DRYSLWYN

DRYSLWYN

DRYSLWYN

CRYNODEB

Yn y drydedd ganrif ar ddeg, datblygodd tref fach, gaerog Gymreig ar ben bryn y tu allan i gatiau Castell Dryslwyn. Ddiwedd y ganrif honno, yn dilyn concwest Edward I yng Nghymru, cafodd ei thrawsnewid yn fwrdeistref ‘Seisnig’. Yn ei hanterth, roedd yn cynnwys 50-55 o dai ac yn cael ei amddiffyn gan fur tref. Dirywiodd ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg ac ymddengys ei bod wedi cael ei gadael yn anghyfannedd, i raddau helaeth, erbyn canol y bymthegfed ganrif. Mae gwrthgloddiau sylweddol llwyfannau tai a’r cylch amddiffynnol wedi goroesi ar ben y bryn. Mae gwaith cloddio wedi amlygu’r potensial archaeolegol mawr sydd yn Nryslwyn.

FFEITHIAU ALLWEDDOL

Statws: Bwrdeistref. Cadarnhaodd siarter 1391 hawliau cynharach

Maint: 1303-04 tref â 50-55 o dai.

Archaeoleg: Cloddiwyd gât y dref, rhan o’r cylch amddiffyn a safle tŷ.

LLEOLIAD

 

Mae castell a thref Dryslwyn wedi’u lleoli ar fryn amlwg sy’n codi 50 m o orlifdir Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin (SN 5546 2041). Mae tref Caerfyrddin 14 km i lawr yr afon a Llandeilo 8 km i fyny’r afon. Mae Dryslwyn yn agos at lwybrau cysylltiol, gyda Dyffryn Tywi yn goridor dwyreiniol/gorllewinol rhagorol, a dyffrynnoedd Afon Dulas ac Afon Cothi yn rhoi mynediad i’r bryniau tonnog i’r gogledd. Mae cwm bychan yn darparu porth i’r de.

HANES

Sefydlwyd Castell Dryslwyn gan Rhys Grug yn yr 1220au, a hynny ar gyfer ei fab Maredudd ap Rhys. Datblygodd anheddiad bach y tu allan i gatiau’r castell, ac yn 1281 rhoddodd Edward I yr hawl i Maredudd gynnal ffair bedwar diwrnod flynyddol yno, a oedd yn ddatblygiad pwysig yn y dref broto-Gymreig. Roedd trefi Cymreig caerog yn brin yn y cyfnod, ond roedd Dryslwyn yn enghraifft o dref o’r fath gan fod dogfennau yn 1287 yn cofnodi taliadau am lanhau ffos y dref. Yn dilyn gwarchae yn 1287, cymerodd Edward I y castell oddi ar Maredudd ac aeth ati i’w gryfhau. Aeth Edward ati i ehangu llawer ar y dref hefyd, gan greu 37 o leiniau tir bwrdais a hyrwyddo mewnfudo. O’r bwrdeisiaid newydd, dim ond pedwar oedd yn Gymry. Mae cyfrifon 1301-04 ac 1303-04 yn cofnodi 37 o diroedd bwrdais yn y dref ac 16½ yn y pentrefan o dan y castell. Erbyn hyn, roedd y dref yn cynnwys 50-55 o dai, a phoblogaeth amcangyfrifiedig o 250-275. Awgrymwyd bod y bobl y tu mewn i amddiffynfeydd y dref yn fwrdeisiaid ‘o Loegr’, ond nad oedd gan y rhai y tu allan yr un hawliau a breintiau a’u bod yn debygol o fod yn Gymry.

Er bod presenoldeb bwrdeisiaid a ffair flynyddol yn awgrymu statws bwrdeistref, ni wyddys am siarter tref ar gyfer y cyfnod cynnar hwn o’r dref, a dim ond yn 1391 y cadarnhawyd bod siarteri 1324 ac 1355 wedi mynd ar goll.

Mae cyfrifon 1356-7 yn sôn yn benodol am furiau’r dref a bod yna rai pobl yn byw y tu allan i’r muriau, ar Heol y Bont. Erbyn y dyddiad hwn, roedd pont dros Afon Tywi wedi disodli’r rhyd wreiddiol, ac mae’n debygol bod yr 14 o diroedd bwrdais y tu allan i’r muriau wedi’u lleoli ar y llethr sy’n arwain i lawr at y gorlifdir. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod y dref wedi crebachu ychydig erbyn 1356-7. Mae’n debyg bod dychweliad y pla i Orllewin Cymru yn 1361 ac 1369 wedi arwain at ddiboblogi pellach a bod ailgadarnhau breintiau yn 1391 yn ymgais i aildanio’r dref. Cadarnhawyd y siarter eto yn 1444, ond mae’n debygol bod y dref bron yn anghyfannedd erbyn hynny.

MORFFOLEG

Mae’r dref a’r castell wedi’u lleoli ar gopa a llethrau uchaf bryn glaswelltog Dryslwyn. Mae gwrthgloddiau sylweddol yn nodi lleoliadau’r tai canoloesol ac amddiffynfeydd y dref.

Roedd awdurdodau cynharach wedi lleoli’r dref wrth droed y bryn; dangoswyd bod hyn yn anghywir.

Y dref Gymreig yn nhrydydd chwarter y drydedd ganrif ar ddeg (o Caple C 2007, Excavations at Dryslwyn Castle 1980-95, ffig. 8.6).

Y fwrdeistref Seisnig ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg (o Caple C 2007, Excavations at Dryslwyn Castle 1980-95, ffig. 8.8).

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru