Mae ein tîm Cyngor Treftadaeth yn gweithio fel curaduriaid archaeolegol. Cânt eu hariannu gan Cadw i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth er mwyn deall, gwerthfawrogi a rheoli amgylchedd hanesyddol de-orllewin Cymru. Mae’r amgylchedd hanesyddol yn derfynedig, yn fregus ac yn hawdd ei ddinistrio. Felly, mae angen i ni ystyried sut bydd ein gweithredoedd heddiw yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.
Yn ein gwaith, rydym yn ymateb i ymgynghoriadau ar lefel strategol gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol cyn cynnal mentrau amaeth-amgylcheddol neu goedwigaeth, fel rhan o gynlluniau â chyllid grant neu gan unigolion a rheolwyr tir.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i ddarparu ystod o wasanaethau archaeolegol a chyflawni prosiectau â chyllid grant.
Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor ar y nifer fawr o agweddau ar yr amgylchedd hanesyddol:
- i aelodau’r cyhoedd a grwpiau cymunedol, am yr amgylchedd hanesyddol ac i helpu i wneud ceisiadau am grantiau;
- i lywodraeth leol a chenedlaethol a sefydliadau eraill, er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei ystyried bob tro;
- i gyfarfodydd grwpiau cyswllt a grwpiau cynghori sefydliadau i gynrychioli buddiannau’r amgylchedd hanesyddol.
Rydym hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) gan unigolion a sefydliadau eraill.
Rydym yn fodlon rhoi cyngor ar unrhyw gwestiynau neu ymholiadau archaeolegol.
Mae’r pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn nodi trefniadau cydweithio ar gyfer yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol.
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth – dogfen PDF, Saesneg yn unig (yn agor mewn ffenestr newydd).
Fel rhan o’r trefniadau cydweithio mae Datganiad Ardal De Orllewin ar yr amgylchedd hanesyddol a naturiol wedi’i gynhyrchu.