DINEFWR A’R DRENEWYDD

DINEFWR A’R DRENEWYDD

CRYNODEB

Ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, datblygodd anheddiad y tu allan i gatiau Castell Dinefwr. Parhaodd i fod yn fach, yn deyrngar ei wasanaeth i’r llys Cymreig yn y castell. Yn fuan ar ôl 1280, pan syrthiodd y castell i ddwylo’r Saeson, rhoddwyd marchnad wythnosol a ffair flynyddol i’r ‘town of Dinefwr’. Fodd bynnag, ychydig ar ôl 1280 sefydlwyd tref newydd (Y Drenewydd) gryn bellter i ffwrdd o’r castell, a hynny ar dir y mae eiddo sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn sefyll arno, sef Tŷ Newton. Erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, roedd y ddwy dref yn anghyfannedd. Mae gwrthgloddiau yn nodi lleoliad tref Dinefwr, ac mae ymchwiliadau archaeolegol wedi canfod olion y Drenewydd.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Bwrdeistref. Siarter tref 1363. Marchnad wythnosol a ffair flynyddol.

Maint: 1302-3 Dinefwr 13 o diroedd bwrdais a’r Drenewydd 35 o diroedd bwrdais.

Archaeoleg: Mae gwaith cloddio ac arolwg wedi datgelu olion Newton.

LLEOLIAD

Mae gefeilldrefi Dinefwr/y Drenewydd wedi’u lleoli ym Mharc Dinefwr, sydd tua 1.5 km i’r gorllewin o Landeilo yn Nyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin. Roedd tref Dinefwr wedi’i lleoli’n agos at Gastell Dinefwr (SN 6123 2169), mewn man amlwg ar frig llethr serth. Mae coetir collddail yn gorchuddio’r safle. Roedd y Drenewydd mewn lleoliad mwy cysgodol, sef ar dir gwastad 700 m i’r gogledd (SN 61472245), ac oddi tan yr hyn a elwir bellach yn Dŷ Newton (ac a elwid gynt yn Gastell Dynevor), ynghyd â’r adeiladau allanol, y gerddi a’r parcdir oddi amgylch.

HANES

Sefydlodd Rhys ap Gruffydd Gastell Dinefwr yn fuan ar ôl iddo ddod i feddiant Cantref Mawr yn 1163, er bod yr hyn sydd wedi goroesi o’r castell gwaith maen yn perthyn i ganrifoedd diweddarach. Arhosodd y castell (i raddau helaeth) yn nwylo’r Cymry tan 1280, pan basiodd i feddiant Coron Lloegr ac yn ddiweddarach i unigolion a oedd yn deyrngar i Goron Lloegr. Mae’n ymddangos bod y castell wedi cael ei gynnal a’i gadw trwy gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond, wrth i anghenion milwrol leihau yn ystod y bymthegfed ganrif, pasiodd y castell i ddwylo’r teulu Standish. Roeddent yn landlordiaid absennol yn y bôn, a dirywiodd y castell.

Yn yr un modd â safleoedd tebyg eraill yng Nghymru, mae’n debyg y byddai anheddiad wedi datblygu o amgylch gatiau’r castell. Yn Ninefwr yn 1280 cofnododd syrfewyr Edward I bentrefan de Scleygon‘vill of the Clerks’, a elwid yn ddiweddarach, yn 1318, yn ‘Trefscoleygyon’. Mae’n debyg mai anheddiad o offeiriaid, beirdd a gweinyddwyr oedd hwn a oedd yn perthyn i lys Dinefwr, ac a fyddai, o bosibl, wedi’i leoli’n agos at y castell neu hyd yn oed yn ei feili allanol. Hyd at 1280, mae’n debyg mai o’r braidd y gellid galw’r ‘vill of the Clerks‘ yn dref. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl i’r castell ddod i ddwylo’r Saeson yn 1280, cyhoeddodd Prif Ustus Gorllewin Cymru farchnad wythnosol a ffair flynyddol ‘yn nhref Dinefwr’. Roedd y datblygiad yn gyflym, oherwydd erbyn 1298 roedd y dref yn cynnwys 26 o diroedd bwrdais a llys i weinyddu cyfiawnder. Serch hynny, dadleuir isod nad oedd pob un o’r tiroedd bwrdais hyn wedi’u lleoli’n agos at y castell.

