fitz Richard, ac adeiladodd gastell yn Aberteifi. Ymhen ychydig flynyddoedd, datblygodd anheddiad yno a sefydlwyd eglwys – a dyma oedd dechreuad tref Aberteifi. Roedd y Cymry, a oedd wedi colli eu tiroedd, wedi ymladd yn ôl ac ymosod ar y castell a’r dref ar sawl achlysur. Roedd ymosodiad 1136 yn arbennig o waedlyd gan i ddynion, menywod a phlant yn y dref gael eu lladd. Ni chwympodd y castell. Mae cofnodion cyfoes yn datgelu presenoldeb pont adeg yr ymosodiad hwn. Yn 1165, cipiodd Rhys ap Gruffudd Aberteifi, gan ei gwneud yn gymuned Gymreig. Roedd hyn yn anghyffredin gan nad oedd y Cymry yn breswylwyr trefol. Ddiwedd y ddeuddegfed ganrif a dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, pendiliodd Aberteifi rhwng rheolaeth y Cymry a’r Saeson, a hynny tan 1241, pan ddaeth dan reolaeth frenhinol uniongyrchol Lloegr.

Yn Aberteifi tua 1115, ar dir i’r dwyrain o’r castell, sefydlodd Gilbert fitz Richard Briordy Benedictaidd, ar y cyd ag eglwys gysylltiedig y Santes Fair. Cafodd y cyfan ei ddiddymu yn 1538. Rhoddwyd ail eglwys i Aberteifi, sef y Drindod Sanctaidd, ac mae trafodaeth helaeth wedi bod ar ei lleoliad gan nad oes dim ohoni’n goroesi bellach. Mae llawer o awdurdodau’n ei gosod y tu allan i’r dref. Fodd bynnag, mae yna dystiolaeth argyhoeddiadol yn bodoli fod ei lleoliad yn lle’r farchnad yn y dref. Cofnodwyd ysbyty o’r enw Hosbis Maudlyn yn Stryd y Santes Fair; fe’i diddymwyd yn 1536.

Rhoddodd Edward I siarter tref i Aberteifi yn 1284, a oedd yn ailddatgan yr hawl i gynnal marchnad a ffair. Mae hawl Aberteifi i amddiffyn y dref â muriau yn dyddio o 1281. Fodd bynnag, roedd y dref yn sicr yn dref gaerog erbyn y dyddiad hwn, ac felly diben y grant fyddai estyn yr amddiffynfeydd a oedd mewn bodolaeth neu ddisodli amddiffynfeydd pridd a phren â rhai carreg. Bwriad Edward oedd y byddai’r ddau grant hyn yn annog mewnfudwyr i’r dref ac yn sbarduno twf.

Daw ein gwybodaeth am hyd a lled Aberteifi o ddau arolwg a gynhaliwyd yn 1268 ac 1301. Arolwg 1302 oedd yr un mwyaf manwl. Yn 1268, cofnodwyd 130 o diroedd bwrdais; roedd 15 ohonynt wedi’u lleoli y tu allan i Borth y Dwyrain (neu Borth y Blaidd), rhwng y gât a’r priordy, tair y tu allan i Gât y Bont, a phedair yn Stryd Fenny, ardal isel i’r dwyrain, y tu allan i amddiffynfeydd y dref. Roedd nifer y bwrdeisiaid tua 110, ac roedd sawl unigolyn wedi caffael llawer o diroedd bwrdais: roedd gan Walter Blakeney bump a hanner ac roedd gan John y Cymro bedwar a hanner.

Erbyn 1301, roedd nifer y tiroedd bwrdais a bwrdeisiaid a gafodd eu cofnodi yr un faint â’r nifer a gofnodwyd yn 1268, ond roedd yna newidiadau wedi bod o ran cynllun y dref, a olygai bod deg yn llai o diroedd bwrdais y tu mewn i furiau’r dref. Roedd sawl bwrdeisiwr yn ddeiliad mwy nag un llain tir bwrdais. Er enghraifft, roedd Walter Blakeney, Cwnstabl Castell Aberteifi yn ddiweddarach, yn dal bloc o naw ar y Stryd Fawr ac yn talu 8d yn ychwanegol am ‘pro duobus capitibus domus sue’, sydd, fwy na thebyg, yn golygu tŷ â dau dyred. Roedd rhai rhannau o’r dref yn cynnwys lleiniau gwag, yn union fel y sefyllfa ychydig flynyddoedd ynghynt, ac yn 1298-1300 cofnodwyd chwe deg wyth o diroedd bwrdais gwag.

Yn yr un modd â threfi eraill, byddai pla 1348-9 wedi cael effaith ddinistriol ar y dref. Dirywiodd Aberteifi yn raddol. Yn ystod y bymthegfed ganrif, roedd nifer y tiroedd bwrdais a oedd ar gael i’w rhentu wedi gostwng neu wedi cael eu cofnodi’n rhai gwag a oedd wedi dirywio.

Mae map 1610 John Speed yn dangos tua 110-120 o dai y tu mewn i’r dref gaerog. Nid oes dim tai yn cael eu dangos ar Lôn Siawnsri/Stryd Souter, ac mae nifer ar ochr orllewinol y Stryd Fawr, yn y pen gogleddol, yn adfeilion. Mae dros gant o dai i’w gweld ar hyd sawl stryd rhwng Porth y Dwyrain ac Eglwys y Santes Fair, ac mae tua deg tŷ wedi’u lleoli y tu allan i Borth y Gogledd. Ar y cyfan, mae map Speed yn dangos tref boblog, er bod yna rai pocedi o leiniau gwag; mae’n anodd cysoni hyn ag adroddiad diweddarach, yn yr ail ganrif ar bymtheg, sy’n nodi bod Aberteifi ‘enhabited the number of fyti and five households and as many and more decaye and late habitations’.

MORFFOLEG

Mae Castell Aberteifi yn tra-arglwyddiaethu ar ben deheuol y dref, er bod llawer o’r hyn sy’n weladwy o’r tu allan yn ganlyniad i waith ailadeiladu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er gwaethaf ymchwiliadau archaeolegol yn ystod gwaith adfer diweddar, mae yna lawer o elfennau sydd heb eu datrys mewn perthynas â’r castell – tybir bod y brif gât ar yr ochr ogleddol-orllewinol; beth oedd statws yr ardal agored rhwng y castell a Stryd y Santes Fair? Tybed ai yma yr oedd yr anheddiad cynharaf, a ddatblygodd yn fuan ar ôl 1110?

Map yn dangos Aberteifi fel yr oedd, o bosibl, yn 1136.

Pan ymosododd y Cymry yn 1136, gwyddom fod y castell wedi hen sefydlu, fod tref wedi datblygu, fod yna bont dros Afon Teifi (efallai i fyny’r afon o’i lleoliad presennol), a bod y priordy ac Eglwys y Drindod Sanctaidd, yn ôl pob tebyg, mewn bodolaeth. Mae’n debygol hefyd fod y dref yn dref gaerog. Mae’r lleiniau adeiladu i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o’r castell yn afreolaidd a bach, sef canlyniad datblygiad naturiol heb ei gynllunio ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, ac mae yna gyferbyniad rhyngddynt a’r lleiniau tir bwrdais mwy rheolaidd sydd i’r gogledd, ar hyd y Stryd Fawr ac i’r gorllewin ar hyd Stryd y Cei – cynlluniwyd a sefydlwyd y rhain yn ddiweddarach yn y ddeuddegfed ganrif neu yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Map yn dangos Aberteifi fel yr oedd, o bosibl, c.1320. Sylwch ar y diffyg tai yn rhai o’r tiroedd bwrdais.

Mae dadansoddiad o arolygon 1268 ac 1301 yn rhoi darlun cliriach o dopograffeg y dref. Erbyn hyn, roedd mur a gatiau’r dref wedi bod yn eu lle ers sawl degawd. Y dopograffeg, i raddau, oedd wedi pennu eu lleoliad; maent yn goroesi’n arbennig o dda i’r dwyrain, lle maent wedi cael eu dynodi’n heneb gofrestredig, ac mewn mannau eraill mae eu llwybr wedi cael ei ffosileiddio yn rhan o ffiniau eiddo, a gellir ei olrhain gyda chryn hyder. Mae lleoliad gatiau’r dref wedi cael ei sefydlu, er nad oes dim yn goroesi ohonynt uwchben y ddaear erbyn hyn. Nid yw bob amser yn bosibl cysoni nifer y tiroedd bwrdais a gofnodwyd mewn arolygon canoloesol â’r dopograffeg. Mae’n debygol bod Eglwys y Drindod Sanctaidd wedi’i lleoli’n agos at y Groes a’r farchnad – adroddir bod claddedigaethau wedi cael eu darganfod yn yr ardal hon. Ac eithrio tiroedd bwrdais ar Stryd y Santes Fair i gyfeiriad y priordy, ac ychydig mwy y tu allan i Gât y Bont a Stryd Fenny, roedd poblogaeth gyfan Aberteifi yn byw mewn tai y tu mewn i furiau’r dref. O wybod bod y dref wedi dioddef o ddiboblogi o’r 1340au ymlaen, mae’n debygol bod ardaloedd y tu mewn i furiau’r dref wedi parhau’n anghyfannedd trwy gydol y cyfnod canoloesol diweddarach. Fodd bynnag, erbyn dechrau’r ail ganrif ar bymtheg, o leiaf, ac o bosibl yn gynharach, roedd tai wedi cael eu hadeiladu y tu allan i’r dref gaerog, i’r dwyrain, i gyfeiriad y priordy/Eglwys y Santes Fair. Ers hynny, mae’r dref wedi ehangu i’r gorllewin, y gogledd a’r dwyrain, ac ar draws yr afon i’r de.

 

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru