CAERFYRDDIN

CAERFYRDDIN

CRYNODEB

Sefydlodd y Rhufeiniaid dref yng Nghaerfyrddin yn yr ail ganrif OC. Roedd hon yn anghyfannedd erbyn dechrau’r bumed ganrif, ond roedd anheddiad trefol bach o’r enw ‘Old Carmarthen’ wedi dod i fodolaeth yno cyn diwedd y cyfnod canoloesol. Taflwyd cysgod ar hon gan y ‘New Carmarthen’, sef tref Eingl-Normanaidd o ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Ffynnodd y dref, sefydlwyd ffrierdy a phriordy, a rhoddwyd amddiffynfeydd i’r Gaerfyrddin Newydd. Trwy gydol y cyfnod canoloesol, Caerfyrddin oedd y dref a’r porthladd mwyaf a phwysicaf yng Nghymru.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Siarter, marchnad wythnosol, dwy ffair flynyddol.

Maint: 281 o fwrdeisiaid yn 1300 (ynghyd ag 87 o fwrdeisiaid de vento). Caerfyrddin oedd y dref fwyaf a phwysicaf yng Nghymru yn ystod y cyfnod canoloesol.

Archaeoleg: Datgelodd cloddiadau graddfa fawr yn y castell, y priordy a’r ffrierdy
ddyddodion archaeolegol cyfoethog, cymhleth. Nid yw cloddiadau graddfa fach mewn mannau eraill wedi cynhyrchu tystiolaeth o’r un ansawdd.

LLEOLIAD

Mae tref Caerfyrddin wedi’i lleoli ar lan ogleddol Afon Tywi, yn y man pontio isaf a lle bo’r llanw ar ei uchaf (SN 413 200). Mae Dyffryn Tywi yn darparu llwybr cyfathrebu da i’r gogledd-ddwyrain ac ymlaen i Ganolbarth Cymru.

HANES

Mae gan Gaerfyrddin yr hanes mwyaf cymhleth o unrhyw fan yn Ne-orllewin Cymru, sy’n gwbl addas ar gyfer un o ddim ond dwy dref Rufeinig yn y wlad, a’r dref fwyaf a phwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod canoloesol. Mae’r cymhlethdod yn cael ei ddwysáu am fod dwy dref ganoloesol wedi bodoli yno: yr Hen Gaerfyrddin a’r Gaerfyrddin Newydd. Hon hefyd yw’r dref sydd wedi bod yn destun yr ymchwiliad archaeolegol mwyaf helaeth yn y rhanbarth.

Caerfyrddin yw’r unig le yn Ne-orllewin Cymru a all honni bod ganddo anheddiad Cymreig, sef cyn Eingl-Normanaidd, a oedd yn ymdebygu i dref – ac a elwid yn ddiweddarach yn Hen Gaerfyrddin – ond ni wyddys lle oedd union leoliad yr anheddiad hwn, na’i faint na’i gymeriad. Mae’r ychydig ffynonellau hanesyddol sy’n bodoli ar gyfer yr Hen Gaerfyrddin yn cofnodi marchnad (roedd hon yn destun dadl i fwrdeisiaid y Gaerfyrddin Newydd, fel yn achos hawliau eraill; bu i anghydfodau tir rhwng yr Hen Gaerfyrddin a’r Gaerfyrddin Newydd ruo ymlaen i’r unfed ganrif ar bymtheg). Gallai can swllt mewn rhent taladwy a gofnodwyd ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif/ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg gyfateb i 100 o diroedd bwrdais, a oedd yn anheddiad sylweddol yn y cyfnod. Roedd gan y tŷ crefyddol a gysegrwyd i Deulyddog Sant, ac a oedd wedi’i leoli, yn ôl pob tebyg, yn union i’r dwyrain o’r hen dref Rufeinig, gysylltiad agos â’r anheddiad hwn.