Er ei bod yn debygol bod hen dref Dinefwr wedi’i lleoli’n agos at y castell, mae presenoldeb tri eiddo a gofnodwyd ‘near Llandavyson’ yn 1532 yn arwydd, efallai, fod y dref wedi’i gwasgaru dros ardal eang, gyda thai yn agos at Eglwys Llandyfeisant, 1 km i’r dwyrain.

Mae’n debygol bod digwyddiadau o gwmpas 1280 wedi arwain at fewnfudwyr yn chwyddo’r boblogaeth ac at aildrefnu’r anheddiad, elfennau a arweiniodd yn y pen draw at anheddiad ‘gefeilldrefi’, gyda Dinefwr yn ‘hen dref’ a’r dref newydd (Y Drenewydd) wedi’i lleoli ar safle Tŷ Newton heddiw. Ni ddigwyddodd yr aildrefnu hwn ar unwaith, oherwydd yn 1300 ceir y cofnod hwn am y Drenewydd: ‘Of this town nothing for the burgages and lands, because they are not yet arrented’. Mae’n ymddangos yn debygol, felly, fod 26 o diroedd bwrdais a gofnodwyd yn 1298 yn cynnwys cyfuniad o diroedd bwrdais ar rent yn hen dref Dinefwr, ynghyd â thiroedd bwrdais a oedd newydd gael eu sefydlu yn y dref newydd yn barod ar gyfer cyfanheddwyr ond a oedd heb eu meddiannu, a hynny am y nodir yn 1302-03 fod hen dref Dinefwr (neu’r dref uchaf) yn cynnwys dim ond 13 o diroedd bwrdais, tra oedd gan dref newydd y Drenewydd (neu’r dref isaf) 35 o diroedd bwrdais.

Cymry oedd tenantiaid yr hen dref; mewnfudwyr oedd preswylwyr y dref newydd, ar wahân i un tenant o Gymro. Yn amlwg, felly, roedd Coron Lloegr nid yn unig yn sicrhau ei gafael ar Dde Cymru trwy hyrwyddo mewnfudo, ond roedd hefyd yn mwyafu ei helw trwy annog tenantiaid i gyfanheddu mewn tref newydd y tu hwnt i’r rhannau cyfyng a braidd yn anghyfleus o amgylch y castell.

Yn rhyfeddol, goroesodd y ddau anheddiad y cwymp yn y boblogaeth a’r dirywiad economaidd ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar ddeg a ddeilliodd o ddinistr y pla gydol yr 1340au. Yn 1360, roedd rhent yr hen dref yn 25s 4d, ond yn y dref newydd fwy poblog, talodd o leiaf 46 o fwrdeisiaid swllt yr un mewn rhent, a’r bobl nad oeddent yn fwrdeisiaid 10s 6d. Bu i siarter yn 1363 gryfhau safle’r dref. Estynnwyd breintiau yn y siarter mewn ail siarter yn 1392.

Fodd bynnag, breintiau a hawliau’r bwrdeisiaid ‘o Loegr’ a gafodd eu cryfhau’n bennaf gan fod y siarteri’n eu galluogi i fonopoleiddio materion masnachol a gweinyddol ac yn rhoi rhywfaint o imiwnedd cyfreithiol iddynt: ni allent gael eu dirwyo gan Gymry yn llysoedd Brenhinol Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Mae’r siarteri’n nodi uchafbwynt yn hanes y dref oherwydd, yn 1394-5, arhosodd rhenti’r hen dref yn 25s 4d, ond roedd nifer y tiroedd bwrdais yn y dref newydd wedi gostwng ychydig i 40. Roedd y siarteri, er eu bod yn nodi uchafbwynt i’r dref newydd, yn arwydd o gnul marwolaeth yr hen dref Gymreig o amgylch y castell, er nad yw’r dyddiad pan gafodd ei gadael yn anghyfannedd yn hysbys. Mae’n ymddangos bod hyd yn oed y dref newydd fwy llwyddiannus wedi ildio i gystadleuaeth o du tref Llandeilo Fawr, a oedd wedi’i lleoli mewn man mwy manteisiol, oherwydd ganol yr 1530au cafodd ei disgrifio gan John Leland yn ‘sumtime a long streat nowe ruinus’.

Yn 1532, adeiladodd Rhys ap Thomas y ‘Mansion of Newton’ a oedd yn ‘stendeth within the town of Newton’. Mae’r disgrifiad ohono yn nodi bod gan y plasty wyth siambr, neuadd to llechi wedi’i phalmantu â theils Fflandrys, a nifer o adeiladau allanol. Tybir i’r plasty gael ei adeiladu yn y dref adfeiliedig, fel y disgrifiwyd gan Leland. Mae ffynonellau’n dangos bod adeilad newydd wedi disodli’r plasty gwreiddiol rhwng 1595 ac 1603. Disodlwyd hwn yn ei dro gan yr adeilad presennol, a hynny c.1660. Yn 1804, cofnododd Richard Fenton y canlynol: ‘Behind the House to the West was the town called Trenewydd (Newtown) – and indeed the daily appearance of fragments of buildings as dug up in almost every part confirms it’. Datgelodd gwaith gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardd ffurfiol y tu ôl i’r tŷ sylfeini adeiladwaith sylweddol. Cofnodwyd hen sylfeini hefyd wrth i gytiau Nissen gael eu codi i’r de-ddwyrain o Dŷ Newton yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

MORFFOLEG

Oherwydd y coetir collddail trwchus, mae’n anodd iawn pennu union leoliad hen dref Dinefwr yn fanwl gywir. Mae gwrthgloddiau isel sy’n rhedeg ar onglau sgwâr bob ochr i’r trac sy’n arwain i’r dwyrain o’r castell, ac sy’n weladwy ar y ddaear ac wedi’u cofnodi yn ystod arolwg topograffig, ond eu diffinio’n well ar ddelweddau LiDAR, yn dynodi hen ffiniau, a oedd, yn ôl pob tebyg, yn diffinio tiroedd bwrdais. Mae’n ymddangos bod yna tua 10-15 o diroedd bwrdais bob ochr i’r trac. Efallai bod teras sydd i’r gogledd o’r castell, ynghyd ag ar lefel is, hefyd wedi cynnwys tai. Methodd tyllau prawf archaeolegol yn y ddwy ardal uchod â datgelu tystiolaeth o feddiannaeth ganoloesol neu ddiweddarach.

Nid oes tystiolaeth ar yr wyneb ar gyfer y Drenewydd, ond mae ffynonellau dogfennol a thystiolaeth archaeolegol yn gosod y dref oddi tan ac o amgylch y Tŷ Newton presennol, y gerddi ffurfiol, y cyrtiau, y meysydd parcio i ymwelwyr a’r parcdir cyfagos. Mae paentiadau o c.1700 sy’n crogi yn Nhŷ Newton yn dangos yr hyn sy’n ymddangos fel tiroedd bwrdais goroesol wedi’u hamgylchynu â pherthi y tu ôl i’r tŷ (i’r gorllewin), y tu hwnt i erddi ffurfiol. Canfu arolwg geoffisegol, ac yna waith cloddio archaeolegol graddfa fach mewn parcdir i’r gorllewin, y dwyrain a’r gogledd o’r tŷ, dystiolaeth o’r dref ganoloesol a’r gerddi ffurfiol a welir yn y paentiadau, ond mae’n debygol bod y rhan fwyaf o’r dref wedi’i lleoli o dan Dŷ Newton ei hun a’i adeiladau a’i erddi cysylltiedig.

Nid oes yna dystiolaeth o gwbl fod Dinefwr na’r Drenewydd wedi meddu ar amddiffynfeydd erioed.

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru