Gallwch wirfoddoli i’n helpu gyda’n gwaith yn y swyddfa yn Llandeilo ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gael profiad gwaith. Os na allwch deithio, mae rhai gweithgareddau y gallwch eu gwneud gartref.
Fel arfer, mae’r gweithgareddau gwirfoddoli rydym yn eu cynnig yn canolbwyntio ar helpu i drefnu ein system gofnodi gyfrifiadurol a deunyddiau ffisegol, fel cynlluniau, llyfrau, mapiau a ffotograffau a ddefnyddiwyd i lunio’r cofnodion. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu â’r gwaith hwn, byddwn yn esbonio hyn yn fanylach ac yn gofyn ychydig o gwestiynau amdanoch chi i drefnu rhaglen sy’n addas i ni ac i chi.
Rydym hefyd yn cynnig profiad gwaith i ddisgyblion ysgol neu leoliadau gwaith i fyfyrwyr prifysgol. Mae cyfleoedd hyn yn boblogaidd a bydd angen i chi gysylltu â ni ymhell o flaen llaw os hoffech gymryd rhan yn y math hwn o leoliad.