Sefydlodd Harri I gastell yng Nghaerfyrddin c.1106 i fod yn ganolfan pŵer a llywodraeth Frenhinol Lloegr yn Ne-orllewin Cymru. Dewisodd Henry glogwyn uwchben Afon Tywi ar gyfer ei gastell, a oedd sawl can metr i’r de-orllewin o’r hen dref Rufeinig, Moridunum, a’r anheddiad Cymreig a ddaeth i gael ei alw’n Hen Gaerfyrddin.

Map yn dangos yr Hen Gaerfyrddin a’r Gaerfyrddin Newydd fel yr oeddent, o bosibl, c.1150.

Yn fuan ar ôl sefydlu’r castell, byddai mewnfudwyr wedi cael gwahoddiad i gyfanheddu yn yr hyn a ddaeth i fod y Gaerfyrddin Newydd. Datblygodd yr egin-dref hon y tu allan i gatiau’r castell, a chyfeirir ati gyntaf yn 1116, pan ymosododd y Cymry arni a’i llosgi, ynghyd â’r castell. Roedd y ganrif ganlynol yn un a welodd ymosodiadau Cymreig dro ar ôl tro ar y dref a’r castell, sef yn 1137, 1146, 1159, 1196 ac 1214. Yn yr ymosodiad olaf, aeth y trigolion eu hunain ati i roi’r dref ar dân er mwyn atal iddi syrthio i ddwylo’r Cymry.

Map yn dangos y Gaerfyrddin Newydd fel yr oedd, o bosibl, yn 1268.

Er gwaethaf yr anawsterau hyn, ffynnodd Caerfyrddin, a hynny’n bennaf oherwydd hawliau a breintiau a roddwyd i bobl y dref gan Harri II, ac a gadarnhawyd yn ddiweddarach gan y Brenin John, a siarter yn 1256-7. Roedd gan y dref farchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol, un ar 1 Awst. Erbyn 1220, roedd pont wedi cael ei chodi dros Afon Tywi, ac yn 1233 rhoddwyd yr hawl i’r dref godi mur – byddai hwn, bron yn sicr, wedi disodli amddiffynfeydd pridd a phren a oedd yn siŵr o fod wedi cael eu hadeiladu i amddiffyn y dref ym mlynyddoedd cyntaf ei bodolaeth. Datblygodd Caerfyrddin yn borthladd pwysig, gan ddirywio tua diwedd y cyfnod canoloesol am fod yr afon wedi siltio. Golygodd hyn fod yn rhaid i longau mwy ddadlwytho yng Nghastell Gwyrdd, sawl cilometr i lawr yr afon o’r dref. Roedd pedair melin yn gwasanaethu’r dref.

Nid esgeuluswyd bywyd ysbrydol pobl y dref. Mae yna dystiolaeth ar gael fod Eglwys San Pedr, a oedd wedi’i lleoli ym mhorth dwyreiniol yr hen dref Rufeinig, yn bodoli cyn yr unfed ganrif ar ddeg ac yn gwasanaethu anghenion trigolion yr Hen Gaerfyrddin. Parhaodd i gyflawni’r pwrpas hwn a diwallu anghenion holl drigolion y Gaerfyrddin Newydd hyd nes i’r Santes Fair gael ei sefydlu wrth galon y dref newydd ym mlynyddoedd canol y drydedd ganrif ar ddeg. Tua 1125, sefydlodd yr Awstiniaid briordy wedi’i gysegru i Deulyddog Sant a Sant Ioan Fedyddiwr, a hynny ar safle’r tŷ crefyddol o’r cyfnod cyn Eingl-Normanaidd, gan ddisodli’r Benedictiaid a oedd wedi meddiannu’r safle am rai blynyddoedd. Tua 1284, sefydlodd y Ffransisiaid ffrierdy i’r gorllewin o dref gaerog y Gaerfyrddin Newydd. Cofnodir dau gapel hefyd, un wedi’i gysegru i’r Santes Barbara a’r llall i’r Santes Catherine, ac roedd yr olaf wedi’i leoli’n agos at Heol y Santes Catrin, sydd i’w chael yng Nghaerfyrddin heddiw.

Mae’n anodd asesu maint y Gaerfyrddin Newydd yng nghanrif gyntaf a hanner ei bodolaeth, ond roedd bron yn sicr wedi’i chynnwys y tu mewn i gyffiniau ei hamddiffynfeydd; rhoddodd dogfen yn dyddio o 1233 yr hawl iddynt gael eu hadeiladu mewn carreg. Mae arolwg dyddiedig 1268 yn rhoi cipolwg ar y dref. Mae’n cofnodi 118¾ o diroedd bwrdais y tu mewn i’r dref gaerog, yr eid i mewn iddi trwy bedair gât. Y tu allan i’r muriau, cofnodwyd 21 o diroedd bwrdais ar Heol Awst, 12 ar Heol y Bont, 11 ar Heol y Cei a chwech ar Heol y Brenin. Yn ogystal â hyn, roedd yna 39 o fwrdeisiaid de vento ac 14 o chensers – roedd unigolion y ddau grŵp hyn yn talu rhent i fwynhau breintiau bwrdeisiol ond nid oeddent yn byw yn y dref. Ehangodd y dref yn gyflym yn ystod blynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg: cofnodwyd 181 o fwrdeisiaid yn 1275 a 281 (ynghyd ag 87 o fwrdeisiaid de vento) yn 1300. Cyrhaeddodd niferoedd poblogaeth y Gaerfyrddin Newydd ganoloesol uchafbwynt yn yr 1330au a dechrau’r 1340au pan gafodd refeniw blynyddol o dros £40 ei roi. Yna dirywiodd yn ddramatig wrth i’r pla ysgubo ar draws Ewrop. Yn 1349, gostyngodd y refeniw i £12 8s 3d, ac yna cododd i £33 yn ystod y degawd nesaf. Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr yn negawd cyntaf y bymthegfed ganrif, ymosodwyd ar y dref a dinistriwyd eiddo, ac anogodd hyn bobl y dref i wneud cais am grant yn 1415 i estyn muriau’r dref fel eu bod yn cynnwys tiroedd bwrdais ar Heol y Brenin a Heol Spilman.

Erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y priordy a’r ffrierdy wedi’u diddymu, roedd rôl reolaethol y castell wedi dirwyn i ben, ac, ar y cyfan, roedd Caerfyrddin yn lle gwahanol iawn i’r glofan estron Seisnig o’r ddeuddegfed ganrif mewn tirwedd elyniaethus Gymreig. O ganlyniad i’r diwydiannu cynyddol yn Ne-ddwyrain Cymru, collodd Caerfyrddin ei statws o fod yn dref fwyaf a phwysicaf Cymru; serch hynny, parhaodd i ehangu a ffynnu.

MORFFOLEG

Ni wyddys am union leoliad yr Hen Gaerfyrddin, na’i chymeriad. Prin yw’r dystiolaeth ddogfennol; nid oes yna dystiolaeth archaeolegol yn bodoli ar gyfer yr Hen Gaerfyrddin. Fodd bynnag, byddai anheddau’r Hen Gaerfyrddin wedi bod, fwyaf tebyg, ar y naill ochr a’r llall i Heol-y-Prior yn yr hen dref Rufeinig, Moridunum, a hefyd yn agos at y priordy.

Mae llawer mwy yn hysbys am y Gaerfyrddin Newydd. Mae’r drefn ar hap, braidd, sydd i’r strydoedd yn dynodi na chawsant eu trefnu i gynllun; yn hytrach, roeddent wedi datblygu’n naturiol yn fuan ar ôl sefydlu’r castell c.1106. Roedd gan y Gaerfyrddin Newydd farchnad fawr iawn; mewn gwirionedd, roedd bron â bod yn ddwy farchnad, sef Maes Nott a Chlos Mawr heddiw; mae’n bosibl mai marchnad Maes Nott a ddatblygodd gyntaf, yn union y tu allan i gatiau’r castell, a bod yr un fwyaf – Clos Mawr – wedi cael ei hychwanegu ychydig yn ddiweddarach. Cafodd Eglwys y Santes Fair yng Nghlos Mawr ei chodi ym mlynyddoedd canol y drydedd ganrif ar ddeg, a dechreuodd adeiladau eraill fewnlenwi Clos Mawr a Maes Nott yn ddiweddarach yn y cyfnod canoloesol. Mae olion y Santes Fair wedi goroesi yn lloriau isaf siopau. Byddai tiroedd bwrdais wedi cael eu sefydlu o amgylch y marchnadoedd ac ar hyd Heol y Bont a Heol y Cei. Byddai amddiffynfeydd tref o bridd a phren wedi cael eu darparu ym mlynyddoedd cyntaf y dref newydd er mwyn amddiffyn pobl y dref yn yr amgylchedd gelyniaethus a oedd ohoni. Byddai mur y dref, a adeiladwyd yn fuan ar ôl 1233, wedi dilyn llinell yr amddiffynfeydd pridd a phren cynharach. Mae’n amlwg o arolwg 1268 fod y Gaerfyrddin Newydd wedi’i chyfyngu bron yn gyfan gwbl i’r dref gaerog.

Ehangodd y Gaerfyrddin Newydd yn gyflym yn ystod blynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Erbyn yr 1340au, roedd tiroedd bwrdais newydd wedi cael eu sefydlu ar hyd Heol y Brenin a Heol Spilman, gyda lonydd croes yn cysylltu’r ddwy stryd. Mae siâp rheolaidd y tiroedd bwrdais a phatrwm grid y strydoedd hyn yn dystiolaeth o ehangu cynlluniedig. Sefydlwyd tiroedd bwrdais newydd hefyd ar Heol Awst. Unwaith eto, roedd hwn yn anheddiad cynlluniedig, gyda chynllun ‘siâp sigâr’ y stryd yn addas ar gyfer cynnal marchnadoedd a ffeiriau (cynhelid un o ffeiriau Caerfyrddin ar 1 Awst, sef Calan Awst). Does dim amheuaeth bod y rhan hon o’r dref wedi cael hwb pan sefydlodd y Ffransisiaid eu ffrierdy ar ochr ddeheuol Heol Awst c.1284.

Mae llinell muriau estynedig 1415 yn hollol amlwg yn y dref fodern. Yn y bôn, roedd y muriau’n cynnwys y tiroedd bwrdais a gafodd eu sefydlu ar hyd Heol y Brenin a Heol Spilman, gan olygu bod y rhai ar hyd Heol Awst yn ddiamddiffyn. Mae’r gostyngiad mewn refeniw o bwynt uchel yn yr 1330au-1340au yn cynrychioli cwymp yn y boblogaeth, ac felly byddai yna lawer o diroedd bwrdais gwag wedi bod yn y dref. Dros amser, byddai’r rhain wedi cael eu hadfeddiannu’n raddol a thai newydd wedi cael eu hadeiladu, ac erbyn 1500 byddai poblogaeth a maint y dref wedi bod yn debyg i’r boblogaeth yn yr 1330au-1340au.

Nid yw adeiladau canoloesol Caerfyrddin wedi goroesi’n dda: nid oes unrhyw ran wedi goroesi o furiau a gatiau’r dref; mae’r holl dystiolaeth uwchlaw’r ddaear ar gyfer y ffrierdy wedi hen fynd; dymchwelwyd y bont ganoloesol yn 1936; mae Eglwys y Santes Fair wedi diflannu; ac, ar wahân i’r porthdy, y mae ei olion wedi goroesi mewn tŷ o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, does dim byd uwchlaw’r ddaear yn weddill o’r priordy. Mae porthdy cain y castell a rhai o’i dyrau wedi goroesi, ond ysgubwyd y rhan fwyaf ohono ymaith wrth i adeiladau diweddarach gael eu codi. Dim ond Eglwys San Pedr sy’n sefyll fel tystiolaeth ffisegol o gyfoeth a phwysigrwydd blaenorol y dref.

Map yn dangos Caerfyrddin fel yr oedd, o bosibl, c.1450.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru